Main content

Paratoi ar gyfer Ewrop

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Llai nac wythnos ers i’r tymor pêl droed orffen yn uwch gynghrair Cymru ac mae’n amser meddwl a pharatoi ar gyfrer y tymor nesaf yn barod.

Gyda’r Seintiau Newydd, Airbus Brychdyn, y Bala a’r Drenewydd gyda gemau Ewropeaidd i'w cynnal yn ystod yr haf, mae’r paratoi eisoes wedi dechrau.

Anodd yn y gorffennol fu i dimau drefnu ymarferion ac yn benodol i drefnu gemau cyfeillgar er mwyn darparu i gystadlu’n deg a’r chwaraewyr wedi cael blas o chwarae gemau a fyddai yn eu paratoi yn briodol.

Ond yn barod, mae gemau wedi eu trefnu gydag Airbus yn teithio i Ogledd Iwerddon ar y seithfed ar hugain o Fehefin i wynebu Crusaders o Felfast, sydd eu hunain yn paratoi ar gyfer cystadlu yng ngemau rhagbrofol cynghrair Ewrop. Cyn hynny , mae gem gartref wedi ei threfnu yn erbyn tîm Ynys Môn ar y chweched o Fehefin sydd hefyd yn prysur baratoi ar gyfer cystadlu yng ngemau’r ynysoedd a fydd yn cael eu cynnal at ynys Jersey.

Yn dilyn y gêm yn erbyn Ynys Môn , bydd Airbus yn mynd i Groesoswallt ar yr unfed ar hugain o Fehefin i chware yn erbyn y Seintiau Newydd.

Mae’r Bala wedi trefnu taith i Landudno (sydd wedi ennill dyrchafiad i'r uwch gynghrair) ar ddydd Sadwrn yr ugeinfed o Fehefin, cyn cystadlu yn erbyn tîm Academi Pêl Droed Rhyngwladol Manceinion y nos Fercher ddilynol. Bydd y Drenewydd hefyd yn gwneud paratoadau tebyg gyda gem yn erbyn y Bala at ddydd Sadwrn, y seithfed ar hugain o Fehefin.

Mae’n debyg y cawn ni glywed am fwy o gemau cyfeillgar tebyg cyn hir i'r timau yma a da gweld eu bod yn gallu trefnu gemau yn erbyn ei gilydd yn ogystal ag yn erbyn timau eraill o safon uchel.

Bydd y pedwar tîm o Gymru yn gwybod pwy y byddant yn eu wynebu yn Ewrop ar yr ar hugain o Fehefin, gyda gemau cynhwyso i'r Seintiau Newydd yn cael eu cynnal ar y degfed ar hugain o Fehefin neu Orffennaf y cyntaf, a’r ail gymal yr wythnos ddilynol. Bydd y gemau cymhwyso i’r Bala, y Drenewydd ac Airbus yn cael eu chwarae ar yr ail o Orffennaf gyda’r ail gymal yr wythnos ddilynol, ar y nawfed.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf