Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
Rhian Evans Y Peiriant Braille Rhyfeddol
Mawrth 2009
Mae peiriant braille newydd yn un o drysorau pennaf Miss Rhian Evans, fel y mae Cwlwm wedi cael clywed.

Un o ryfeddodau Caerfyrddin yw Miss Rhian Evans.

Ers blynyddoedd bellach, collodd ei golwg.

Er hynny, dyw'r broblem yna ddim wedi ei rhwystro i gyflawni cant a mil o orchestion a fyddai tu hwnt i berson cyffredin.

Mae'n medru ymdopi a cherdded o gwmpas y dre a'i ffon wen yn unig yn ganllaw, a'r unig arwydd ei bod yn ddall.

Mae ei chartref yn destun rhyfeddod hefyd - yn llawn teclynnau modern wedi eu haddasu ar gyfer y deillion. Does dim angen i neb helpu Rhian i wneud paned o de neu bryd o fwyd!

Mae'n berson diwylliedig a llengar ac un o'i gofidiau pennaf oedd methu â darllen llyfrau a chylchgronau.

Pan ddechreuodd sylweddoli bod ei golwg yn gwaethygu, aeth ati i gasglu tîm o bobol ynghyd i gynhyrchu papur llafar i ddeillion Caerfyrddin a thu hwnt. Erbyn hyn y mae yn agos i 300 yn derbyn cryno ddisgiau yn wythnosol yn llawn newyddion a phytiau difyr o'r hyn sy'n mynd ymlaen yn y sir. Cynhyrchir atodiad hefyd bob mis -yn Gym-raeg a Saesneg.

Er hynny mae Rhian wedi awchu am fwy o ddeunydd "darllen" ac erbyn hyn y mae peiriannau ar gael i gwrdd a'r gofyn yna hefyd.

Mae un ystafell bwysig yn nhy Rhian yn llawn peiriannau felly. Cyfrifiadur wedi addasu yn arbennig, sganiwr sy'n medru "darllen" biliau ac ati, heb son am lythyron, ac yn eu trosglwyddo ar lafar i Rhian.

Cyn bo hir fe fydd modd iddi ddanfon ymlyniadau (attachments) fel bod deillion eraill yn medru eu clywed.

Mae'r peiriannau hyn yn drysorau gwerthfawr i Rhian ond yn ddiweddar fe ddaeth peiriant sy'n fwy rhyfeddol fyth i'w chartref, ac fe ofynnodd Cwlwm iddi son mwy amdano.

Y Peiriant Braille Rhyfeddol

"Ddau gan mlynedd yn ôl i'r lonawr hwn, ganed Louis Braille yn Ffrainc a phan oedd yn dair oed collodd ei olwg trwy ddamwain gas yng ngweithdy'i dad.

Ond cyn diwedd ei oes fer, roedd wedi llwyddo i ddyfeisio system o ddotiau bychain wedi'u argraffu ar bapur, er mwyn gal-luogi deillion i ddarllen a'u bysedd, eiriau a lunir gan gyfuniad o ddotiau."

"Cymerais gryn amser i ddysgu'r ffordd newydd hon o ddarllen ond, yn awr, trwy ymarfer tipyn bob dydd, mae darllen yn dod yn haws ac yn bleser.

Roeddwn wrth fy modd felly, pan glywais yn ddiweddar bod modd i mi brynu peiriant sy'n medru cynhyrchu Braille o ddogfennau ar y cyfrifiadur mewn mater o eiliadau. Beth fyddai cost peiriant felly, tybed? Mil a hanner o bunnoedd oedd yr ateb, os oeddwn i gael peiriant newydd sbon.

Ond, y mae gen i ffrind sydd yn hen law ar brynu pethau ar E-Bay.

Fe welodd ef beiriant ail-law heb ei ddefnyddio fawr ddim, ar werth ar y we. A phris hwrinw oedd £270. A chyn pen fawr o dro, roedd y peiriant rhyfeddol wedi cyrraedd fy nghartref.

Clywodd Maer y Dref, y Cynghorydd Anthony Jenkins fy mod yn bwriadu prynu'r peiriant a, chwarae teg iddo, cynigiodd dalu amdano o'i lwfans personol fel Maer.

Teimlaf felly, nad f'eiddo i yn unig yw'r peiriant ond rhywbeth sydd at ddefnydd unrhyw un arall dall yn y cylch sydd yn dymuno'i ddefnyddio.

"Rhaid talu teyrnged i'm gweinidog, y Parchedig Beti-Wyn James, Capel y Priordy, am roi hwb ymlaen i'r ymgyrch i mi gael y peiriant arbennig yma a charwn ddiolch hefyd i amryw o aelodau'r capel sydd wedi cyfrannu arian er mwyn i mi brynu'r meddalwedd a'r papur sydd yn angenrheidiol i gael y cyfan i weithio.

"Mae Beti-Wyn yn awr yn gorfod gweithio'n galetach fyth! Oherwydd bob penwythnos, mae hi'n teipio geiriau'r emynau a'r darlleniad ac yn eu hanfon ataf ar e-bost.

"Yna, byddaf i'n gwasgu botwm neu ddau ar y cyfrifiadur ac yn argraffu'r geiriau mewn Braille.

"Mae'n rhaid dweud, ar ôl blynyddoedd o fethu â chanu emynau, yn enwedig rhai dieithr, mae medru canu unwaith eto yn y capel yn donic ardderchog."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý