Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clonc
Hogia'r Wyddfa ac Annette Bryn Parri Cyngerdd Agoriadol
Gorffennaf 2009
Wybodaeth am gyngerdd agoriadol Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen ym mis Awst.

Mae yna wledd arbennig wedi ei threfnu ar gyfer cyngerdd agoriadol Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan nos Wener 29 Awst yng nghwmni artistiaid o fri sef Hogia'r Wyddfa, Eleri Owen Edwards ac Elen Morgan.

Fel y gwyr pawb mae Hogia'r Wyddfa wedi cyfareddu cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru a thu hwnt ar hyd y blynyddoedd.

Heb os dyma'r un o'r grwpiau mwyaf llwyddiannus a phoblogaidd a sefydlwyd yng Nghymru erioed ac maent yn dal i swyno eu gwrandawyr.

Yn cyfeilio i'r grwp mae Annette Bryn Parri sydd yn athrylith ar y piano. Mae Eleri Owen Edwards yn wreiddiol o Langernyw and wedi ymgartrefu yn Llanymddyfri erbyn hyn ac yn briod ag Aled Edwards.

Daeth i'r brig yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr unawd ar 9 achlysur a bu'n fuddugol mewn tair cystadleuaeth yn Eisteddfod Pantyfedwen ychydig flynyddoedd yn ô1.

Mae yna alw mawr am ei gwasanaeth. Merch ifanc amryddawn a thalentog iawn yw Elen Morgan, cyn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Teifi ac sydd ar ei blwyddyn gyntaf yn astudio yn adran Theatr, Cerdd a'r Cyfiyngau yng Ngholeg y Drindod.

Daeth i'r brig mewn nifer helaeth o gystadlaethau llefaru yn ein Gwyliau Cenedlaethol a bu'n deyrngar iawn i Eisteddfod Pantyfedwen ar hyd y blynyddoedd gan ennill nifer o wobrau.

Felly mae yna arlwy arbennig yn eich haros. Llywydd y noson yw Delor James sydd â chysylltiad teuluool agos â Rosalind a Myrddin. Dewch yn llu i fwynhau noson o ddiwylliant Gymraeg ar ei orau. Croeso cynnes i bawb.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý