Cyflwynaid i'r chwedlau
Term hwylus a ddefnyddir am gasgliad o un ar ddeg o chwedlau brodorol Cymraeg yw 'Mabinogion'.
Nid ydynt yn uned sefydlog gydag un chwedl yn dilyn y llall yn yr un drefn bob tro ond, yn hytrach, yn gorff o chwedlau Cymraeg Canol a gadwyd mewn dwy lawysgrif gynnar.
Fe'u ceir yn anghyflawn yn Llyfr Gwyn Rhydderch (tua 1350) ac yn gyflawn yn Llyfr Coch Hergest (tua 1400), gyda darnau o rai chwedlau mewn llawysgrifau eraill, rhai ohonynt yn dyddio o tua 1250.
Un waith y digwydd y gair 'mabinogion' yn y testunau hyn, a hynny wrth i'r copïwr ei ysgrifennu yn lle 'mabinogi'. Gwall ydyw.
Y stori gynharaf yw'r stori werin hwyliog 'Culhwch ac Olwen', a hi yw'r chwedl Arthuraidd gyntaf mewn unrhyw iaith. Ceir ynddi gyfeiriadau at chwedlau coll, ac felly mae'n rhoi syniad inni o'r cyfoeth chwedlau na oroesodd yn y Gymraeg.
Pedair stori sy'n dwyn cysylltiad â'i gilydd ond sydd eto'n sefyll ar wahân yw 'Pedair Cainc y Mabinogi', sef straeon 'Pwyll Pendefig Dyfed', 'Branwen ferch Llŷr', 'Manawydan fab Llŷr' a 'Math fab Mathonwy'.
Straeon am y duwiau Celtaidd yn ymwneud â dynion yw'r rhain, a straeon am ymwneud pobl â'i gilydd. Digwydd cyfeiriad at Pryderi ym mhob un o'r pedair cainc ond nid yw'n hanfodol i bob stori, yn enwedig yr ail a'r bedwaredd gainc.
Dwy chwedl hanes yw 'Lludd a Llefelys' a 'Breuddwyd Macsen Wledig', ond yn ôl safonau cyfoes mae mwy o chwedloniaeth nag o hanes ynddynt. Enwir Beli Mawr, un o hen arwyr y Cymry, yn y ddwy.
Plant Beli oedd Lludd a Llefelys, ac yr oedd Lludd yn frenin Prydain yn union cyn dyfodiad Iwl Cesar i'r ynys. Ymerawdwr Rhufain oedd Macsen Wledig a gellir ei uniaethu â Magnus Maximus, arweinydd y fyddin Rufeinig ym Mhrydain, y dywedir iddo briodi Elen, tywysoges honedig o Segontium (Caernarfon).
Un o dair rhamant Arthuraidd Gymraeg yw chwedl 'Iarlles y Ffynnon'; y ddwy arall yw 'Peredur fab Efrog' a 'Geraint fab Erbin'. Cyfeirir atynt yn aml fel 'Y Tair Rhamant' fel petaent yn uned, ond mae'n amheus iawn ai'r un awdur a'u cyfansoddodd. Hanes byd y marchog yw deunydd y tair ac yn 'Iarlles y Ffynnon' mae'r marchog ifanc Owain yn dysgu rhywbeth amdano'i hun, am ei yrfa, ac am ei briodas.
Byd sifalrïaidd y marchog yw testun 'Peredur fab Efrog' eto. Gwelir sut y dysgodd Peredur am wisg, arfau a meirch y marchog pan oedd yn fachgen ifanc. Yna caiff addysg ffurfiol ynghylch sgiliau a statws marchog yn llysoedd ei ddau ewythr nes daw'n farchog cyflawn, cwrtais, profiadol.
Ymarweddiad cymwys yw un o themâu chwedl 'Geraint fab Erbin'. Roedd angen gofalu bod marchog yn ymddwyn yn briodol i'w safle, boed hynny o fewn y llys neu'n gyhoeddus yn y wlad.
Oherwydd ei ddiffygion ei hun mae Geraint yn camddeall ei wraig Enid ac yn ei chosbi ar gam, ond mae ei ffyddlondeb hi iddo ef yn ddi-fai. Gwnâi marchog ei hun yn ddeniadol i ferch drwy ennill brwydrau a thwrnameintiau, ac o garu gwraig gwnâi ei hun yn nerthol a hyderus i drechu cymaint eto o filwyr a marchogion.
Yr olaf o'r chwedlau yw 'Breuddwyd Rhonabwy', stori lenyddol wedi ei llunio gan ŵr eglwysig, efallai o Bowys, ond a oedd yn sicr yn gysylltiedig ag abaty Ystrad Marchell. Mewn breuddwyd nid oes rhaid cael ystyr i bopeth, ac mae ffiniau amser a lle yn amherthnasol.
Stori am deulu brenhinol Powys yn y ddeuddegfed ganrif yw hon, ac am Rhonabwy yn cyfarfod ag Arthur, arwr traddodiadol o'r chweched ganrif. Cyfieithwyd y chwedlau hyn i'r Saesneg gyntaf gan y Fonesig Charlotte Guest, ac i'r Ffrangeg gan Joseph Loth yn 1889. Fe'u cyfrifir ymysg y darnau gorau o lenyddiaeth ganoloesol yn Ewrop.
Mwy
Cysylltiadau'r Â鶹ԼÅÄ
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Chwedlau Myrddin
Straeon a gemau
Ewch ar anturiaethau gyda'r cymeriadau yn ein gemau a straeon cyfoes.