Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clonc
Goronwy a Beti Evans Syr Terry'n Talu Teyrnged
Rhagfyr 2006
Ychydig feddyliodd y Parch Goronwy Evans pan gafodd alwad ffôn iddo ef a'i briod, Beti, i fynd lawr i safle'r Co-op yn Llanbed brynhawn diwrnod Plant Mewn Angen beth oedd yn ei aros.
Y neges oedd fod angen iddynt sôn am eu profiadau yn trefnu'r digwyddiadau yn ddi-dor yn ardal Llanbed am 25ain mlynedd.

Pan glywodd Beti fod angen siarad, aeth ar streic yn syth - dyw siarad cyhoeddus ddim yn un o'i hoff bethau! A beth bynnag, roedd ganddi bethau pwysicach i'w wneud - sef bod wrth law i dderbyn cyfraniadau'r cyhoedd, busnesau a'r ysgolion a oedd wedi bod wrthi yn brysur gydol y dydd yn casglu a gwneud eu rhan. Yn ôl geiriau Goronwy ei hunan 'Fi sydd â'r geg fawr felly bant â fi yn gysurus'.

Yno 'roedd Bws Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi cludo Hywel Gwynfryn a'r criw i lawr o'r Gogledd drwy Orllewin Cymru ac ar ôl galw mewn rhai canolfannau ar y ffordd - dyma orffen yn Llanbed.

Bu tipyn o holi a thrafod a chael ar ddeall fod yr ymdrech wedi dechrau yn wreiddiol ar aelwyd y Mans ond yn fuan iawn aeth y lle yn rhy gyfyng ac er cael carafán y tu allan am rai blynyddoedd, symudwyd i'r Coleg am gyfnod ac yna drwy garedigrwydd perchnogion busnesau o'r dre oedd a safleoedd gwag - cael defnydd o'u hadeiladau yn eu tro. Eleni lleolwyd yr ymgyrch yn y Llew Du a gwnaeth Goronwy ar ei ran ef a Beti gydnabod haelioni pob un sydd wedi eu helpu gyda safle addas neu mewn unrhyw ffordd ac yn enwedig yr holl gyfranwyr cyson ar hyd y blynyddoedd.

Datgelwyd yn ystod y sgwrs ei fod ef a Beti wedi derbyn y swm anhygoel o dros £800,000 dros y chwarter canrif i'r elusen arbennig yma a gyda'r cyfweliad yn dod i ben dechreuodd Goronwy ymlacio, ond fe'i bwriwyd oddi ar ei echel pan gyflwynodd Hywel Gwynfryn dystysgrif iddo ar ran Syr Terry Wogan, wedi ei harwyddo yn ei law ysgrifen ei hun, fel cydnabyddiaeth o'u llafur caled a'u hymroddiad dros y pum mlynedd ar hugain. Mae'n debyg fod y gŵr â lot i ddweud wedi mynd yn fud am unwaith!!

Serch hynny, mae ef a Beti yn ymfalchïo yn fawr yn y gydnabyddiaeth yma ac mae yn cael lle parchus iawn yn y Mans.

Llongyfarchiadau a daliwch ati am flynyddoedd lawer eto yw dymuniad holl ddarllenwyr CLONC.

Mae cyfraniadau Llanbed am eleni eisoes yn £22,000 sydd yn barod yn fwy na llynedd gyda'r arian yn dal i ddod fewn.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý