Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1956 - 1966

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod               Y Drenewydd

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Rhyfel Vietnam yn gwaethygu wrth i awyrennau America ymosod ΓΆ bomiau ac wedi i 53,500 o filwyr gael eu hanfon i'r wlad. Llawer ar draws y byd yn protestio yn erbyn y rhyfel.
  • Agor cronfa Tryweryn.
  • 31 yn marw mewn ffrwydrad yng nglofa'r Cambrian, Cwm Clydach.
  • Mewnforio ceir o Siapan i Brydain am y tro cyntaf.
  • Rhodesia yn cyhoeddi UDI, ac yn ffurfio gwlad annibynnol dan lywodraeth Ian Smith.
  • Mary Whitehouse yn sefydlu Cymdeithas Genedlaethol Gwylwyr a Gwrandawyr.
  • Cyhoeddi Lol am y tro cyntaf.
  • Pris potel o win yn gostwng i 5/6 ( 27c )
  • Marw Winston Churchill, Albert Schweitzer. Somerset Maugham, T.S. Eliot a Stan Laurel.

Archdderwydd               Cynan.

Y Gadair

Testun. Awdl: ' Yr Ymchwil'
Enillydd: W. D. Williams
Beirniaid: Geraint Bowen, Euros Bowen, Gwilym R. Tilsley
Cerddi eraill: Awdl gan Emrys Roberts a ffafriai Euros Bowen. 'Roedd Dic Jones yn drydydd, ac 'roedd gan James Nicholas awdl yn y gystadleuaeth yn ogystal.

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

'Roedd awdl anfuddugol James Nicholas unwaith eto yn gyfoes ac yn trafod problemau'i chyfnod. 'Roedd y bardd yn cydnabod oes y 'never had it so good' yng nghanol y pumdegau pan welwyd y pum miliwn o setiau teledu ar aelwydydd Prydain yn dyblu mewn degawd, a phan ddaeth y car yn hanfod yn hytrach nag yn foethusrwydd. Ond mae yna elfen broffwydol ddychrynllyd yn yr awdl anfuddugol hon hefyd. 'Roedd pris i'w dalu. 'Roedd y diwydiant glo a fu unwaith yn talu am y bywyd bras yn awr yn dechrau dioddef dirwasgiad eto. Oddi ar i'r pyllau gau 'roedd y tipiau'n gornwydydd ar hyd y cymoedd, ac ymhen misoedd 'roedd cysgod un ohonynt, uwch pentref Aberfan, wedi ei daflu ar draws yr holl fyd. 'Roedd awdl Dic Jones yn gyfoes o ran ei deunydd hefyd.

Y Goron

Testun. Drama fydryddol: agored
Enillydd: Tom Parry-Jones ('Y Gwybed')
Beirniaid: Cynan, Bobi Jones, Thomas Parry

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Drama fydryddol rymus iawn ei dychan mewn mannau.

Y Fedal Ryddiaith

Testun: Cyfrol o ysgrifau
Enillydd: Eigra Lewis Roberts
 
Tlws y Ddrama

Neb yn deilwng
 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy