Main content

Geirfa Pigion Radio Cymru i Ddysgwyr - Mai 19, 2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Stiwdio - Chalkie Davies

arddangosfa - exhibition
cyfrinach - secret
pencampwr - champion
hynaws - affable
trawiadol - striking
cynulleidfa - audience
wedi dotio - doted on
elfen o wirionedd - an element of truth
fy nharo i - struck me
dadleuol - controversial

...clip o'r rhaglen Stiwdio ddydd Mawrth diwetha, oedd yn rhoi sylw i waith y ffotograffydd Chalkie Davies. Mae arddangosfa o waith y ffotograffydd newydd agor yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd. Mae Chalkie yn dod o Sili ym Mro Morgannwg yn wreiddiol a daeth yn enwog fel ffotograffydd i’r cylchgrawn cerddorol “New Musical Express”, neu’r “NME” yn ystod y saithdegau a'r wythdegau. Aeth Euron Griffith i weld yr arddangosfa yng nghwmni’r ffotograffydd Emyr Young a dyma i chi flas ar eu sgwrs...

Dei Tomos - Y diwydiant llechi

Y diwydiant llechi - the slate industry
yn ei hanterth - at its peak
cynhwysfawr - comprehensive
eangfrydig - boadminded
plwyfol - parochial
canolbwynt - focal point
cadarnleoedd - heartlands
chwareli - quarries
cyfnod o gyni - a period of hardship
canran fawr - a large proportion

Cofiwch, tasai ganddoch chi ddiddordeb mewn gweld gwaith y ffotograffydd Chalkie Davies, mae yna arddangosfa o'i waith yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Hanes y diwydiant llechi gaethon ni gan y Dr David Glyn ar raglen Dei Tomos ddydd Mawrth. Mae Dr David Glyn wedi ysgrifennu llyfr am y diwydiant, ac un o'r cwestiynau gofynnodd Dei Tomos iddo fo oedd: 'ydy hi'n wir mai llechi gogledd Cymru ydy'r rhai gorau yn y byd?' Mi gewch chi glywed ei ateb i'r cwestiwn hwnnw yn y clip nesa ma...

Bore Cothi - Divas

llwyfannau mawr - the major stages
cantorion - singers
gwefr - thrill
ar eu pwys nhw - wrth eu hymyl nhw
allwedd - key
yr awyrgylch - the atmosphere
hala'n fi'n wyllt - make me mad
sylwi - notice
edrychiad - a look
yn gofiadwy - memorable

Wel, beth bynnag mae Dr David Glyn yn ei ddwued, fel hogyn o Lanberis, dw i'n sicr iawn mai llechi gogledd Cymru ydy'r gorau! Dan ni wedi arfer cael un diva ar raglen Bore Cothi yndo? Shan Cothi ei hunan wrth gwrs, ond mi gafodd Shan gwmni diva arall ddydd Mercher. Daeth y gantores Leah-Marian Jones i gael sgwrs efo Shan, ac mi gaethon i gipolwg bach ar pa fath o fywyd sydd gan y divas hyn...

Caryl Parry Jones - Star Wars

cyfarwyddwr - director
disgwyliadau - expectations
chwythu - blowing
y weledigaeth - the vision
llinellau - lines
trafferthion - problems
elfen - an element
gweddill ei fywyd - the rest of his life
sgwn i? - tybed?
annog - to encourage

Difyr ynde, Shan Cothi a'i gwestai Leah Marian-Jones yn sôn am Plácido Domingo fel tasai fo'r dyn drws nesa! Dan ni'n mynd i orffen y podlediad yr wythnos yma efo sgwrs rhwng Caryl Parry Jones a’i gwesteion, Mathew Glyn, Gary Slaymaker a Dion Davies. Sôn maen nhw am George Lucas, cyfarwyddwr y ffilmiau Star Wars. Roedd hi'n benblwydd arno fo yr wythnos diwetha ac mi fuodd y criw yn sgwrsio am ei ffilmiau mwya llwyddiannus....

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Paratoi ar gyfer Ewrop