Roedd Cynon yn llys Arthur yng Nghaerleon, yn bwyta cig ac yfed medd. Dechreuodd adrodd stori am y peth mwyaf rhyfeddol y gwyddai amdano, sef ei daith i chwilio am farchog i'w drechu mewn brwydr.
Teithiodd i gaer wych ym mhen draw'r byd, lle daeth pedair merch ar hugain ato i wasanaethu arno. Cyfeiriodd meistr y gaer ef at goediwr hyll, a mil o anifeiliaid gwyllt yn pori o'i gwmpas. Cyfeiriodd y coediwr ef at ffynnon ryfeddol, a chawg arian ar lechen farmor yn ei hymyl.
Anturiodd Cynon at y ffynnon, a phan daflodd gawg o ddŵr dros y marmor clywodd sŵn a sgytiai'r ddaear. Disgynnodd cawod oer o genllysg caled arno nes bu bron iddo â chael ei ladd.
Yna daeth yn hindda, a chanodd yr adar gân odidog. Wedyn clywodd Cynon duchan, a daeth marchog du a'i daflu oddi ar ei farch. A dyna'r cywilydd mwyaf a deimlodd Cynon erioed, am ei fod yn gymaint o fethiant wrth ymladd â marchog.
Wrth wrando ar stori Cynon, ysai Owain am gael mentro ar yr un antur. Y bore canlynol gwisgodd Owain ei arfau a theithio taith Cynon i bellafoedd byd. Gwelodd y gaer a'r merched, y coediwr hyll a'r ffynnon ryfeddol.
Pan ymddangosodd y marchog du, tarodd Owain ef â chleddyf drwy ei helm a'i gapan dur, a thrwy'r croen a'r cig a'r asgwrn nes clwyfo ei ymennydd.
Ffôdd y marchog i gaer fawr ac Owain ar ei ôl. Gollyngwyd y porthcwlis ar Owain, a holltwyd ei farch yn ei hanner wrth i'r glwyd syrthio drwy'r march i'r llawr. Caewyd y ddôr fewnol fel na allai Owain ffoi.
Daeth merch hardd o'r enw Luned ato i'w helpu. Rhoddodd fodrwy iddo a'i gwnâi'n anweledig felly pan ddaeth milwyr y gaer i ddienyddio Owain, ni allent ei weld yn unman. Dihangodd Owain gyda Luned i lofft gyfforddus, lle cafodd fwyd a diod gorau'r byd.
Bore trannoeth clywai Owain dwrw enfawr; crynai'r awyr gan faint y gweiddi a'r utgyrn a'r crefyddwyr yn canu. Dyma ddiwrnod angladd y marchog du. Wrth edrych drwy'r ffenest gwelodd Owain weddw'r marchog, Iarlles y Ffynnon, a syrthiodd mewn cariad â hi.
Y noson honno aeth Luned at yr Iarlles i'w pherswadio i ailbriodi. Addawodd Luned hudo un o farchogion Arthur i'w phriodi, ac i amddiffyn y ffynnon a'r deyrnas. Ffraeodd y ddwy nes gwrthod siarad am ychydig, ond yna cytunwyd ar y cynllun.
Cuddiodd Luned yn y llofft gydag Owain nes ei bod yn amser iddi ddychwelyd o lys Arthur, yna aeth ag Owain gerbron yr Iarlles. Edrychodd honno'n graff ar Owain, gwelodd drwy'r tric, a dyfalodd mai ef a laddodd ei gŵr. Ond wedi pendroni'n hir priododd yr Iarlles Owain er lles ei theyrnas.
Bu Owain gyda'r Iarlles am dair blynedd nes peri gofid amdano yn llys Arthur. Canlynasant Owain ar hyd y ffordd ryfeddol nes cyrraedd y ffynnon. Ymladdodd Cai yn erbyn Marchog y Ffynnon, heb wybod mai Owain oedd hwnnw yn awr.
Trechwyd Cai, ac ymladdodd Gwalchmai yn ei le, a dim ond pan drowyd ei helm y gwelodd Owain pwy oedd pwy. Cafwyd aduniad hapus a gwledd a barodd dri mis, yna aeth Owain i lys Arthur.
Ymhen tair blynedd daeth Luned yno i gymryd y fodrwy hud oddi ar Owain gan ei fod wedi esgeuluso ei wraig gyhyd. Cywilyddiodd Owain ac encilio i'r mynydd, wedi colli ei bwyll. Daeth Iarlles arall a'i morwyn o hyd iddo ac iro ei galon ag eli drud nes adfer iddo ei iechyd.
Yna brwydrodd Owain i adennill ei statws fel marchog, ac yn goron ar y cwbl llwyddodd i adennill ei wraig.
Mwy
Cysylltiadau'r Â鶹ԼÅÄ
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Chwedlau Myrddin
Straeon a gemau
Ewch ar anturiaethau gyda'r cymeriadau yn ein gemau a straeon cyfoes.