麻豆约拍


Explore the 麻豆约拍

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rhaglen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆约拍 麻豆约拍page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Cyfres Teledu

  • Rhaglen 1: 1900 - 1913 'Awelon Croes'

    Thema ganolog: Gwrthdaro: y gwrthdaro rhwng yr hen werthoedd a'r gwerthoedd newydd, rhwng Cymru Oes Victoria a Chymru'r ugeinfed ganrif; rhwng Sosialaeth a Chyfalafiaeth; rhwng anterth a dechreuad cwymp yr Ymerodraethau Mawrion; rhwng aelodau'r Orsedd, cefnogwyr a dilynwyr Iolo Morganwg, a'r ysgolheigion newydd, dinoethwyr Iolo; rhwng beirdd hen-ffasiwn yr Orsedd a beirdd 'yr Ysgol Newydd'; rhwng cenedlaetholdeb a Phrydeindod. Diweddir y rhaglen ar drothwy'r Rhyfel Mawr, sef canlyniad anochel y gwrthdaro hwn rhwng yr hen drefn a'r drefn newydd.
  • Rhaglen 2: 1914 - 1937 'Y Gaer Fechan Olaf'

    Thema ganolog: Adwaith ac Ad-drefnu: y Rhyfel Mawr a'r adwaith iddo yng Nghymru; a'r modd y bu'n rhaid i Gymru aildrefnu yn fewnol ar 么l cael ei sugno i mewn i gyflafan y pwerau mawrion; y modd y dechreuwyd amau a chwalu'r hen safonau a fodolai cyn y Rhyfel, a'r Eisteddfod, yn arbennig, yn wynebu cyfnod o argyfwng gyda rhai yn proffwydo ei thranc. Y gri i ddiwygio'r Eisteddfod yn uchel drwy'r cyfnod ( gan gyfateb i'r gri i ddiwygio Cymru ei hun ), nes cyrraedd uchafbwynt yn Eisteddfod Machynlleth pan unwyd y ddwy elfen elyniaethus, Cymdeithas yr Eisteddfod a'r Orsedd, yn swyddogol, a ffurfio corff newydd, Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, a gosod yr Eisteddfod ar seiliau cadarnach ar gyfer y dyfodol.
  • Rhaglen 3: 1938 - 1955 'Yr Oes Oer'

    Thema ganolog: Rhyfel, effaith y Rhyfel, parhad rhyfel dan gysgod y Bom ac wrth i'r Swyddfa Ryfel fygwth dwyn tir Cymru, y Rhyfel oer: yr Ail Ryfel Byd yn torri cyn i'r Eisteddfod gael cyfle i weithredu'r drefn newydd, a gorfod ailaddasu eto ar 么l y Rhyfel, nes cyrraedd y flwyddyn dyngedfennol bwysig honno, 1955, pan ddechreuwyd s么n am foddi pentref Cwm Cwelyn, yr ysgogiad mwyaf i genedlaetholdeb Cymreig y cyfnod diweddar. Y rhaglen yn diweddu'n negyddol gyda bygythiad y Llywodraeth i foddi Cwm Tryweryn.
  • Rhaglen 4: 1956 - 1966 'Wyneb Llwm y Cwm Cau'

    Thema ganolog: disgyflogi, diboblogi, a bygwth dwyn tir Cymru yn arwain at ddechreuad Oes y Brotest: cenedlaetholdeb ar gynnydd yn sg卯l y bygythiad i foddi Cwm Tryweryn, darlith 'Tyned yr Iaith' Saunders Lewis a ffurfio Cymdeithas yr Iaith, a phroblemau economaidd a gwleidyddol Cymru yn arwain at gyfnod y Brotest; a buddigoliaeth Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin efaill yn pwyntio i gyfeiriad Oes y Brotest.
  • Rhaglen 5: 1967 - 1979 'Mawrth y Gwrthod a'r Gwerthu'

    Thema ganolog: Oes y Brotest: cyfnod y protestio mawr yng Nghymru ac ym Mharis, America, a mannau eraill; yr Arwisgo yng Nghymru yn chwalu gobeithion llawer ond yn caledu cenedlaetholdeb, protestio mawr gan Gymdeithas yr Iaith ar faes yr Eisteddfod, ond y cyfan yn diweddau mewn siom gyda phleidlais negyddol Cymru yn y Refferendwm ar Ddatganoli ym 1979, ac ymateb T.James Jones yng nghystadleuaeth y Goron.
  • Rhaglen 6: 1980 - 1999 'Dydd Dychwel yr Haul'

    Thema ganolog: Llwyddiant: symud ymlaen ar 么l siom y Refferendwm ar Ddatganoli at brotest Gwynfor Evans ym 1980 ynghylch sefydlu Pedwaredd Sianel Cymru; sefydlu'r Sianel ym 1982, a diweddu gyda Chymru yn ymateb yn gadarnhaol i'r ail Refferendwm ar Ddatganoli, a'r Cynulliad ar ei ffordd ar gyfer y mileniwm newydd. Crynhoi'r cyfan ynghyd ( drwy gyfrwng cerddi'r Eisteddfod yn ystod dau ddegawd olaf y ganrif ), a diweddu'n weddol optomistaidd ar 么l canrif gythryblus, gan edrych ymlaen at gyfnod newydd cyffrous yn hanes Cymru, ond gan sylweddoli ar yr un pryd fod problemau yn bod yng Nghymru o hyd, ac y bydd sawl brwydyr i'w hymladd yn y dyfodol.

Cyfres Radio

  • Yr Etifeddiaeth. 

    Rhaglen fydd yn gofyn os y gwnaeth yr ugeinfed ganrif gyflwyno gwyl iach a ffyniannus i'r ganrif newydd.

  • Beirdd a Ballu.

    Yn y rhaglen hon trafodir y dewis o destunau, a beirniaid i'r prif gystadleuthau llenyddol. Gofynir hefyd os mai dechrau gyrfa barddonol tag uchafbwynt ydi ennill Coron neu Gadair. A pham nad oes merch wedi ennill y Gadair.

  • Cerdd, Cyngerdd a'r Cyrion.

    Yma byddwn yn gofyn os ydi'r elfennau yma yn rhy hen ffasiwn. Gofynnir hefyd os y dylid datblygu'r gweithgareddau ar y cyrion fel mae gwyl Caeredyn wedi i wneud.
  • Nod Cyfrin neu nonsens.

    Yn y rhaglen hon byddwn yn trafod os oes angen diwygio'r Orsedd.
  • Atal y wobr.

    Yma byddwn yn ystyried parhad yr Eisteddfod fel gwyl gystadleuol.
  • A Fydd Heddwch'.

    Yn y rhaglen olaf byddwn yn ceisio rhagweld dyfodol y Brifwyl.

 


Radio a Teledu

 
 



About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy