Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Chwedlau Lleol
Tomen y Mur Chwedl Blodeuwedd
Fflur Williams o Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, sy'n olrhain chwedl Blodeuwedd, pedwaredd cainc y Mabinogi, sydd wedi ei lleoli yn ardal Ffestiniog.
  • Taith plant Ysgol y Moelwyn i olrhain y chwedl.
  • Lleoliadau â chysylltiad â'r chwedl.

    Cafodd Lleu Llaw Gyffes ei felltithio gan ei fam, Arianrhod, na fyddai byth yn cael gwraig "o'r genedl sydd ar y ddaear".

    Er mwyn i Lleu fedru cael gwraig, crëodd Gwydion a Math fab Matholwch, ferch wedi ei gwneud o naw math o flodau derwen, y banadl ac erwein a'i galw hi yn, Blodeuwedd.

    Fflur Williams sy'n dweud y storiUn diwrnod, pan oedd Lleu oddi cartref, galwodd Gronw Pebr, Arglwydd Penllyn, yn y llys ac y mae Blodeuwedd yn syrthio mewn cariad ag ef ar yr olwg gyntaf.

    Maent yn cynllwynio i ladd Lleu ond yn gyntaf rhaid i Blodeuwedd ddarganfod gan Lleu yn gyntaf sut mae gwneud hynny oherwydd dim ond dan amodau arbennig iawn y gellir ei ladd.

    Mae o'n datgelu, "Ni ellir fy lladd i mewn tÅ· nac oddi allan ac ni ellir fy lladd ar gefn march na phan wyf ar droed."

    I'w ladd rhaid defnyddio gwaywffon.

    Ond mae enw mwy na hynny hyd yn oed gan fod yn rhaid i Lleu sefyll gydag un droed ar gafn neu faddon ar lan afon a'r droed arall yn gorffwys ar gefn bwch gafr. "Pwy bynnag a'm trawo yr adeg honno fe fydd yn fy lladd," meddai.

    Mae Blodeuwedd yn trosglwyddo'r wybodaeth hon i Gronw sy'n creu y waywffon ac ymhen y flwyddyn mae Blodeuwedd yn trefnu fod Lleu yn sefyll yn y fath fodd a ddisgrifiwyd ganddo ar lan Afon Cynfal.

    Daw Gronw o gyfeiriad Bryn Cyfergyd, taflu'r waywffon ond er iddi ei daro nid yw hwnnw'n marw ond yn troi'n eryr a dianc i ardal Nantlle (Nant Lleu).

    Mae Gronw a Blodeuwedd yn cydfyw a meddiannu Ardudwy.

    Pan yw'n dychwelyd yn ddiweddarach er bod Blodeuwedd a'i morynion yn ffoi dros Afon Cynfael mae Gwydion yn ei dal hi a'i throi'n dylluan a'i gorchymyn i beidio byth a dangos ei hwyneb yn ystod y dydd. Ei thynged yw bod yn elyn i'r holl adar.

    Mae Lleu yn lladd Gronw er i hwnnw ddefnyddio maen fel tarian i achub ei hun rhag gwaywffon Lleu.


  • Cyfrannwch

    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Eisteddfodau


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý