Main content

Ymgais Uchelgeisiol i Osod Record Byd Newydd

Newyddion

Mae manylion am ddarllediad uchelgeisiol fydd yn cysylltu Cymru a Phatagonia wedi cael eu cyhoeddi heddiw (Mai 18). Bydd y cysylltiad byw ar Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru ar Ddiwrnod Cerddoriaeth y Βι¶ΉΤΌΕΔ, Mehefin 5, yn anelu i bontio dros 7000 o filltiroedd, sef y pellter mwyaf rhwng pobl yn canu deuawd, wedi’i ardystio gan Guinness World Records.

Y gantores Shân Cothi, sy’n cyflwyno rhaglen foreuol o ddydd Llun i ddydd Gwener ar Radio Cymru, fydd yn ymuno ag Andres Evans yn yr Ariannin ar gyfer perfformiad arbennig o’r emyn draddodiadol Gymreig, Calon Lân. Cafodd manylion yr ymgais i osod record y byd eu cyhoeddi ar raglen y bore yma ar Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru wrth iddi sgwrsio â Tim Rhys-Evans, llysgennad Cymru ar gyfer Diwrnod Cerddoriaeth y Βι¶ΉΤΌΕΔ.

Yn ymuno gyda Shân yn Neuadd Hoddinott y Βι¶ΉΤΌΕΔ, Caerdydd ar Fehefin 5ed fydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y Βι¶ΉΤΌΕΔ a chôr unedig fydd yn cynnwys aelodau o wahanol gorau sef Corws Cenedlaethol Cymreig y Βι¶ΉΤΌΕΔ, Côr CF1, côr staff Radio Cymru a Chorws Only Kids Aloud Canolfan Mileniwm Cymru 2015/16. Yn ymuno gydag Andres Evans ym Mhatagonia fydd aelodau o Gôr Ysgol Gerdd y Gaiman.


Mae hwn yn un o’r prosiectau eleni i nodi 150 mlynedd ers sefydlu cymuned Gymraeg, Y Wladfa, ym Mhatagonia ym 1865, pan hwyliodd 153 o bobl o wahanol rannau o Gymru ar y Mimosa i setlo yn Nhalaith Chubut yn ne’r Ariannin. Yn yr hydref bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y Βι¶ΉΤΌΕΔ yn mynd ar un o’i deithiau mwyaf anturus erioed fel rhan o’r dathliadau 150 mlynedd, gan ymweld â’r Ariannin, Chile ac Wrwgwái.

Bydd y darllediad unigryw ar Radio Cymru, fydd yn rhan o sioe brynhawn Gwener Tudur Owen, hefyd yn cael ei ddarlledu yn fyw ar Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Wales a Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio 3, ac mae’n un o’r prosiectau mwyaf uchelgeisiol a gynhaliwyd erioed gan Radio Cymru o ran technoleg a threfniadau. Mae’r ymdrech yn nodi Diwrnod Cerddoriaeth cyntaf erioed y Βι¶ΉΤΌΕΔ, sef dathliad cenedlaethol o gerddoriaeth, gyda’r nod o ddod â phobl at ei gilydd ar draws cenedlaethau a chymunedau drwy eu cariad at gerddoriaeth. Ceir rhagor o fanylion ar

Meddai Shân Cothi: “Mae'n wych bod cerddoriaeth yn uno Cymru a’r Wladfa, ac yn hyfryd bod cân fel Calon Lân yn uno dwy wlad sydd â chysylltiad mor agos o ran hanes a thraddodiad. O’r hyn yr wyf yn ei ddeall, mae’n mynd i fod yn dipyn mwy o her nag y byddech yn ei feddwl oherwydd yr oedi sy’n ynghlwm â chael y sain at ei gilydd o bendraw’r byd, ond rwy’n croesi fy mysedd y bydd popeth yn iawn ar y diwrnod! Mae'n gyffrous iawn, a bydd yn berfformiad a hanner, rwy’n siΕµr. Gobeithio y byddwn ni’n codi’r to - yma yng Nghymru ac ar ochr arall y byd hefyd!”

Mae Andres Evans yn 33 ac wedi bod yn canu mewn eisteddfodau ym Mhatagonia am 28 mlynedd. Mae’n cynnal bwyty yn Gaiman o’r enw “Gwalia Lân”, lle mae ei wraig Marina yn coginio.

Meddai Andres: “Alla i ddim credu’r peth, i fod yn onest - mae’n brosiect gwych i fod yn rhan ohono. Gobeithio y bydd y cyfan yn mynd yn iawn, ond rwy’n hapus iawn i chwarae fy rhan, yn enwedig o gofio ein bod eleni yn dathlu 150 mlynedd Y Wladfa. Rwy’n dwli ar ganu Cymraeg ac mae hyn yn freuddwyd i mi.”

Dywedodd Betsan Powys, Golygydd Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru: “Mae cerddoriaeth yn rhan ganolog o Radio Cymru ac roedden ni’n awyddus i wneud datganiad beiddgar, uchelgeisiol fel rhan o Ddiwrnod Cerddoriaeth y Βι¶ΉΤΌΕΔ. Wel, beth allai fod yn fwy beiddgar na dod â dau ganwr at ei gilydd - gan bontio dros 7000 milltir - a cherddorfa a phum côr, a darlledu’r cyfan yn fyw ar dair gorsaf radio? Bydd nifer o bobl yn siwr o fod yn eitha nerfus wrth i’r diwrnod agosau, ond mae pawb yn gweithio’n galed i wneud yn siΕµr bod popeth yn mynd yn iawn a, gydag ychydig o lwc, fe fyddwn ni wedi hawlio ein lle yn y llyfrau hanes erbyn diwedd y dydd.”

Y ddeuawd fydd uchafbwynt Diwrnod Cerddoriaeth y Βι¶ΉΤΌΕΔ ar Radio Cymru. Yn gynharach, bydd Shân Cothi hefyd yn cyflwyno rhifyn arbennig o’i rhaglen rhwng 10am a hanner dydd, yn fyw o flaen cynulleidfa ar Lwyfan Glanfa Canolfan Mileniwm Cymru. Yn ymuno â Shân ar y rhaglen fydd Hogia'r Wilber - Pedwarawd Gwerin o Batagonia sy'n teithio Cymru ar hyn o bryd, a’r gitarydd clasurol Rhisiart Arwel, sy'n perfformio cerddoriaeth o Gymru, Sbaen a’r Ariannin, ac a fydd yn teithio i’r Wladfa yn ddiweddarach eleni.

Yn ogystal â'r ddeuawd, bydd sioe Tudur Owen rhwng 2pm a 5pm hefyd yn cynnwys perfformiadau ychwanegol o ddarnau poblogaidd gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y Βι¶ΉΤΌΕΔ.

Mae rhaglenni Radio Cymru ar y diwrnod yn rhan o nifer o ddigwyddiadau Diwrnod Cerddoriaeth y Βι¶ΉΤΌΕΔ ar draws y DU - mae mwy o fanylion ar

ShΓΆn Cothi ac Andres Evans

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf