Bu farw tad Peredur a'i chwe brawd wrth ymladd mewn twrnameintiau a thrwy ryfela. Felly enciliodd Peredur a'i fam i le diffaith i osgoi milwriaeth o bob math.
Bob dydd âi Peredur i'r goedwig i daflu picellau celyn. Yno gwelodd dri marchog, sef Gwalchmai, Gwair, ac Owain. Archwiliodd Peredur eu gwisg, eu harfau a'u meirch, a phenderfynodd eu dilyn i bellafoedd byd. Dewisodd farch esgyrnog a arferai gario coed tân, rhoddodd fasged arno'n gyfrwy, a lluniodd harnais iddo o wiail. Gwrandawodd ar gynghorion da ei fam, ac ymaith ag ef i lys Arthur.
Yno heriodd Cai ef i ymladd â milwr oedd newydd fod yn y llys yn tywallt diod dros Gwenhwyfar, gwraig Arthur, yn rhoi bonclust galed iddi, a dwyn ei ffiol. Cytunodd Peredur.
Anelodd at yr adyn â phicell a'i daro yn ei lygad nes i'r bicell saethu allan drwy ei wegil. Cymerodd Peredur ei farch a'i arfau, a dychwelwyd y ffiol i Gwenhwyfar. Ond roedd Cai wedi digio Peredur ac ni ddychwelodd i'r llys.
Aeth Peredur ymlaen ar ei daith. Cyrhaeddodd lys ei ewythr ac yno dysgodd daro'n dda â chleddyf a dysgu moes ac arfer llys. Parhâi i drechu marchogion lawer ac i ddial cam merched oedd mewn perygl, er anrhydedd a gwasanaeth i Arthur.
Ymhen amser cychwynnodd Arthur a'i farchogion i chwilio am Peredur ym mhedwar ban byd. Cawsant ef mewn dyffryn, yn meddwl am ei gariad. Ni atebai gyfarchiad dim un o farchogion Arthur, ac ymladdodd nifer ag ef oherwydd ei anghwrteisi. Bu Cai yn hynod sarrug, a tharodd Peredur ef â gwaywffon o dan ei ên a'i daflu bellter mawr i ffwrdd nes torri ei fraich dde a gwaell ei ysgwydd.
Ond daeth Gwalchmai yn gyfaill i Peredur a pherswadiodd ef i ymweld ag Arthur. Gwnaeth Gwalchmai fwy â grym geiriau caredig nag a wnaeth Cai â grym arfau.
Yn llys Arthur syrthiodd Peredur mewn cariad ag Angharad ond ni fynnai hi ef. I'w hennill yn wraig cyflawnodd Peredur ryfeddodau mawr. Lladdodd gewri'r Dyffryn Crwn, a lladdodd sarff oedd yn gorwedd ar fodrwy aur. Wrth ddychwelyd i lys Arthur trawodd Cai ef yn ei glun. Ymgeleddodd Angharad ef yn llys Arthur ac yn dâl am hynny lladdodd Peredur farchog peryglus. O'r diwedd carodd Angharad ef yn fwy na neb yn y byd.
Yna aeth Peredur ar gyfres o anturiaethau cyffrous: lladdodd ddyn mawr unllygeidiog, sef y Du Gormesol, ac yna fwystfil ystrywgar a laddai bawb a ddôi i'w ogof. Arweiniodd Edlym Gleddyf Goch at ei gariad, lladdodd sarff y Crug Galarus, a llywodraethodd am bedair blynedd ar ddeg gydag Ymerodres Caergystennin Fawr.
Nesaf aeth Peredur ar drywydd y pen ar y ddysgl, a'r waywffon waedlyd, a welsai ynghynt yn llys ei ewythr. Ar ei ffordd teithiodd heibio i Gaer y Rhyfeddodau i Gaer Ysbidinogl a lladd meistr y gaer honno. Allan yn y goedwig gwelodd garw oedd yn pori'r dail a'r glaswellt i gyd gan newynu pob anifail, ac yn yfed y llyn yn sych nes peri lladd pob pysgodyn. Torrodd Peredur ben y carw.
Ar gais merch dlos ymladdodd Peredur â dyn pryd tywyll, ond collodd Peredur y frwydr a chollodd ei farch. Cerddodd dros y mynydd nes dod at lys teg. Esboniodd meistr y llys ystyr y pen a'r waywffon waedlyd - gwrachod Caerloyw oedd wedi torri pen cefnder Peredur a'i osod ar y ddysgl.
Anfonodd Peredur am gymorth Arthur i ymosod ar y gwrachod a dial cam ei deulu. Tynnodd Peredur ei gleddyf a tharo un wrach nes torri ei helm a'i phen yn ddau hanner. Yna ymosododd Arthur a'i lu ar y gwrachod a lladdwyd gwrachod Caerloyw i gyd.
Mwy
Cysylltiadau'r Â鶹ԼÅÄ
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Chwedlau Myrddin
Straeon a gemau
Ewch ar anturiaethau gyda'r cymeriadau yn ein gemau a straeon cyfoes.