Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1956 - 1966

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod     Abertawe a'r Cylch

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Llafur yn dod i rym wedi'r etholiad cyffredinol.
  • Churchill yn gadael y senedd.
  • Penodi James Griffiths yn Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru gyda sedd yn y 'cabinet'. 'Roedd y Swyddfa Gymreig newydd â gofal am dai, llywodraeth leol, trafnidiaeth ffyrdd a rhai agweddau ar gynllunio lleol.
  • Carcharu Nelson Mandela am oes.
  • Ymladd ffyrnig rhwng carfanau o bobl ifanc a oedd yn eu disgrifio eu hunain fel 'mods' a 'rockers' ar draws Prydain.
  • Cyhoeddi deddf yn caniatáu Cymraeg ar ffurflenni pleidleisio.
  • Cwmni Ford yn agor ffatri yn Abertawe.
  • Lynn Davies yn ennill medal aur yn y gemau Olympaidd yn Tokyo.
  • Y ffilm Zulu ym ennill canmoliaeth.
  • Gwrthryfel a phrotestiadau hiliol yn yr Unol Daleithiau.
  • Argyfwng Vietnam yn dwysáu wedi ymosodiad gan Ogledd Vietnam ar un o longau'r Unol Daleithiau.
  • Y Daily Herald yn dod i ben a'r Sun yn cymryd ei le.
  • Aelodau Seneddol yn pleidleisio i atal crogi.
  • Cyfartaledd cyflog yn £16.14.11 ( £16.75 ).
  • Merched bron-noeth oedd y ffasiwn mewn dillad am gyfnod byr.
  • Marw Ian Fleming, Harpo Marx, Sean O'Casey, Brenda Behan, Cole Porter ac Edith Sitwell.

Archdderwydd               Cynan.

Y Gadair

Y Gadair Testun. Awdl: ' Patagonia'
Enillydd: R. Bryn Williams
Beirniaid: Geraint Bowen, Gwyndaf, D. J. Davies
Cerddi eraill: Dic Jones oedd yr ail.

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Dyma un o awdlau gorau ail hanner yr ugeinfed ganrif yn sicr. 'Roedd diffuantrwydd profiad a mynegiant yn un ynddi.

Y Goron

Y Goron. Testun. Pryddest: 'Ffynhonnau'
Enillydd: Rhydwen Williams
Beirniaid: T. H. Parry-Williams, W. J. Gruffydd, Eirian Davies
Cerddi eraill: Y pum bardd gorau yn y gystadleuaeth oedd L. Haydn Lewis, G. J. Roberts, T. R. Jones, John Roderick Rees a Rhydwen Williams. Dymunai T. H. Parry-Williams goroni John Roderick Rees.

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Cerdd hynod sydd yn mynd â ni yn ôl yn hiraethus mewn atgof plentyn at gymdeithas glòs y cymoedd glofaol, y cyd-chware, y cyd-addoli a'r cyd-ddioddef; ond mae ing yn yr hiraeth am fod y bardd yn edrych yn ôl ar fyd dewr a dedwydd o safbwynt cymdeithas wedi ei chwalu gan ddiweithdra. Cerdd am wydnwch a phenderfyniad trigolion Y Rhondda yn nannedd tlodi a chyni.

Y Fedal Ryddiaith

Testun: Nofel
Enillydd: Rhiannon Davies Jones: Lleian Llanllyr
 
Tlws y Ddrama

Hanner y wobr i Gwilym T. Hughes
 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy