cy Blog Radio Cymru Feed Mae Blog Radio Cymru yn cynnwys newyddion, gwybodaeth am raglenni, cyflwynwyr a lluniau. Fri, 10 Apr 2020 07:56:29 +0000 Zend_Feed_Writer 2 (http://framework.zend.com) /blogs/radiocymru Pam fod yn rhaid dod a thymor 2019/20 i ben! Fri, 10 Apr 2020 07:56:29 +0000 /blogs/radiocymru/entries/29294619-2b22-4f02-a8d1-871e5709543b /blogs/radiocymru/entries/29294619-2b22-4f02-a8d1-871e5709543b Glyn Griffiths Glyn Griffiths

Naill ai mae COVID19 yn fygythiad ac ni all pobl ymgynnull, neu nid yw’n fygythiad ac fe all pobl ymgynnull. Mae 22 o chwaraewr ar gae, yn ogystal â swyddogion ac eilyddion, yn amlwg yn ymgynnull, ac wrth gwrs mewn cysylltiad agos a’i gilydd.

Bydd gêm a chwaraeir y tu ôl i ddrysau caeedig yn dal i gynnwys cannoedd o bobl yn gweithio yn agos at ei gilydd - rheolwyr, hyfforddwyr, staff meddygol, ball-boys, personél teledu, ac ati.

Mae'r nonsens “y tu ôl i ddrysau caeedig” yn hollol hurt. Nid oes unrhyw un eisiau pêl-droed “y tu ôl i ddrysau caeedig”. Dim ond fel cosb wedi i gefnogwyr gamymddwyn y caiff ei ddefnyddio, am reswm da iawn: mae'n brofiad di-enaid i'r chwaraewyr a'r cefnogwyr absennol. Peth arall – o adnabod cefnogwyr pêl-droed, mae'n debyg y byddent yn ymgynnull y tu allan i’r meysydd lle mae'r gemau'n cael eu chwarae, “drysau caeedig” ai peidio.

Mae'r syniad y gellir gorffen y tymor yn sylfaenol ddiffygiol - pe bai hyn yn cael ei wneud, byddai'n golygu y byddai chwarter y tymor yn cael ei chwarae o dan amodau hollol wahanol i'r tri chwarter cyntaf, a fyddai'n gwbwl annheg i'r holl dimau. I roi un enghraifft – roedd West Ham i fod i wynebu Aston Villa ar ddiwrnod olaf y tymor, gêm y gallai’n hawdd fod yn dyngedfennol i’r ddau glwb. Cafwyd gêm gyfartal ym Mharc Villa yn gynharach yn y tymor; a fyddai’n deg i West Ham orfod chwarae heb dorf, a felly colli’r fantais o chwarae adref?

Pwyntiau eraill: dychmygwch pe taw’r tymor yn ailgychwyn ar ôl seibiant o ddau neu dri mis, ac yna, ar ôl ailddechrau, i rhai chwaraewyr gael eu taro’n wael gan y feirws! Byddai'n rhaid dod â'r tymor i ben ar unwaith, gan achosi aflonyddwch gwaeth fyth.

A yw’n deg neu’n rhesymol fod personél meddygol (a fyddai’n gorfod mynychu’r gemau, rhag ofn anaf difrifol i chwaraewyr) yn cael eu tynnu oddi wrth y “rheng flaen” o ymladd y clefyd hwn a gofalu am gleifion i alluogi chwarae pêl-droed?

Nid wyf hyd yn oed yn sôn am y cymhlethdodau posibl sy’n deillio o gytundebau chwaraewyr yn dod i ben ar Fehefin 30ain.

Mae’r sefyllfa’n fy atgoffa o’r gêm enwog pan sgoriodd Denis Law chwe gôl i Manchester City yn erbyn Luton yng Nghwpan yr FA yn 1961; rhaid rhoi terfyn ar y gêm wedi 70 munud o achos cyflwr y cae. Fe gollodd Man City pan ail-chwaraewyd yr ornest o 3 – 1!

Mae'n anodd i glybiau roi'r gorau i'r tymor, yn enwedig y rhai sy'n agos at ennill tlysau neu ddyrchafiad, ond mae'r risgiau'n rhy fawr.

Gallwch anghofio unrhyw obaith o arweiniad gan yr awdurdodau pêl-droed yn y sefyllfa hon. Bydd y llywodraeth, UEFA, PL, FA ac ati i gyd eisiau i'r un arall wneud y penderfyniad. Mae pob un ohonyn nhw'n mynd i geisio gweithredu fel pe tae nhw eisiau i'r tymor ddal ati. Mae'n helpu gyda'u naratif, ond mae hefyd yn helpu os bydd her gyfreithiol. Byddant yn defnyddio'r amddiffyniad mai diddymu oedd yr unig benderfyniad a adawyd ar eu cyfer ar ôl i ffactorau allanol sicrhau nad oedd ganddynt unrhyw ddewis amgen.

Os mabwysiadir y dull hwnnw, byddai’n rhaid i unrhyw glwb (dyweder Leeds United er enghraifft) nid yn unig brofi eu bod yn haeddu cael dyrchafiad (er iddynt fethu’r tymor diwethaf o sefyllfa debyg) a bod yr holl brotocol o ddiddymu tymhorau anghyflawn yn anghywir, ond hefyd fod gan y PL / FA unrhyw ddewis arall ar gael iddynt o ystyried eu bod yn cael eu gorfodi gan UEFA / Llywodraeth.

Felly byddwn i'n disgwyl datganiad ddiwedd mis Mai yn dweud yn y bôn- "roeddem wedi ymrwymo i ddod â'r gynghrair i ben, ac roedd y llywodraeth yn gwrthod caniatáu inni chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig yn gwneud hynny'n amhosibl, felly nid oedd gennym ddewis ond diddymu "- yn amlwg wedi'i eirio'n gyfreithiol, ond dyna'r sail.

Rolant Ellis

]]>
0
Athroniaeth Albert Camus Fri, 03 Apr 2020 10:45:04 +0000 /blogs/radiocymru/entries/dea1b235-6311-4004-b516-4380cd3056ce /blogs/radiocymru/entries/dea1b235-6311-4004-b516-4380cd3056ce Glyn Griffiths Glyn Griffiths

“’Rwy’n ddyledus i bêl droed am y cyfan ‘rwy’n ei wybod yn ddiau am foesoldeb a rhwymedigaethau dynol” - na nid fy ngeiriau i, na datganiad athronyddol gen i chwaith.
Mae’r dyfyniad uchod wedi ei gredydu i’r diweddar Albert Camus, sef llenor ac athronydd Ffrengig a enillodd Wobr Nobel am ei waith llenyddol nol yn y pumdegau.
Dyn papur newydd a chynhyrchydd dramâu oedd wrth ei alwedigaeth; fe gyhoeddodd gyfrolau o ysgrifau ar athroniaeth a gwleidyddiaeth, ac ysgrifennodd ddramâu, ond fel athronydd ac, yn enwedig, fel nofelydd y daeth i fri ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Defnyddiodd y nofel fel cyfrwng i fynegi ei syniadau am fywyd a chyflwr y ddynoliaeth.
Gyda chyhoeddiad ei nofel fawr La Peste (Y Pla) yn 1947 daeth i'w le fel un o brif lenorion yr oes.
Lleolir y nofel yn Oran yn y cyfnod trefedigaethol pan reolwyd y wlad honno gan Ffrainc. Gosodir digwyddiadau'r nofel yn y 1940au gan adrodd hanes bywyd beunyddiol trigolion y ddinas yn ystod pla sy'n ei tharo ac yn torri pob cysylltiad rhyngddi a gweddill y byd.
Ond nid nofel syml yw hon, ond un sy'n adlewyrchu athroniaeth ddirfodol yr awdur, ac yn nofel a gaiff ei hystyried fel un o glasuron llenyddiaeth dirfodaeth.
Be felly, mae hanes nofel dirfodol, gan Ffrancwr mor bell yn ôl a 1947, yn cael ei chyfeirio ato mewn blog, sydd i bob pwrpas, yn ymwneud a’r byd pêl droed?
Wel, heblaw bod yn llenor, roedd Camus yn dipyn o ffan y gêm. Golwr oedd wrth ei allu, ac wedi chwarae i dim Racing Universitaire Algerios (sef tîm y brifysgol) , ond oherwydd salwch y diciáu, ni allodd gyfiawnhau ei ddoniau, a bu angen iddo roi terfyn ar ei obeithion o chwarae pêl droed ar y lefel uchaf, yn fuan yn ei yrfa.
Fodd bynnag, defnyddiodd Camus y gêm fel sail i ddatblygu ei athroniaeth a’i ddealltwriaeth o ddynoliaeth, wrth adnabod rhinweddau'r byd pêl droed o gyd chwarae tuag at ddibenion cyffredin.
Hwyrach y gellir cymharu dylanwad a chredoau Camus i resymeg cyn chwaraewr Manchester United, Ffrancwr arall, Eric Cantona, a ddatgelodd unwaith fod llwyddiant Manchester United wedi ei seilio ar y parch a’r gallu ymysg y chwaraewyr i amddiffyn ei gilydd a chydweithio at nodau cyffredin.
Felly hefyd athroniaeth Camus, sef ei neges fod y natur ddynol yn un a'i hanfod ar ofalu am ein ffrindiau, teuluoedd a magu gonestrwydd personol er mwyn datblygu perthnasau dynol.
Credai hefyd fod y byd chwaraeon, yn enwedig o’i brofiad personol o, yn gallu cynnig fframwaith well ar gyfer bywyd nag y gallai gwleidyddiaeth nag unrhyw athroniaeth yn yr oes honno.
Daeth ei ddyfyniad uchod yn sgil cyfweliad yn y pumdegau cynnar wrth iddo gyfeirio at ei amser fel golwr tîm ei brifysgol, gan ddweud bod angen iddo addasu ei ymateb fel golwr, wrth weld nad yw’r bel yn dod ato fel y rhagdybiwyd, ac felly, yn ôl y profiad mae’r angen i bobol addasu i ddigwyddiadau bywyd, yn ei farn o , fel yr angen i'r golwr addasu ei symudiad i ymateb yn gadarnhaol i'r annisgwyl.
Heddiw, ynghanol ofnau'r Coronafirws, pa mor agos mae athroniaeth Camus yn ein hamgylchynnu, gyda’r angen i ninnau addasu'r ffordd yr ydym yn byw, yn sgil ofnau dychrynllyd ansicr yr afiechyd yma!
Wnâi ddim mynd i ddyfnion neges ac athronoiaeth Camus yn ei nofel! Mae'n debyg fy mod wedi gwneud digon i'ch drysu yn barod, ond mae'r Pla yn llyfr wnes i astudio yng ngwersi Ffrangeg yn y chweched dosbarth dros hanner can mlynedd yn ôl.
Digon, fodd bynnag, i ddweud mai nofel sy'n ceisio dangos sut mae'r pla wedi effeithio ar fywyd, credoau, penderfyniadau a chymeriad trigolion Oran wrth iddynt yn ymateb i'r pla a oedd yn eu mysg.
Amser i'w ail ddarllen o bosib !
Os ydych chithau, fel Albert Camus wedi dod i ddeall drwy bêl droed, sut mae ymateb yn gadarnhaol drwy wrthdaro yn erbyn digwyddiadau afiach, gwenwynig, annisgwyl, yna dilynwch gyfarwyddiau tim hyfforddi’r Gwasanaethau Iechyd, tactegau ein rheolwyr a'n chwaraewyr arwrol meddygol.
Trwy gydweithio, parchu ac amddiffyn ein gilydd, ein cyfeillion a'n teuluoedd fe lwyddwn ninnau i sgorio’r goliau a dangos y cerdyn coch a gaiff wared â’r afiechyd sydd wedi camsefyll ynghanol ein bywydau mor fuan ag sydd bosibl.
Byddwch wyliadwrus ac edrychwch ar ôl eich hunain.

]]>
0
Geirfa Podlediad Pigion Radio Cymru i Ddysgwyr Wed, 11 Mar 2020 12:17:47 +0000 /blogs/radiocymru/entries/188995a4-96ac-4226-a2ef-f2d33744ced3 /blogs/radiocymru/entries/188995a4-96ac-4226-a2ef-f2d33744ced3 Geirfa Podlediad i Ddysgwyr Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Mae lleoliad Geirfa Pigion i Ddysgwyr wedi newid.

Mae'r geirfa bellach ar gael ar dudalen y Podlediad - gwasgwch y linc "Darllen Mwy" o dan y ffeil sain sy'n chwarae.

Linc: Podlediad Pigion Radio Cymru i Ddysgwyr

]]>
0
Cynghrair y Cenhedloedd 2020 Fri, 06 Mar 2020 10:00:18 +0000 /blogs/radiocymru/entries/b75d3c5f-0089-4f7b-b0ef-49a88e84ee39 /blogs/radiocymru/entries/b75d3c5f-0089-4f7b-b0ef-49a88e84ee39 Glyn Griffiths Glyn Griffiths

A dyna ni, ymgyrch newydd ar fin cychwyn gyda Chymru yn wynebu Gweriniaeth Iwerddon, Bwlgaria a’r Ffindir yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Llwyddodd Cymru i guro’r Weriniaeth adref ac i ffwrdd yng nghystadleuaeth agoriadol y Gynghrair - gan weld buddugoliaeth swmpus a pherfformiad grymus a sicrhaodd fuddugoliaeth o bedair gôl i un yng Nghaerdydd, a dilyn hyn gyda buddugoliaeth arall o un gôl i ddim yn Nulyn.

Erbyn heddiw, mae Cymru wedi sefydlu ei hun yn yr unfed safle ar ddeg yn rhestr detholion FIFA tra mae’r Weriniaeth yn y drydydd safle ar hugain. Diddorol fyddai gweld os fydd blaenwr Casnewydd Pádraig Amond, yn cael ei gynnwys yng ngharfan y Gwyddelod; mae eisoes wedi chwarae unwaith i'w wlad, yn erbyn Gibraltar y llynedd.

Hwyrach y bydd y gemau yn llawer mwy agos nac o'r blaen, ond fe fydd chwaraewyr newydd, ifanc Cymru yn sicr o elwa o’r profiad, ac yn awyddus iawn i barhau gyda'u datblygiadau rhyngwladol i'r dyfodol.

Daw’r Ffindir i'r gystadleuaeth fel tîm arall sydd wedi llwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2020, ble byddant yn wynebu Denmarc, Rwsia a Gwlad Beg a bydd y gemau yma yn sir o roi profiad gwerthfawr iddynt cyn symud ymlaen i gemau Cynghrair y Cenhedloedd yn yr Hydref. Does dim dadlau mai’r blaenwr Teemu Pukki ydi seren y tîm, blaenwr sydd wedi tynnu sylw iddo'i hun gyda Norwich y tymor yma, ac fe fydd angen ei gadw'n dawel os am lwyddiant.

Y drydedd wlad sydd i wynebu Cymru ydi Bwlgaria, sydd heb brofi unrhyw fath o lwyddiant yn ddiweddar ac wedi llithro i'r pum deg nawfed safle yn netholion FIFA.

Mae bron pob un o'r garfan yn chwarae i dimau o fewn eu gwlad, a'r unig un i chwarae i dîm o fewn y Deyrnas Unedig ydi’r golwr Dimitar Evtimov sydd yn aelod o glwb Accrington Stanley.

Felly, fe ddylem fod yn optimistaidd wrth ystyried carfan Cymru o'i gymharu â'r gweddill. Fodd bynnag, rhaid cropian cyn rhedeg; mae’r Ewros i ddod gyntaf!

]]>
0
Jordan Hadaway, rheolwr ifanc Caerwys Mon, 10 Feb 2020 16:19:26 +0000 /blogs/radiocymru/entries/1890a111-8344-496e-a89e-da301f7e5843 /blogs/radiocymru/entries/1890a111-8344-496e-a89e-da301f7e5843 Glyn Griffiths Glyn Griffiths

Nid rhywbeth arferol ydi cael eich gwahodd i weithio fel hyfforddwr i Real Madrid. Ond dyna’r hyn ddigwyddodd i hyfforddwr ifanc o Dreffynnon yn ddiweddar.


Yn wythnosol, rheolwr tîm pêl droed Caerwys yn uwch gynghrair gogledd ddwyrain Cymru ydi Jordan Hadaway, ac mae eisoes wedi tynnu sylw wrth iddo gael ei enwebu fel y rheolwr ieuengaf ar dîm pêl droed chwaraewyr hŷn.


Myfyriwr yn y brifysgol yn Lerpwl yw Jordan, sy’n hyfforddi Caerwys ganol wythnos ac yn y gemau ar ddydd Sadwrn. Yna, yn dilyn ymweliad a chyfres o ddarlithoedd a sesiynau hyfforddi yng nghanolfan ymarfer Real Madrid yn Sbaen, cafodd Jordan wahoddiad i fod yn aelod o’r staff ar lefel rhan amser gyda’r bwriad o gynnal cyrsiau hyfforddi ar ran y clwb yn y Deyrnas Unedig.


Tipyn o fraint yn enwedig felly o ystyried y bydd yn cynnal cyrsiau i chwaraewyr ifanc, yn union fel y mae cyn sêr y clwb, fel Raul, Alvaro Arbeola a Roberto Carlos yn ei wneud yn barod! Llongyfarchiadau i Jordan Hadaway, a phob dymuniad da iddo yn ei fenter newydd, a hefyd yn ei gwrs ym Mhrifysgol Hope, Lerpwl mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon, yn ogystal ag astudio agweddau addysgol at gyfer disgyblion ac anghenion arbennig .

Viva Hadaway, Viva Hadaway!
Hala Madrid!

]]>
0
Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - 5ed o Chwefror 2020 Wed, 05 Feb 2020 13:55:31 +0000 /blogs/radiocymru/entries/e91648b6-3722-4301-90c4-134b45c1e94c /blogs/radiocymru/entries/e91648b6-3722-4301-90c4-134b45c1e94c Geirfa Podlediad i Ddysgwyr Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - 5ed o Chwefror 2020

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Beti A'i Phobol - John Gwyn Jones

Prif Weithredwr - Chief Executive
Y Dwyrain Pell - The Far East
ysgolion rhyngwladol - international schools
ymuno â - to join
yn grwt - yn fachgen
glöwr - coal miner
dan ddaear - underground
fy nghodi - my upbringing
mwyafrif - majority
rhannu fy mhrofiad i - share my experience

John Gwyn Jones o Frynaman Ucha oedd gwestai Beti George. Mae John yn Brif Weithredwr ar grwp o ysgolion Prydeinig yn y Dwyrain Pell. Gofynnodd Beti iddo fe faint o ysgolion oedd yn rhan o'r grwp?

Aled Hughes - Dracula

ellyll - evil spirit
llenyddiaweth a chwedloniaeth - literature and folklore
honni - to claim
ysbrydoliaeth - inspiration
bodau - beings
drysu - to confuse
rhywogaeth - species
llu angau - legions of death
dieflig o greulon - diabolically cruel
adnoddau gwych - excellent resources

John Gwyn Jones yn siarad gyda Beti George am ysgolion Prydeinig y Dwyrain Pell. Oes yna gysylltiad rhwng Cymru a Dracula? Efallai nad oes yna, ond mae'r bardd Aneirin Karadog yn credu bod y gair 'ellyll' yn codi mor aml mewn llenyddiaeth a chwedloniaeth Cymraeg a bod hynny'n dangos bod y syniad o fampirod wedi bod yng Nghymru ers canrifoedd.


Bore Cothi - Sioned Mai Davies

cyflwr - condition
cyhyrau - muscles
ceidwad sw - zoo keeper
meddyginiaeth - medicine
llnau - glanhau
teirw - bulls
tynnu gwaed o'u gwddw - taking blood from their necks
trin a thrafod - to handle
perycla - most dangerous
roedden nhw'n cau mynd - they refused to go

Taith fach ddiddorol drwy lenyddiaeth a chwedloniaeth Cymraeg yn fan'na gyda'r bardd Aneirin Karadog. Cerdd wnaeth Sioned Mai Davies astudio ym Mhrifysgol Bangor, ond wedyn mi ffeindiodd hi bod y cyflwr Ehlers-Danlos arni hi. Cyflwr ydy hwn sy'n effeithio ar y cyhyrau ac roedd rhaid i Sioned ddysgu cerdded unwaith eto.
Ar ôl gwella, penderfynodd Sioned fynd yn ôl i'r coleg ac nawr mae gyrfa newydd gyda hi - fel ceidwad sw. Dyma Shan Cothi yn ei holi am ei swydd.

Galwad Cynnar - Taith John Lloyd

ffermdy llaeth - milk farmhouse
glöwyr - coal miners
ychwanegu - to add
sicrhau - tensuring
islaw - below
elfennau newydd - new features

Wel pwy fasai'n meddwl bod zebra yn anifail peryglys on'd ife? Ar Galwad Cynnar ddydd Sadwrn clywon ni John Lloyd yn disgrifio un o'i hoff deithiau cerdded yn ardal Llansteffan yn Sir Gaerfyrddin. Dyma i chi flas ar y sgwrs.

Dros Ginio - Y brodyr Hallam

heb golli blewyn o'i ben - not lost any of his hair
ceffyl blaen - leader
arwain trafodaeth - leading the discussion
efeilliaid - twins
bach yn iau - a little younger
fy nyrnu i - beat me up
heddychwr o argyhoeddiad - a pacifist of conviction
yn weddol anghyffredin - fairly uncommon
prin - rare
ennyn dadl - to provoke an argument

A dw i'n siwr bod y glöwyr wedi mwynhau'r olygfa yn well byth wedi yfed y rum!
Bob dydd Llun mae Dewi Llwyd ar raglen Dros Ginio'n cael sgwrs gyda dau aelod o'r un teulu. Dau frawd oedd yn westeion y tro yma sef Gwion a Tudur Hallam. Dyma nhw'n sôn am eu perthynas fel brodyr.

Rhys Mwyn - Kate Bush

trefniant - arrangement
darganfod - to discover
unigryw - unique
cael eich trwytho - been immersed
seren wib - shooting star
chwythu fy mhen - blow my mind
cyfeilio - to accompany
dylanwadau - influences
gwreiddiau Gwyddelig - Irish roots
dychymyg - imagination

Y brodyr Hallam oedd y rheina ac roedden nhw i weld yn ffrindiau da, on'd oedden nhw? Ar raglen Rhys Mwyn nos Lun Sian James ac Eadyth Crawford oedd yn trafod caneuon a cherddoriaeth Kate Bush. Mwynhewch y gerddoriaeth sydd yn y clip ond cofiwch hefyd am Ddydd Miwsig Cymru ddydd Gwener nesa Chwefror yr 8ed - bydd miwsig Cymraeg ar Radio Cymru drwy'r dydd.

 

 

]]>
0
Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - 29ain o Ionawr 2020 Thu, 30 Jan 2020 15:19:20 +0000 /blogs/radiocymru/entries/ef053b67-b94e-45d9-8905-dfa799265d1c /blogs/radiocymru/entries/ef053b67-b94e-45d9-8905-dfa799265d1c Geirfa Podlediad i Ddysgwyr Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Galwad Cynnar - Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol - The National Trust
arfordir - coastline
tirfeddiannwr - landowner
elusen amgylcheddol - environmental charity
grym gwleidyddol - political power
Prif Weithredwr - Chief Executive
canolbwyntio - to concentrate
sicrhau mynediad - to secure access
y degawd nesa - the next decade
sylweddol - substantial

125 o flynyddoedd yn ôl prynodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol eu darn o dir cynta - pedair acer a hanner ym Meirionnydd. Erbyn hyn wrth gwrs mae gyda nhw 612,000 o aceri o dir. Dyma Sioned Humphreys yn sôn ychydig am y math o dir sy gyda'r Ymddiriedolaeth y dyddiau hyn.

Rhys Mwyn - Cerys Hafana

telynores - female harpist
croenddu - black
diffyg amrywiaeth - lack of diversity
cefndir lleiafrifol ethnig - ethnic minority background
arwain at - leading to
diwylliannol - cultural
dewr - brave
yn gyhoeddus - publicly
parch - respect
amlygu - to highlight

Sioned Humphreys oedd honna yn sgwrsio gyda Geraint Pennant ar Galwad Cynnar am yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae'r delynores ifanc Cerys Hafana wedi ysgrifennu erthygl i'r cylchgrawn "O'r Pedwar Gwynt", am ddiffyg amrywiaeth yn y byd cerddoriaeth Gymraeg. Er hynny roedd hi'n amlwg yn hoff iawn o'r gantores groenddu Kizzie Crawford. Pam bod hi mor hoff o Kizzie tybed?

Geraint Lloyd - David Michael Hughes

technegydd dannedd - dental technician
cyfweliad - interview
dannedd gosod - false teeth
trwsio - to repair

Cerys Hafana a Rhys Mwyn oedd y rheina yn trafod Kizzie Crawford. Nos Lun cafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda David Michael Hughes o Landegfan ar Ynys Môn sydd yn dechnegydd dannedd. Roedd Geraint eisiau gwybod sut a pham daeth e i'r swydd a beth yn union mae e'n wneud o ddydd i ddydd.

Ifan Jones Evans - Brecwast Bore Felin Fach

cadeirydd - chair
pwysigrwydd - importance
Undeb Amaethwyr Cymru - Farmers Union of wales
llwyth - loads
gweini - to serve
llywydd - president
mawrion - VIP
torchi llewys - rolling up the sleeves
unig - lonely
noddwyr - sponsors

A dyna ni - dych chi'n gwybod ble i fynd i drwsio'ch dannedd gosod nawr! Wel yr wythnos ddiwetha ‘ma, roedd hi’n Wythnos Brecwast Fferm. Bore Mawrth aeth Ifan Jones Evans draw i Neuadd Felin Fach yn Nyffryn Aeron, i glywed mwy am yr wythnos a hefyd i gael llond bol o frecwast!


Aled Hughes - Cledwyn Jones

Yr Ail Ryfel Byd - The Second World War
Pwyllgor - Committee
treulio oes - spend a life
caniatáu - to permit
cyffelyb - similar
y gelyn - the enemy
Almaenwyr - Germans
lle delfrydol - an ideal place
chwarelyddol - quarrying area
fel crempog - like a pancake

Ifan Morgan Evans yn fan'na'n edrych ymlaen at ei frecwast!
Mae Cledwyn Jones yn 96 oed ac roedd o'n beilot yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd e wastad eisiau bod yn beilot ac ar ei raglen ddydd Mercher gofynnodd Aled Hughes iddo fe pryd dechreuodd y diddordeb mewn hedfan.

Aled Hughes - Hyrdi Gyrdi

corff pren -
olwyn -
allweddellau -
chwe thant -
ar bwys -
cymleth -
gweithdy -
yn draddodiadol -
Llydaw -
sain -

Cledwyn Jones yn cofio ei amser fel peilot yn yr Ail Ryfel Byd. Mae Jonathan Perry o Abertridwr ger Caerffili, yn gallu chwarae'r hyrdi gyrdi, ac mae wedi dysgu mai’r enw Cymraeg amdano yw y Berwg. Wel beth yn union yw'r Berwg felly? Dyma Jonathon yn ei ddisgrifio wrth Aled Hughes.

 

]]>
0
Pedwaredd Rownd Cwpan Cymru JD Fri, 24 Jan 2020 08:20:50 +0000 /blogs/radiocymru/entries/12384c3b-16bc-448e-8cef-dc52bd0baaf5 /blogs/radiocymru/entries/12384c3b-16bc-448e-8cef-dc52bd0baaf5 Glyn Griffiths Glyn Griffiths

Mae’n benwythnos Cwpan Cymru JD eto gyda gemau diddorol ar hyd a lled y wlad.

Bydd dwy gêm yn cael eu cynnal rhwng timau o Uwch gynghrair JD Cymru sef y Seintiau Newydd ac Aberystwyth - gem a fydd o bosibl yn gweld y Seintiau yn camu ‘mlaen i rownd yr wyth olaf, tra fydd Pen y Bont yn wynebu Coleg Met Caerdydd - y Coleg i ennill efallai?

Fodd bynnag, fy newis i o’r gemau ydi honno yn Abertawe ble fydd tîm y Brifysgol sydd ar frig Cynghrair De Cymru yn chwilio am fuddugoliaeth dros Brestatyn, sydd eu hunain yn gosod safon uchel ar frig Gynghrair Gogledd Cymru.

Ail agos i fod yn gêm y rownd yw honno yn Rhydaman rhwng y tîm lleol a Chaernarfon. Nid gem hawdd yw hon i'r Cofis sydd wedi disgyn am rediad siomedig ers y Nadolig, a chyda Rhydaman yn chwalu Caerfyrddin o bedair gôl i ddim yn y drydedd rownd, fe allaf weld buddugoliaeth arall iddynt dros dîm o Uwch Gynghrair Cymru.

Gyda Choleg Met Caerdydd eisoes wedi dangos yr hyn sy’n bosibl i dîm o brifysgol ei gyflawni o fewn cyfundrefn bresennol pêl droed Cymru, mae myfyrwyr Abertawe yn barod i wneud eu marc hefyd, a hwyrach wedi dysgu oddi ar ddatblygiad y Met.

Ond, Cwpan Cymru sydd yn galw brynhawn Sadwrn gyda lle yn yr wyth olaf yn galw’r enillwyr.

Gweddill gemau’r bedwaredd rownd – gyda fy mhroffwydoliaeth, ydi:-

Derwyddon Cefn v Pontardawe - y Derwyddon i ennillCei Connah v Lido Afan – Cei Connah i gamu ymlaenY Drenewydd v y Rhyl – buddugoliaeth i’r DrenewyddY Fflint v Bae Colwyn – y Fflint i’r wyth olaf

Mwynhewch y gemau a “Gwyliwch y goliau”, chwedl Dylan Jones !

]]>
0
Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - 22ain o Ionawr 2020 Wed, 22 Jan 2020 14:37:20 +0000 /blogs/radiocymru/entries/eacc845c-71e2-4389-a756-a509569295a1 /blogs/radiocymru/entries/eacc845c-71e2-4389-a756-a509569295a1 Geirfa Podlediad i Ddysgwyr Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Geraint Lloyd - Rhiannon Davies

aelodau - members
Cadeirydd - Chair
Y Pwyllgor Rhyngwladol - the International Committee
poblogaidd iawn - very popular
am yn ail flwyddyn - every other year
cyfleon - opportunities
blynyddoedd maith - many years ago
lledaenu - to spread
cyfweliad - interview
cyfrwys - crafty

Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn cynnig sawl cyfle i'r aelodau deithio dramor. Nos Fawrth cafodd Geraint Lloyd wybod mwy am hyn drwy sgwrsio gyda Rhiannon Davies – Cadeirydd y Pwyllgor Rhyngwladol.

Stiwdio - Y theatr yng Nghymru

Cyfarwyddwr - Director
degawdau - decades
nifer helaeth - a large number
madarch - mushrooms
ffrwydriad - explosion
yn rhyfedd iawn - strangely enough
datganoli - devolution
Cynulliad - Assembly
y gymuned - the community
parhau - to continue

Tips da iawn gan Geraint a Rhiannon yn fan'na i unrhyw un sy ffansi teithio dramor gyda Chlybiau Ffermwyr Ifanc Cymru. Ar Stiwdio nos Lun, y theatr yng Nghymru oedd yn cael sylw Nia Roberts yng nghwmni Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artsitig Theatr Arad Goch ac Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artsitig y Theatr Genedlaethol. Dyma Jeremy yn disgrifio sut mae byd y theatr yng Nghymru wedi newid dros y degawdau diwethaf.


Bore Cothi - Sharon Morgan

arogl - scent
clychau'r gog - bluebells
gwynt y pridd - the smell of soil
mynwent - cemetary
persawr - perfume
coedwig - woodland
ieuenctid - youth
llonyddu - to calm
llesmeiriol baent - enchanting paint
oesol - age-long

Jeremy Turner oedd hwnna yn sôn am y newidiadau sy wedi bod ym myd y theatr dros y degawdau. Yr actores dalentog Sharon Morgan oedd gwestai Heledd Cynwal ddydd Mercher. Dyma hi'n sôn am ei hoff arogl.


Dewi Llwyd - Ben Lake

Aelod seneddol - Member of Parliament
gwefr - thrill
bythgofiadwy - unforgetable
yn annisgwyl - unexpected
yn ail barchus - a respectable second
dipyn o gamp - quite an achievement
wrth i'r canlyniad gael ei ddatgan - as the result was being declared
deigryn - a tear
balchder - pride
gofid - concern

Heledd Cynwal oedd honna yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes ac yn sgwrsio gyda Sharon Morgan sy'n chwarae rhan Brenda yn Pobol y Cwm ar hyn o bryd. Gyda llaw caeth y ddwy wybod yn ystod y rhaglen mai R Williams Parry oedd bardd 'Clychau'r Gog'.

Gwestai penblwydd rhaglen Dewi Llwyd oedd Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake. Bydd Ben yn dathlu ei benblwydd ddydd Mercher nesaf yn 27ain oed. Enillodd e sedd Ceredigion am y tro cynta yn 2017 a gofynodd Dewi iddo fe sut deimlad oedd ennill y sedd am y tro cynta'.


Dros Ginio - Harry a Meghan

cyd-fynd - to agree
dwlu arnot ti - dy hoffi di'n fawr
y cyfryngau - the media
yn flaenllaw - prominent
ffoaduriaid - refugees
yn gyfreithlon - legally
cynrychioli - representing
aeddfedrwydd - maturity
y rhwyg - the split
amgylchiadau - circumstances

Ben Lake Aelod Seneddol ifanc Ceredigion yn sôn am y wefr o ennill y sedd wrth Dewi Llwyd. Mae Harry a Meghan wedi bod yn y newyddion yr wythnosau diwetha on'd dyn nhw? Mae'n debyg bod y cwpwl am deulio'r rhan fwyaf o'u hamser o hyn ymlaen yng Nghanada. Ond beth mae pobl Canada yn feddwl o hynny? Ar Dros Ginio ddydd Mercher clywon ni bod Cerwyn Davies o Ontario yn meddwl bydd croeso mawr i'r ddau yn y wlad ond doedd Hefina Phillips o Toronto ddim yn cytuno. Vaughan Roderick oedd yn eu holi.

Aled Hughes - Bethan Gwanas

ystyried - considering
cofnodi - to record
yr oes haearn - the iron age
ymchwil - research
lleoliadau - locations
dal wrthi - still at it
cyrff wedi rhewi - frozen bodies
llwyth - tribe
hud - magic
Y Môr Tawel - The Pacific Ocean

Wel o leia roedd Cerwyn a Hefina'n cyd-fynd â'i gilydd erbyn y diwedd! Mae gan Bethan Gwanas datw ac mae hi'n ystyried cael un arall. Ond fel clywodd Aled Hughes fore Iau mae ganddi ddiddordeb mawr yn hanes tatws. Dyma hi'n rhoi ychydig o'r hanes hwnnw.

 

]]>
0
Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - 16eg o Ionawr 2020 Thu, 16 Jan 2020 17:09:36 +0000 /blogs/radiocymru/entries/ff50b47f-75d4-42a0-8d01-af6d66f274ed /blogs/radiocymru/entries/ff50b47f-75d4-42a0-8d01-af6d66f274ed Geirfa Podlediad i Ddysgwyr Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Stiwdio - John Alwyn Griffiths

Dan Law'r Diafol - Under The Devil's Hand
cyhoeddwyd - was published
eich gyrfa gyfan - throughout your career
mynd i'r afael - to get to grips with
ymchwil - research
cam wth gam - step by step
ymholiadau - enquiries
alla i ddychmygu - I can imagine
am gyfnod hir - for a long period
ddim yn gwneud llawer o synnwyr - does not make much sense

Roedd John Alwyn Griffiths yn arfer gweithio fel plismon ond erbyn hyn mae o'n un o awduron prysura Cymru. Yn ddiweddar cyhoeddwyd wythfed nofel John “Dan Law'r Diafol” . Mae'r nofel yn dilyn hanes y ditectfif o Fôn, Jeff Evans, ac ar Stiwdio nos Lun, gofynodd Catrin Beard i John sut oedd ei brofiad o fod yn dditectif wedi ei helpu i sgwennu'r nofelau.

Rhaglen Dros Ginio - Taron Eggerton

gwobr - prize
am wn i - I suppose
yn falch iawn o'i lwyddianau - very proud of his success
eithriadol - exceptional
ar yr adeg iawn - at the right time
ei ddawn e - his talent
tipyn o gamp - quite a feat
Ysgol Lwyfan - Stage School
Canolfan y Celfyddydau - The Arts Centre
arddel ei Gymreictod - to profess his Welsh identity

John Alwyn Griffiths oedd hwnna ar Stiwdio yn sôn am ei nofel dditectif ddiweddara. Enillodd Taron Egerton wobr yn seremoni'r Golden Globe yr wythnos diwetha. Mae Taron yn dod o Benbedw, neu Birkenhead, yn wreiddiol ond cafodd ei fagu yn Llanfairpwll ar Ynys Môn ac yn Aberystwyth. Ar raglen Dros Ginio brynhawn Llun, cafodd Dewi Llwyd sgwrs gyda un o athrawon Taron yn Ysgol Penglais Aberystwyth, Mererid Thomas. Beth oedd staff a phlant yr ysgol yn feddwl o Taron erbyn hyn tybed?

Rhaglen Rhys Mwyn - Myfanwy

mor adnabyddus - so famous
yn fraw a rhyfeddol - a shock and wonder
yn fwya cyfarwydd â hi - most familiar with
harddwch a mynegiant - beauty and expression
anhygoel o deimladwy - incredibly poignant
rhyngwladol - international
oesol - perpetual
cael eich gwrthod - being rejected
cynhyrchu - to produce
teimlad grymus iawn - a very powerful feeling

Llongyfarchiadau mawr on'd ife i Taron Egerton a gobeithio bydd e'n ennill yr Oscar rhyw ddydd! Mae'r gân Myfanwy yn boblogaidd iawn ac wedi cael ei chanu gan sawl artist ar hyd y blynyddoedd. Mae'r band Clustiau Cwn wedi recordio fersiwn hollol wahanol o'r gân ac mi chwaraeodd Rhys Mwyn y gân ar ei raglen nos Lun. Dyma farn Casi Wyn am y gân.

Rhaglen Dei Tomos - Geraint Hergest

poblogaidd - popular
hunangofiant - autobiography
dwyieithog - bilingual
dirprwy - deputy
benthyg ei hunan - lends itself
cytgan - refrain
seiniau mwyn - gentle sounds
ynganiad - pronunciation
cryn dipyn - quite a lot

Barn Casi Wyn yn fan'na am fersiwn Clustiau Cwn o'r gân hyfryd 'Myfanwy'. Mae Geraint Davies yn enw adnabyddus fel aelod o nifer o fandiau poblogaidd dros y blynyddoedd ac mae e newydd gyhoeddi ei hunangofiant, ‘Diawl Bach Lwcus'. Un o'r bandiau buodd Geraint yn aelod ohono ydy 'Hergest' ac mi gafodd Dei Tomos hanes un o'u caneuon sef 'Glanceri' gan Geraint ar noson lansio'r hunangofiant.

Bore Cothi - Elvis

dynwared - to impersonate
teyrnged - tribute
bechod - pity
chwythu fyny - to blow up
anferthol - huge
cawr - giant
ymateb - response
cyfrifoldeb - responsibility
cymeradwyaeth - applause
mewn un ystyr - in one sense

Geraint Davies yn fan'na yn esbonio sut gwnaeth ei gyd-weithiwr yn Glan-llyn, Elvie McDonald o Batagonia, ei helpu i sgwennu cytgan Sbaeneg i'r gân Glanceri.
Basai Elvis wedi bod yn 85 ddydd Mercher yr 8fed o Ionawr. Cafodd Shan Cothi sgwrs efo'r Parch Wynne Roberts sy'n gaplan yn ysbyty Gwynedd ac s'yn dynwared Elvis. Pam a sut dechreuodd e wneud hynny?

Beti a'i Phobol - Martin Johnes

Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd. - New Year's Honours
hanesydd - historian
Oes Fictoria - Victorian era
darganfod - to discover
cwympo ma's - to disagree
cwyno amdano - to complain about it
gwenu - smiling
moel - bald
menywod - merched
becso - poeni

Ac mae Elvis wedi gadael y podlediad... Mae Wynne hefyd wedi derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig ( y BEM ) yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.
Yr hanesydd Yr Athro Martin Johnes oedd gwestai Beti George nos Iau. Mae Martin yn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe ond mae e'n dod o Sussex yn wreiddiol. Roedd Beti eisiau gwybod beth oedd ei ddiddordebau ...

 

]]>
0
Yr "hanner tymor" pel-droed! Thu, 16 Jan 2020 13:41:06 +0000 /blogs/radiocymru/entries/ecbac619-6ba6-43a4-b109-bd4d658d7675 /blogs/radiocymru/entries/ecbac619-6ba6-43a4-b109-bd4d658d7675 Glyn Griffiths Glyn Griffiths

Penwythnos pwysig o fewn Uwch gynghrair Cymru sydd yn gweld y rownd olaf yn hanner cyntaf y tymor cyn i'r gynghrair hollti’n ddwy adran o chwe tim.

Mae tri thîm yn ymladd am y chweched lle yn yr haen uchaf, sef Derwyddon Cefn, Coleg Met Caerdydd a’r Drenewydd.

Mae pob un o’r gemau yn cael eu chwarae ar yr un adeg, sef hanner awr wedi pump , brynhawn Sadwrn, ond gyda’r Drenewydd adre i Airbus, sydd ar y gwaelod, mae gen i deimlad y bydd Drenewydd yn sleifio i gipio’r chweched safle a byddai gem gyfartal yn ddigon iddynt gyflawni hyn.

Ond, tra all pethau dod yn fwy clir yn Uwch gynghrair Cymru am weddill y tymor, chwysu bydd Wrecsam wrth geisio osgoi disgyn allan o Gynghrair Genedlaethol Loegr).

Dim ond dau bwynt sydd rhyngddynt a safle'r cwymp, 32 pwynt gan Wrecsam , a 30 gan Fylde a Chesterfield oddi tanynt, gydag Ebbsfleet a Chorley ar y gwaelod gyda 25 a 24 pwynt..

Wynebu Woking (sydd yn y nawfed safle) ar y Cae Ras sydd o flaen Wrecsam ddydd Sadwrn, ond tra mae holl glybiau gynghrair yn gallu arwyddo chwaraewyr newydd ar unrhyw adeg o'r tymor, dim ond yn ystod cyfnod y ffenestr drosglwyddo y gall Wrecsam arwyddo eu chwaraewyr.

Y rheswm am hyn ydi am mai tîm wedi ei gofrestru gyda Chymdeithas Bel Droed Cymru ydi Wrecsam, ond sydd yn chwarae o fewn trefn pêl droed Lloegr. Oherwydd eu bod yn gorfod cofrestru yng Nghymru, mae’n ofynnol i Wrecsam ddilyn rheolau FIFA ac UEFA ynglŷn ag arwyddo chwaraewyr. Ar y llaw arall, fe all Wrecsam arwyddo unrhyw chwaraewr o unrhyw dîm sydd yn chwarae o fewn pêl droed Cymru, ar unrhyw adeg, ond ni chaniateir arwyddo chwaraewr o dîm o fewn gwlad arall, gan fod angen caniatâd rhyngwladol i hyn ddigwydd, sydd yn gysylltiedig â'r ffenestr drosglwyddo.

Mae'n bosibl arwyddo chwaraewyr ar fenthyg, fel ac a wnaethpwyd gyda Kieran Kennedy, Omarin Patrick a Tyler Reid cyn y Nadolig, ac fe all y clwb barhau i wneud hyn ar ôl i'r ffenestr gau ar ddiwedd Ionawr.

Ond, anodd fydd arwyddo chwaraewr da a gwell na sydd yno yn barod o ystyried safle’r clwb, ac mae'n ofynnol i unrhyw un fod yn well na'r rhai sydd yna yn barod.

Felly, cyfnod cythryblus ar y Cae Ras, yn dilyn deuddeg mlynedd allan o brif gynghreiriau Lloegr, gyda dyfodol, traddodiad a hanes unigryw'r clwb, o bosib am gael ei benderfynu gan chwaraewyr sydd a dim mwy o ymroddiad na bod yno yn cael gem dros dro tra ar fenthyg!

A gyda'r syniad yn cael ei drafod, yn y cyfryngau, y byddai well iddynt ystyried ymuno ac Uwch gynghrair Cymru yn hytrach na disgyn i lawr i’r haen is, sef Adran y Gogledd o Gynghrair Cenedlaethol Lloegr, mae ail hanner y tymor yn mynd i fod yn un allweddol iawn i Wrecsam a’u cefnogwyr.

]]>
0
Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg 23ain o Ragfyr Mon, 23 Dec 2019 10:00:00 +0000 /blogs/radiocymru/entries/5dd1ce0d-4b4b-4aca-a039-f4e23db15711 /blogs/radiocymru/entries/5dd1ce0d-4b4b-4aca-a039-f4e23db15711 Geirfa Podlediad i Ddysgwyr Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

 

Aled Hughes - Pwdin Nadolig

unfed ganrif a r bymtheg - 16th century
gwahardd - to prohibit
poblogeiddio - to popularise
y bedwaredd ganrif ar bymtheg - 19th century
gwaith ymchwil manwl - detailed research
gwyddonol - scientific
pleidlais - a vote
traean - one third
y duedd - the tendency
dirywio - to recede

Mae'n debyg bod llai o bobl yn bwyta'r pwdin ar ddydd Nadolig nag oedd yn arfer gwneud. Cafodd Aled Hughes sgwrs am hyn gyda Nia Roberts o Fangor sy’n hoff iawn gyda llaw o bwdin dolig, ac yn ystod y sgwrs gaethon ni ychydig o hanes y pwdin.

Ifan Jones Evans - Y Tri Gwr Doeth

sa i'n cofio - I don't remember
brenhines - queen
Nadoligaidd - Christmasy
ych a pych - yuk
cneci - to fart (South Wales)
cwmpo - to fall
rhannu cusan - to share a kiss

Mae Ifan Jones Evans wedi arfer holi pobl ar ei raglen, ond wythnos diwetha fe oedd yn cael ei holi a hynny gan y Tri Bach Doeth sef Will, Molly a Beth, sêr rhaglen Googlesprogs. Dw i'n meddwl bod y tri wedi cael dipyn o hwyl.

Beti a’i Phobol - Trefenter

unigryw - unique
clogwyni - cliffs
ers cenedlaethau - for generations
tri lled cae - the width of three fields
dŵr y ffynnon - spring water
ar eich tyfiant - when growing up
cwynfanus - plaintive
yn ymwybodol - aware
cyfrifiannell - calculator

Gwestai Beti George yr wythnos yma oedd Catrin M S Davies, sydd yn gweithio ym myd teledu a radio. Mae hi’n dod yn wreiddiol o bentre bach o’r enw Trefenter yng Ngheredigion. Dych chi'n gwybod ble mae Trefenter? Nac ydych? Wel peidiwch â phoeni, does dim llawer o bobl yn gwybod.

Cofio - Blitz Abertawe
rhannau helaeth - extensive parts
dinistrio - to destroy
cyfnod o ail-adeiladu - a period of rebuilding
dan stâr - dan y grisiau
cwato dan ford - cuddio dan y bwrdd
mwy cadarn - more robust
y ffurfafen - the sky

Cafodd Abertawe ei bomio yn drwm iawn yn Chwefror 1941. Cafodd rhannau helaeth o'r dinas ei dinistrio yn ystod y bomio, ond ar ôl cyfnod o ail-adeiladu cafodd Abertawe ei gwneud yn ddinas, pumdeg o flynyddoedd yn ôl. Pum deg mlynedd wedyn yn 1991 darlledwyd rhaglen arbennig ‘Abertawe’n Fflam' i gofio am y bomio.

Bore Cothi - Lliwiau

taleb rhodd - gift token
ochrau Gaer - in the Chester area
rhoi gorau i - to give up
hyfforddiant - training
mynd yn feichiog - to become pregnant
wedi gwirioni ar - wedi dwlu ar
codi hwyliau - to raise the spirits
oedi - to pause
grymuso - to empower
byd o wahaniaeth - a world of difference

Mae Sonia Williams yn rhedeg cwmni Hyder Mewn Lliw – cwmni sy’n helpu pobl o bob oedran i deimlo’n fwy hyderus drwy’r lliwiau y maen nhw’n gwisgo. Sut a phryd dechreuodd Sonia'r fenter?

]]>
0
Degawd o bêl-droed Fri, 20 Dec 2019 09:55:13 +0000 /blogs/radiocymru/entries/51a71696-5957-4d84-89c5-db1511857feb /blogs/radiocymru/entries/51a71696-5957-4d84-89c5-db1511857feb Glyn Griffiths Glyn Griffiths

A ninnau ar drothwy degawd newydd, be ydi'r atgofion o'r deng mlynedd ddiwetha'?
Mae’n debyg nad oes ond un ateb yma yng Nghymru - yr Ewros yn 2016.
Mae yna gymaint wedi ei ddweud a'i nodi a'i ysgrifennu, ond i mi'r atgof fwyaf oedd bod yn Bordeaux ar yr unfed ar ddeg o Fehefin a bod ynghanol y wal goch o gefnogwyr yng nghanol y ddinas, y stadiwm a chreu awyrgylch nad oedd fawr yr un ohonom wedi ei brofi o'r blaen.
Roedd cyrraedd Bordeaux fel cyrraedd canol stryd fawr Porthmadog neu Gaernarfon, gyda’r crysau cochion ym mhob man, mwy o Gymraeg ar y stryd nag mewn eisteddfod a lliw'r gwin lleol yn cyfuno'n berffaith gyda lliw'r crysau.
Ia wir, helo Bordeaux, ac Ar y Marc yn cael ei ddarlledu yn fyw o flaen cannoedd o gefnogwyr a oedd yn ychwanegu at flas y bore.
Roedd y ddraig ar daith, enwogion pêl droed y genedl yn crwydro yng nghanol y bwrlwm gydag awyrgylch cwbl ddirdynnol, croesawgar ac o undod rhwng pob Cymro.
Roedd yna dros hanner canrif ers i mi fynd i'r ysgol fel pob rhyw fachgen bach da, drwy’r niwl a glaw, boed aeaf neu ha’. Ac yn yr ysgol mi ges lesyns histori, geography ac ambell i lesyn am ymdrechion John Charles a’i dim yng Nghwpan y Byd yn Sweden am mai Cymro bach ydw’i. Ond yna, yng nghanol haf bythgofiadwy'r Ewros, Bordeaux a gafodd y " lesyns history, geography" a’r Welsh chwarae teg, am mai Cymry 'roeddem ni!
Helo Bordeaux yn wir, a merci, merci beaucoup am y croeso - croeso a gafodd ei ail adrodd i mi ar strydoedd Paris yr wythnos ddilynol, wrth weld y Ffrancwyr yn syllu’n syfrdanol wrth glywed y Cymry bondigrybwyll yn cadw sŵn a chynnal cymanfa ar y trên danddaearol a thu allan i dy fwyta o'r enw Joe Allen yng nghanol y ddinas! Wel doedd na unlle arall i ymgynnull nac oedd!
Ond nid digwyddiad unigryw oedd hwn am fod,
Er methu a chyrraedd ffeinals Cwpan y Byd yn 2018, fe aeth y to newydd ati i sicrhau undod, a dangos parhad a dilyniant o dan arweiniad Ryan Giggs gan ein harwain i'r Ewros unwaith eto.
Ond nid taith ar draws y Sianel fydd hi, ond menter anturus ar draws y cyfandir - i Baku a Rhufain, ac rwy'n siŵr y bydd y storiâu am yr hynt a helynt o gyrraedd pellteroedd Ewrop yn frith erbyn diwedd yr haf nesaf
Yn nes adre, mae yna dipyn o newid wedi bod o fewn Uwch gynghrair Cymru
Ail drefnwyd y gynghrair yn nhymor 2010-11 i ddeuddeg tîm gan hollti ar ôl y Nadolig i'r chwech uchaf a'r chwech isaf gyda’r bwriad o wella safonau.
Anodd ydi gwerthuso pa mor llwyddiannus fu hyn, er bod yna enghreifftiau da - ond mae anghysondeb hefyd yn codi ei ben yn rhy aml.
Mae yna newidiadau enfawr wedi bod gyda chewri Bangor yn dod ar draws amser cythryblus yn ddiweddar a cholli eu lle yn yr Uwch gynghrair, gan ddangos pa mor fregus ydi ceisio gwarchod safonau dros y blynyddoedd. Yna, fe welwn dîm nad oedd unrhyw un yn tybio y byddai yn cystadlu yn yr uwch gynghrair heb son am chware yn Ewrop, Coleg Met Caerdydd yn ennill eu lle yn haeddiannol ar y cyfandir.
Pwy a feddyliodd ‘nol yn 2010 y byddai tîm o fyfyrwyr yn cynrychioli Cymru ar feysydd pel droed Ewrop?
Diflannodd y Barri cyn cychwyn y ddegawd, ond yna fe wnaethpwyd atgyfodiad o dan drefn eu cefnogwyr, ac mae'r dyddiau da yn ymddangos fel petaent yn dychwelyd i Barc Jenner. Aeth Prestatyn ar daith dros y moroedd, gan guro Liepājas Metalurgs o Latvia, cyn colli i Rijeka o Croatia. Yna, daeth yr anghysondeb, drwy weld cwymp i Gynghrair y Gogledd cyn ail drefnu, ac ymddangos fel y maent ar eu ffordd yn ôl i'r Uwch gynghrair unwaith eto.
Un cysondeb mewn canlyniadau ydi tîm Y Seintiau Newydd - sydd wedi ennill y goron yr Uwch gynghrair naw o weithiau, a Chwpan Cymru bum gwaith.
Y gêm dwi’n ei chofio orau o’r holl gemau Ewropeaidd dwi wedi eu mynychu, ydi honno pan lwyddodd Y Seintiau Newydd i drechu Bohemiaid Dulyn o bedwar gôl i ddim - gem ble roeddwn yn gohebu ar ran Radio Cymru a hefyd RTE Iwerddon ac fe allai eich sicrhau fod y canlyniad yma un un nad oedd y Gwyddelod wedi ei ddisgwyl.
Cyn cloi dylwn hefyd gyfeirio at gystadleuaeth arall, newydd sydd wedi tynnu fy sylw gan roi cyfle i mi weld gemau diddorol yn Cei Connah. Dyma gystadleuaeth Cwpan Her yr Alban a welodd Cei Connah yn cyrraedd y ffeinal y llynedd gan golli i Ross County.
Ond cwpan gwerth cystadlu ynddi - gwelais Ddinas Caeredin ar faes y Coleg ar Lannau Dyfrdwy a hefyd Coleraine o Ogledd Iwerddon, a phwy a alla difrïo’r gystadleuaeth yma pan gafodd y Cei'r cyfle i chwarae yn erbyn Queens Park yn Stadiwm Hampden yn Glasgow.
Degawd newydd, llawn gweledigaeth i rai, llwyddiant parhaus i eraill ac anghysondeb i ambell un.
Be fydd o’n blaenau yn ystod y degawd nesaf?
Does a wybod, ond bydd Baku a Rhufain yn galw cyn i ni droi!
Nadolig llawen a blwyddyn (a degawd) newydd dda i chi gyd a diolch am ddarllen y blogiau.

]]>
0
Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - 17eg o Ragfyr 2019 Tue, 17 Dec 2019 15:09:10 +0000 /blogs/radiocymru/entries/d831cc71-3585-4993-8c4c-660a3badc22f /blogs/radiocymru/entries/d831cc71-3585-4993-8c4c-660a3badc22f Geirfa Podlediad i Ddysgwyr Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Y Sioe Frecwast - Daniel Lloyd

coban - nightie
difyr - interesting
yn gyfrifol am - responsible for
wedi cyffroi'n lân - really excited
Llanelwy - St Asaph
tynnu ar ôl - to take after
cymeriad - character
datgelu - to reveal
eisoes - already
wrth fy modd - delighted

Ar y Sioe Frecwast bore dydd Sul, roedd Lisa yn y gwely gyda’r canwr a’r actor Daniel Lloyd. Roedd Daniel yn arfer canu gyda'r band Daniel Lloyd a Mr Pinc ond nawr mae e'n actio yn Rownd a Rownd. Nid yn y gwely oedd Daniel wrth gwrs ond yn ei gar ar y ffordd i gêm bêl-droed bwysig iawn.

Rhaglen Rhys Mwyn - Debbie Harry

hunangofiant - autobiography
hynod ddifyr - extremely interesting
pryd daeth hi i'r amlwg - when she came to the fore
unigolyn - individual
trawiadol - striking
delwedd - image
rhywiol - sexy
mae hi'n cyfadde - she admits
siopau elusen - charity shops
dychymyg - imagination

Daniel Lloyd yn y car, ac nid yn y gwely, ar y Sioe Frecwast yn sôn ychydig am Rownd a Rownd - Buodd Rhys Mwyn yn trafod "Face It", sef hunangofiant Debbie Harry, o'r grwp Blondie ar ei raglen nos Lun. Beth oedd mor arbennig amdani hi? Dyma farn Sioned Mair.

Rhaglen Geraint Lloyd - Nepal

mynyddig - mountainous
rhoi'r byd yn ei le - putting the world to right
peirianneg cemegol - chemical engineering
graddio - to graduate
i ryw raddau - to some extent
y DU - the UK
daeargryn - earthquake
egni gwyrdd - green energy
cynyddu - increasing
hyfforddiant - to train

Ychydig o hanes Debbie Harry yn fan'na ar raglen Rhys Mwyn.

Cafodd Geraint Lloyd sgwrs ddifyr iawn nos Lun diwethaf gyda Katie Lloyd o Bontrug ger Caernarfon. Mae hi'n mynd i dreulio amser yn Nepal i i weithio ar brosiect i osod paneli solar mewn pentrefi mynyddig. Dyma i chi flas ar y sgwrs rhwng Geraint a Katie.

Aled Hughes - Acenion

acenion - accents
casglu - to collect
sbïa yn y drych - look in the mirror
yr un mor Gymreig â - as Welsh as
brethyn amryliw - multicoloured cloth
trysorfa - treasure house
anian - the nature of
adlewyrchu - to reflect
amrywiaeth - variety

A phob lwc i Katie yn Nepal on'd ife? Mae yna sawl acen Cymreig yng Nghymru on'd oes, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae hyn yn gwbl naturiol wrth gwrs, ond faint mae pobl y tu allan i Gymru, a phobl Cymru ei hunan, yn gwybod am yr acenion arbennig yma? Caryl Parry Jones fuodd yn trafod hyn gydag Aled Hughes.

Dros Ginio - Sian Thomas

ei dawn ddynwared - her gift of imitating
mor gynaladwy - as sustainable
di-blastig - plastic free
lapio - to wrap
pren - wood
anfantais - disadvantage
cymant ag y galla i - as much as I can
gwydr - glass
deniadol - attractive
ail-gylchu - to recycle

Caryl Parry Jones yn fan'na'n sôn am acenion Cymru ac yn dangos ei dawn ddynwared, Defnyddio llai o blastig oedd un o'r pethau oedd yn cael eu trafod ar raglen Dros Ginio ddydd Iau, ac mi gafodd Jen Jones sgwrs am hyn gyda Sian Thomas sy'n rhedeg cwmni Lime Grove Grazin, cwmni sy'n trio'n galed i beidio â defnyddio plastig o gwbl.

]]>
0
Cystadlaethau Pel-droed Ewrop Fri, 13 Dec 2019 09:19:47 +0000 /blogs/radiocymru/entries/f82b5a33-d8c4-4c2c-aeab-e733ba49688a /blogs/radiocymru/entries/f82b5a33-d8c4-4c2c-aeab-e733ba49688a Glyn Griffiths Glyn Griffiths

Yn sgil canlyniadau’r etholiad cyffredinol, hwyrach fod Brexit ar y gorwel, ond ar y meysydd pêl droed, d’oes ‘na fawr o olwg fod y cysyniad yma wedi gafael.

Yr wythnos yma, llwyddodd Chelsea, Manchester City, Tottenham a Lerpwl i gyrraedd rowndiau’r un ar bymtheg olaf yng nghystadleuaeth Pencampwyr Ewrop, tra bod Wolves, Manchester United, ac Arsenal wedi llwyddo i gyrraedd rownd y tri deg dau olaf yng Nghynghrair Ewropa.

Yn ogystal, llwyddodd Celtic a Rangers o'r Alban i gamu 'mlaen yng Nghynghrair Ewropa hefyd.

Datblygiad addawol felly os ydych yn Albanwyr, o ystyried y ddau dîm o Glasgow ymysg detholion gorau Ewrop (wel o leiaf ymysg y 32 olaf yn y gynghrair), o ystyried na allai Kilmarnock guro Cei Connah ar ddechrau'r tymor!.

Ond Brexit neu ddim, hwyrach y cawn weld cystadleuaeth Brydeinig yng Nghwpan Ewropa yn y rownd nesaf, gan fod trefn y gystadleuaeth yn ei wneud yn eithaf posibl y gall Celtic wynebu Wolves tra y gall Rangers wynebu Arsenal neu Manchester United.

Mi fyddai ‘na dipyn o edrych ymlaen at gemau fel yma petai’r enwau yn dod allan o'r het i’n harwain at hyn!

Chawn i ddim gem debyg yng Nghynghrair y Pencampwyr gan na all timau o’r un wlad wynebu ei gilydd yn y rownd nesaf, na chwaith chwarae yn erbyn tîm maent eisoes wedi ei wynebu, a gan nad oes yna unrhyw dim o'r Alban ar ôl, (nac o Gymru na Gogledd Iwerddon chwaith) ni fydd yna fath gynnwrf Brexitaidd yn bodoli yma.

Be felly yng Nghynghrair y Pencampwyr?

Fe all Lerpwl neu Manchester City chwarae yn erbyn Real neu Atletico Madrid ymysg eraill gyda Chelsea a Tottenham yn wynebu'r posibilrwydd o chwarae yn erbyn Barcelona, Juventus, Paris Saint Germain, Valencia neu Leipzig.

Brexit neu ddim, mae yna ddigon gynnwrf o'n blaenau ar feysydd pêl droed Ewrop ar ôl y Nadolig.

]]>
0