Yn ôl y chwedl, un o feibion Owain Gwynedd oedd Madog ac ef oedd yr Ewropead cyntaf i ddarganfod America, cyn bod unrhyw sôn am ŵr o'r enw Christopher Columbus.
Y stori yw fod y Tywysog Madog wedi hwylio o borthladd Llandrillo-yn-Rhos, ger Bae Colwyn, yn 1170 - dair canrif cyn Columbus - a darganfod gwlad baradwysaidd draw ymhell tu hwnt i Iwerddon.
Daeth yn ôl i Wynedd ond dim ond er mwyn casglu mwy o'i gydwladwyr at ei gilydd i ymfudo gydag o dros y dŵr.
Llongau Madog
Wele'n cychwyn dair ar ddeg,
O longau bach ar fore teg;
Wele Madog ddewr ei fron,
Yn gapten ar y llynges hon.
Mynd y mae i roi ei droed,
Ar le na welodd dyn erioed:
Antur enbyd ydyw hon,
Ond Duw a'i dal o don i don.
Ceiriog
Er bod ysgolheigion wedi hen daeru nad oes sail i'r chwedl am y fordaith honedig, deilliodd sawl darn o lenyddiaeth, barddoniaeth a damcaniaeth o'r stori dros y canrifoedd. Yn eu mysg, gerdd boblogaidd gan Ceiriog am 'Madog ddewr ei fron' a chan T Gwynn Jones .
Yn fras, y ddamcaniaeth yw i Madog a'i gymdeithion lanio rywle oddi ar arfordir Gwlff Mecsico ac wedyn ymsefydlu yn Georgia, Tennessee a Kentucky gan symud i fyny'r afon Missouri lle dywedir iddyn nhw ymgyfeillachu a chriw o Indiaid o genedl y Mandaniaid.
'Indiaid Cymraeg'
Esgorodd hyn ar chwedl arall am lwyth o frodorion Americanaidd a siaradai Gymraeg a'r chwedl honno yn pesgi ar y ffaith fod ceyrydd carreg tebyg i rai a welir yng ngogledd Cymru i'w cael yn nyffryn Tennessee.
Hefyd yn gig ar esgyrn y ddamcaniaeth oedd y ffaith fod y Mandaniaid yn defnyddio cychod yr un siâp a chwryglau a bod rhai geiriau tebyg i eiriau Cymraeg yn eu hiaith.
Yn y ddeunawfed ganrif mentrodd i'r America i geisio dod o hyd i'r gwir ond er na ddaeth o hyd i 'Indiaid Cymraeg' gwnaeth waith gwerthfawr yn mapio am y tro cyntaf y rhan hon o ogledd America.
Dim sail
Yn ôl haneswyr does dim sail i'r chwedl na thystiolaeth fod gan frenin Gwynedd yn y 12fed Ganrif, Owain Gwynedd - a oedd o dras Llychlynaidd ar ochr ei fam - fab o'r enw Madog. Ond er hynny, mae'r stori wedi profi'n un boblogaidd a hirhoedlog yng Nghymru ac yn yr Unol Daleithiau.
Yno, ger Fort Morgan yn Mobile Bay, Alabama, codwyd cofeb i Madog a'i griw yn 1953 ac mae na lefydd wedi eu henwi ar ei ôl yn y rhan hon o ogledd America.
Ond er y dystiolaeth nad oes gwirionedd i'r stori, mae wedi bod yn arf propoganda defnyddio dros y blynyddoedd.
Yn oes Elisabeth 1, defnyddiwyd y chwedl i hybu hawl y frenhines dros diriogaethau yn yr America a chysylltiadau'r Ymerodraeth 'Brydeinig', neu Frythonig, y naill ochr i fôr yr Iwerydd.
Roedd hefyd yn boblogaidd ymysg y Cymry a ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn eu lluoedd yn yr 17eg a'r 18fed Ganrif.
Cadw'r chwedlau'n fyw
Un o'r rhai sy'n dal i geisio cadw'r stori'n fyw ydy aelodau Cymdeithas Ymchwil Ryngwladol Madoc (MIRA). Ers 2007 maen nhw wedi bod yn ceisio codi coffâd o bwys i'r tywysog o Gymro yn Llandrillo-yn-Rhos. Eisoes mae plac llechen yn nodi'r stori ar wal o fewn libart tŷ preifat ger y prom yn y dre.
"Mae nifer o bobl y ddwy ochr i'r Iwerydd wedi bod yn ymchwilio'r stori dros y blynyddoedd," meddai Howard Kimberley o Faesteg, sydd wedi sefydlu gwefan helaeth 'Madoc1170' i hyrwyddo ymchwil pellach.
"Mae pwnc fel hwn yn siwr o fod â'i amheuwyr a'r hyn yr ydw i'n ei obeithio yw y bydd y wefan yn fodd i gyflwyno dwy ochr y ddadl," meddai.
Mae MIRA cyn baroted â neb i gydnabod nad oes prawf hanesyddol i hyn ddigwydd o gwbl a dyna'r rheswm pam y sefydlwyd y gymdeithas - er mwyn ceisio dod o hyd i brawf.
"Dydym ni ddim yn gwybod ydi hi'n stori wir ond mae'n stori sy'n haeddu bod yn wir ac fe fyddem ni'n hoffi medru profi hynny," meddai Allyn Rees, cadeirydd MIRA.