Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1956 - 1966

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod              Aberafan

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Trychineb Aberfan pan laddwyd 116 o blant a 28 o oedolion.
  • Llafur yn ennill mwyafrif mawr yn yr etholiad cyfredinol.
  • Marw Megan Lloyd George A.S. Caerfyrddin, a Gwynfor Evans, Plaid Cymru, yn ennill yr is-etholiad.
  • Cyflwyno'r prawf anadlu i yrwyr ceir a amheuid o fod yn feddw.
  • Carcharu Ian Brady a Myra Hindley am oes am lofruddio plant a phobl ifanc.
  • Barclays yn cyflwyno'r cerdyn credyd cyntaf.
  • Terfysgoedd yn yr Unol Daleithiau a phobl yn cael eu lladd yn Chicago, Efrog Newydd a Cleveland.
  • 31 yn cael eu harestio wedi protest yn erbyn rhyfel Vietnam ar Sgwâr Grosvenor, Llundain.
  • Timothy Evans, a grogwyd am ladd ei wraig a'i ferch pan oedd yn byw yn nhy'r llofrudd Reginald Christie, yn cael pardwn.
  • Agor Pont Hafren.
  • Agor rhan o'r M4, y draffordd drefol gyntaf ym Mhrydain, i osgoi Port Talbot.
  • Tîm pêl-droed Lloegr yn ennill Cwpan y Byd.
  • Marw Walt Disney, Buster Keyton a Dr Hendrick Verwoerd.

Archdderwydd               Gwyndaf

Y Gadair

Testun. Awdl: ' Cynhaeaf'
Enillydd: Dic Jones
Beirniaid: T. H. Parry-Williams, D. J. Davies, Thomas Parry
Cerddi eraill: Donald Evans oedd yr ail, a byddai wedi cael ei gadeirio pe na bai Dic Jones yn y gystadleuaeth. Y trydydd oedd Dafydd Jones, Prifardd y Goron yn yr un Eisteddfod. Cystadleuwyr eraill: James Nicholas, Dafydd Owen, Tom Parry-Jones, Emrys Roberts, W. Rhys Nicholas.

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Dyma un o awdlau mwyaf adnabyddus a llwyddiannus y ganrif. Ynddi y mae profiad, awen, cynghanedd a mynegiant yn un. Mae Dic Jones yn cydnabod y newid a ddaeth i fyd amaeth, yn hiraethus ac yn ddiolchgar ar yr un pryd.

Y Goron

Testun. Pryddest: ' Y Clawdd'
Enillydd: Dafydd Jones
Beirniaid: Caradog Prichard, Cynan, G. J. Roberts
Cerddi eraill: Dafydd Jones oedd yr ail yn y gystadleuaeth hefyd. 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Cerdd vers libre cynganeddol oedd y gerdd fuddugol. Profiad amaethwr a gwladwr a geir yn y gerdd hon hefyd, ac fel Dic Jones, yr oedd Dafydd Jones yn derbyn bendithion newydd 'ein hoes wyddonol'

Y Fedal Ryddiaith

Neb yn deilwng
 
Tlws y Ddrama

Hanner y wobr i Ken Etheridge
 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy