Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
Lle ar y We i'r Gymraeg
Ebrill 2009
Mae Ioan Wyn Evans o Golwg360 yn trafod pwysigrwydd deunyddiau Cymraeg ar y we.

Does dim dwywaith nad yw Cwlwm a degau o bapurau bro eraill ar hyd a lled Cymru yn ffynonellau pwysig i adrodd newyddion lleol, rhoi gwybod i ddarllenwyr am ddigwyddiadau ac ysgogi trafodaeth.

A thra bydd papurau yn parhau yn ddulliau effeithiol o ledaenu newyddion am flynyddoedd i ddod mae'n siwr, mae'n amhosib erbyn hyn anwybyddu dylanwad y We hefyd fel cyfrwng cyfathrebu.

Ac mae'n hollbwysig bod y Gymraeg yn hawlio lle amlwg ar y cyfrwng hwnnw.

Cyn bo hir, mewn menter hynod gyffrous, bydd Golwg yn creu gwasanaeth newyddion ar y We.

Fel rhan o'r gwasanaeth hwnnw bydd straeon o Gymru a gweddill y byd yn ymddangos yn gyson trwy'r dydd.

Ond, os yw'r gwasanaeth am fod yn llwyddiant mewn gwirionedd, mae angen i bob math o gyrff, cwmnïau a mudiadau fod yn rhan ohono a chyfrannu ato.

Fe fyddai'n wych gweld ardal Caerfyrddin a Cwlwm yn cael ei chynrychioli'n gryf.

Y syniad yw ei fod e'n fwy na gwasanaeth newyddion.

Bydd lle i bob math o gymdeithasau, clybiau a mudiadau gymryd eu safle bach eu hunain ar y gwasanaeth - tudalen neu ddwy i ddweud wrth bawb pwy ydyn nhw ac i roi eu newyddion diweddara'.

Fe allai ysgol wneud, neu glwb chwaraeon neu, wrth gwrs, bapur bro. A'r cyfan yn hawdd a didrafferth.

Mae yna ffyrdd eraill o gyfrannu hefyd.

Ym myd chwaraeon, er enghraifft, os oes rhywun yn sgorio gôl neu gais i dîm lleol a bod rhywun wedi tynnu llun neu wneud fideo o hynny, fe allech chi ei anfon i mewn i'w roi ar y gwasanaeth.

Felly, chi swyddogion a chefnogwyr y clybiau pêl-droed a rygbi lleol, cofiwch fynd â'ch camerau gyda chi i Barc Waun Dew a Pharc y Dre, ac ati, pan fyddwch chi'n mynd yno i wylio gemau.

A does dim rhaid cyfyngu pethau i bêl-droed a rygbi, wrth gwrs.

Beth am gael safle bach i glwb ralio, clwb cerdded neu hyd yn oed i glwb jiwdo?

A thu hwnt i chwaraeon, bydd cyfle i fudiadau eraill hefyd - o Ferched y Wawr i gorau a chapeli ac eglwysi. A beth am y Ffermwyr Ifanc? Mae'n siwr bod digonedd o luniau o bob math o ddigwyddiadau gan aelodau'r clybiau (ac mae rhai yn ffit i'w dangos i'r cyhoedd hefyd!).

Ac, i grwp pop ifanc sydd am gael llwyfan i'w gwaith, dyma le gwych i lwytho caneuon neu fideos fel bo modd i eraill eu gweld a'u clywed.

Fydd pob peth ddim yn digwydd reit o'r dechrau, ond mae'r cyfle yno, ac fe fydden ni'n hoffi clywed gan unrhywun sydd â syniad.

Un fantais fawr i'r gwasanaeth newydd yw ei fod am ddim.

Fydd dim rhaid i neb dalu am ddarllen yr holl ddeunydd na gwylio clipiau o fideos ac ati.

Does yna ddim byd yn union yr un peth - yn cynnig gwasanaeth newyddion proffesiynol, adloniant a'r elfennau cymunedol a chymdeithasol yma.

Os bydd pawb yn cymryd y cyfle sydd ar gael i gymryd rhan a chyfrannu, fe fydd y gwasanaeth newydd yma'n torri tir hollol newydd, nid dim ond yng Nghymru ond, hyd y gwyddon ni, yng ngweddill gwledydd Prydain hefyd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý