Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clonc
Ysgol gynradd Llanwenog yn dathlu 140 o flynyddoedd gyda chyn ddisgyblion a Margaret Evans, athrawes; Eleri Davies, cogyddes a Sian Davies; pennaeth yn torri'r gacen. Llun gan Tim Jones Ysgol yn dathlu 140
Hydref 2007
Adroddiad o benwythnos dathlu Ysgol Llanwenog yn 140 oed.

Rhoddwyd croeso i'r tyrfaoedd mawr a ddaeth i bob achlysur a gynhaliwyd dros ein penwythnos dathlu. Hoffwn ddiolch o galon i'r Pwyllgor, cyn ddisgyblion, plant a rhieni am eu gwaith caled ac i bawb am eu hymateb a'u cefnogaeth.

Ar y nos Wener, gwnaeth y plant eu gwaith yn dda, a gobeithiwn y bydd fideo ar gael. Cafwyd llawer o hwyl wrth weld amryw o berfformiadau difyr. Roedd cawl blasus ar gael i bawb wedi ei baratoi gan ein Cogyddes Ms. Eleri Davies - nid ar chwarae bach mae paratoi cawl i 400!

Roedd y pwyllgor wedi archebu mygiau arbennig a ddyluniwyd gan Mrs Eleri Lewis Ffosffald er mwyn eu rhoi i ddisgyblion yr Ysgol a chyn ddisgyblion dros naw deg oed. Ond erbyn hyn mae Capten Tony Jones wedi cynnig talu amdanynt. Diolch o galon iddo.

Cyn ddisgyblion a ffrindiau'r ysgol yn hel atgofion yn yr arddangosfa.Buom yn ffodus iawn i gael heulwen braf trwy gydol dydd Sadrn ac roedd yr ysgol a'r wlad ar eu gorau. Plannodd Mrs. Elizabeth Mary Jones (Lizzy Mary) ddwy goeden ar y dydd Sadwrn gyda llawer o help wrth y plant. Torrwyd un gacen ddathlu gan Lizzy Mary a'r llall gan staff yr Ysgol. Paratowyd te hyfryd i bawb gan ein Cogyddes, y mamau a Sefydliad y Merched. Cafwyd amser diddorol gan bawb yn pori trwy'r lluniau yn yr Arddangosfa.

Y noson honno. cafwyd gwledd o gyngerdd 'nôl yng Nghae Pen Pom Pren gyda llawer o artistiaid disglair. Bu Mr. Gareth Jones, Cyfarwyddwr Addysg y Sir yn ein cyfarch gydag englyn arbennig o'i waith ei hun. Llywyddion y nos oedd Mr. Trevor Bennett, Mrs. Betty Smith a Mrs. Jean Jenkins. 'Faciwis o Lundain a fynychodd yr ysgol adeg yr ail Ryfel Byd. Roedd dau 'faciwi arall yno hefyd, sef Mr. Ralph Buckley o Lambed a Mrs. Joyce Thompson o Swydd Gaint. Roedd y Cyngor Cymuned wedi rhoi torch o flodau iddynt i'w gosod o flaen y gofeb yn y pentre. Yn ystod y noson, gwerthwyd llun o waith Mrs. Aerwen Griffiths, (Montage o ardal Llanwenog) gan Mr. Mark Evans. Mae printiadau o'r llun i'w cael trwy'r Ysgol.

Bore Sul daeth nifer o bobl ynghyd i weld y dorch flodau yn cael ei gosod o flaen y gofeb. Teimlwn ei bod yn bwysig yng nghanol y dathliadau i ni gofio cyn ddisgyblion yr ysgol a wnaeth yr aberth fwyaf yn y ddau ryfel byd. Cafwyd amser pleserus yn ystod y dydd gyda llawer o bobl yn galw yn yr ysgol unwaith eto i gymdeithasu a thrafod y dyddiau a fu.

Yn y prynhawn aeth llawer i'r Eglwys i ymuno mewn gwasanaeth arbennig dan arweiniad y ficer, y Parch. Bill Fillery ac i wrando ar gyn¬ ficer y plwyf, y Parch. Richard Evans, Llanilar yn pregethu. Roedd yr Eglwys wedi ei haddurno yn gelfydd iawn gan chwiorydd yr Eglwys. Diolch yn fawr iddynt.

Roedd yr Eglwys yn llawn erbyn y nos hefyd ar gyfer y Gymanfa dan arweiniad medrus Mr. Alun Guy o Gaerdydd. Roedd e'n canmol y canu yn fawr iawn ac yn bendant roedd yr eglwys yn morio o gerddoriaeth rhwng y canu a'r ddwy organ! Mrs. Pauline Roberts Jones oedd yn chwarae'r organ fawr gyda Mr. Brian Jones ar yr organ electroneg. Un emyn arbennig a ganwyd oedd `Meysydd' - y dôn gan Gwawr Jones, a'r geiriau gan ei mam, Mrs. Gillian Jones, llywydd y noson.

Cyd-ddigwyddiad ffodus iawn oedd fod 'Carreg Ogam Rhuddlan' yn ôl yn y fynwent. Mae'r garreg wreiddiol yn dal i fod yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ond mae "replica' arbennig o dda wedi ei gerfio gan Mr. Dennis Jones, Saer Maen lleol, ac yn awr mae'r Garreg Ogam yn ôl yn ddiogel yn y plwyf.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý