麻豆约拍


Explore the 麻豆约拍

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Wyneb llwm y Cwm Cau

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆约拍 麻豆约拍page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Newid Byd

Wrth i'r hen ddiwydiannau traddodiadol grebachu a darfod, daeth swyddi newydd yn eu lle. Wrth gau'r chwareli a'r glofeydd agorwyd y swyddfeydd. Daeth gweithwyr y goler i ddisodli'r colier a'r chwarelwr. Daeth y swyddfa basport i Gasnewydd, canolfan drwyddedu a chofrestru ceir i Abertawe a'r Bathdy Brenhinol i Lantrisant. Mae Gwilym R. Tilsley yn ei awdl 'Cwm Carnedd' yn cymharu'r swyddi newydd 芒 gwaith ar bonciau'r chwarel. Mae hefyd yn gweld newid ym myd hamdden y gymdeithas wedi i gyfnod y teenager a roc a rol gychwyn. Nid ardaloedd poblog y De a'r Gogledd diwydiannol yn unig a ddioddefai ddiweithdra. 'Roedd y mecaneiddio ar ffermydd yn achosi diweithdra mawr hefyd. 'Roedd tractorau, peiriannau godro, byrnwyr a gwasgarwyr tail wedi creu diweithdra mawr. Collwyd dros 20,000 o weision fferm rhwng 1951 a 1971, a thorrwyd i'r hanner y nifer o bobl a weithiai ar ffermydd yn yr un cyfnod. Er bod elfen o ramantu pwysigrwydd amaethyddiaeth yn awdl Dic Jones, 'Cynhaeaf', a enillodd Gadair Aberafan ym 1969, mae hefyd yn cydnabod y tro a fu ar fyd.

'Roedd technoleg yn chwyldroi meysydd eraill hefyd. Daeth y rhewgell i'r gegin a'r set deledu i'r parlwr. 'Roedd y pum miliwn o setiau teledu yng nghartrefi Prydain yng nghanol y pumdegau wedi dyblu erbyn diwedd y degawd. A hanfod yn hytrach na moethusrwydd oedd y car bellach. Ymdrin ag effaith y dechnoleg newydd ar y teulu a wnaeth James Nicholas yn ei awdl anfuddugol, 'Yr Ymchwil' yn Eisteddfod Y Drenewydd ym 1965.

Er bod y teledu yn darparu adloniant rhwydd a rhad, 'roedd rhai yn pryderu y gallai hefyd fod yn andwyol i barhad y Gymraeg. Erbyn canol y pumdegau 'roedd y 麻豆约拍 yn paratoi rhai rhaglenni Cymraeg, a lliniarwyd rhywfaint ar yr ofn y gallai'r teclyn newydd poblogaidd fygwth parhad yr iaith pan agorwyd gwasanaeth teledu annibynnol, TWW, yng Nghymru ym 1958. Sylweddoli grym a phosibiliadau'r cyfrwng newydd, yn ogystal ag ofni'r niwed y gallai ei wneud i'r iaith, oedd y tu 么l i sefydlu Cwmni Teledu Cymru bedair blynedd ar 么l i TWW ddod i rym. Ond daeth i ben ar 么l deng mis o ddarparu gwasanaeth. Yn y cyfnod hwn o brinder rhaglenni Cymraeg, 'roedd rhai o weithgareddau'r Eisteddfod ymhlith yr uchafbwyntiau.

ymlaen...

 

Radio a Teledu

 
 

Capel Celyn

Un peth oedd diboblogi cefn-gwlad a chymoedd a dyffrynnoedd diwydiannol y De a'r Gogledd oherwydd problemau economaidd a chynnydd technoleg; peth arall oedd gorfodi cymuned gyfan i godi ei phac er mwyn cyflenwi dinas Lerpwl 芒 rhagor o dd^wr o Gymru. 'Roedd y s么n yng nghanol y pumdegau mai pentref bychan yn ardal Y Bala ym Meirionnydd oedd targed Corfforaeth Dinas Lerpwl wedi dychryn y trigolion. Buan yr aeth ofn hwnnw ar led drwy Gymru gyfan.

Sefydlwyd Pwyllgor Amddiffyn i brotestio yn erbyn y penderfyniad i foddi Capel Celyn. Ymunodd y rhan fwyaf o aelodau seneddol Cymru o bob plaid i wrthwynebu'r cynllun i foddi Cwm Tryweryn. Er pob a ap锚l a phrotest, gwrthododd Cyngor Dinas Lerpwl roi gwrandawiad i amddiffynwyr y Cwm, ac aethpwyd 芒'r brotest i Lerpwl ei hun.

Cafodd trigolion Capel Celyn gyfle i ddefnyddio'r cyfrwng pwerus newydd, y teledu, hyd yn oed, i dynnu sylw at eu pryder, ond ofer fu pob ymdrech i achub y Cwm. Ar drothwy Eisteddfod Llangefni ym 1957 seliwyd tynged Capel Celyn.

'Roedd yr amseriad yn anffodus o safbwynt Henry Brooke, y gweinidog ar Faterion Cymreig a oedd yn un o brif gefnogwyr y cynllun i foddi Cwm Tryweryn, ac 'roedd ei ymgyrch frwd wedi cynddeiriogi amddiffynwyr y Cwm. 'Roedd Pwyllgor Lleol Llangefni wedi gwahodd Brooke i annerch y dorf yn seremoni'r Cymry ar Wasgar pan fyddai yn ymweld 芒 rhai mannau ym M么n yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Anfonwyd llythyrau at Gyngor yr Eisteddfod yn protestio yn erbyn ffolineb y Pwyllgor Lleol. Protestiodd eraill drwy fygwth cadw draw o faes yr Eisteddfod. Anfonodd Gwynfor Evans lythyr at swyddogion yr Eisteddfod i'w rhybuddio y byddai anhrefn yn Llangefni pe bai Brooke yn bresennol yno, ond dehonglwyd y llythyr fel bygythiad yn hytrach nag fel rhybudd gan George Thomas, Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Caerdydd. Cachgwn oedd swyddogion y Cyngor yn 么l George Thomas.

ymlaen...



About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy