Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clonc
John McDonagh Crefftwr Ifanc wrth ei waith
Mai 2003
O Cape Town i Lanbed - crefftwr celfi yn dechrau busnes
Mae'r term arall gyfeirio yn cael ei ddefnyddio yn aml y dyddiau yma fel cyfrwng i ychwanegu at incwm y fferm neu'r teulu. Un o'r dulliau sydd wedi datblygu ar ambell fferm yng Nghymru bellach yw addasu hen adeilad er mwyn creu busnes newydd. Mae yna enghraifft wych o hyn ar fferm Dolaugwyrddion Uchaf, Pentrebach lle mae John ac Olive Jones wedi helpu eu mab yng nghyfraith, John McDonagh, i drawsnewid yr hen feudy er mwyn creu busnes llwyddiannus o'r enw Celfi Cain neu Furniture for Ever.

Brodor o Cape Town yn Ne Affrica yw John ac ers dyddiau ysgol, mae wedi ymddiddori mewn chwaraeon a gwaith coed. Tra yn ysgol y bechgyn WYBERG, aeth ati yn ystod ei flwyddyn olaf yn yr ysgol i wneud dreser Gymreig. Ychydig a feddyliodd ar y pryd y buasai yn priodi Cymraes a dod i fyw i Gymru er mwyn sefydlu busnes.

Ar ôl gadael yr ysgol treuliodd flwyddyn yn y Llynges fel rhan o Wasanaeth Cenedlaethol ei wlad. Roedd chwarae rygbi yn dal yn ei waed er hynny a dyma dderbyn gwahoddiad i fynd allan i Bortiwgal a chwarae i Brifysgol Aporto, a chael ei dalu am chwarae.

Ar ôl blwyddyn ym Mhortiwgal, penderfynodd symud i Lundain a chafodd swydd gyda SKY TV yn yr Adran Gyfrifon. Drwy ei gysylltiadau â rygbi y cyfarfu â Naiomi ac ar ôl cyfnod, dyma'r ddau yn priodi ac yn ymsefydlu yn Llanbed.

Canolbwyntio ar ei brif ddiddordeb i weithio gyda choed oedd ei nod bellach ac mi lwyddodd i gael swydd gyda Nigel yn siop Y Barn' yn Llanbed. Bu hyn yn brofiad da iddo wrth iddo ad-gynhyrchu hen gelfi. Cychwyn busnes ei hun er hynny oedd ei fwriad a dyma fynd ati i drawsnewid yr hen feudy yn Dolaugwyrddion i weithdy pwrpasol ac ymarferol ar gyfer gwneud gwaith coed o bob math yn wir y gwartheg godro yn y dyddiau a fu yn gwneud lle bellach i Gelfi Cain.

Er i John baratoi Cynllun Busnes ni chafodd unrhyw gymorth ariannol wrth ymgymryd â'r gwelliannau ond bu'n rhaid iddo dalu trethi busnes am y flwyddyn gyntaf.

Bellach mae'r busnes yn datblygu yn llwyddiannus iawn ac eisoes mae John wedi gwneud pedair cegin gan ddefnyddio gwahanol goed heblaw am amrywiaeth o ddodrefn yn cynnwys cist lyfrau a sawl bwrdd. Yn wir mae safon ei waith yn eithriadol o uchel ac eisoes mae wedi derbyn galwadau o Lundain yn dilyn ansawdd ei gynnyrch. Pwy a wyr na welwn ni gynnyrch Celfi Cain yn cael ei arddangos mewn siop yn Llanbed neu mewn arddangosfa yn rhai o brif ddinasoedd y byd.

Heb os, mae John yn grefftwr coed hen ei ail. Yn y gweithdy mae ganddo yr holl beiriannau soffistigedig i'w gynorthwyo yn ei waith. Fi fwriad yn ystod y flwyddyn nesaf yw cyflogi person ifanc am tua dau ddiwrnod yr wythnos ar brofiad gwaith - yn wir mae galw cynyddol am ei wasanaeth ac mae ganddo ddigon o waith bellach i'w gadw yn brysur am y chwe mis nesaf.

Ond, mae'n rhaid cael amser i ymlacio. Mae'n aelod o'r Ford Gron yn lleol a hefyd yn ystod yr wythnosau diwethaf; bu John yn rhedeg Marathon Llundain ac mi gododd £900 ar gyfer Ambiwlans yr Awyr' - ymdrech rhagorol er nad oedd yn gwbl hapus gyda'r amser o 4 awr 55 munud. Mae am fentro eto gan obeithio gwella ar ei berfformiad y tro nesaf!

Ein dymuniadau gorau iddo a rwy'n siwr y clywir mwy i'r dyfodol am y cwmni Celfi Cain' sydd â'i wreiddiau yn ddwfn ym Mhentrebach. Ceir enghraifft o'i waith bellach ar y we, ar www.furnitureforever.com

Twynog Davies


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý