Main content

Alex yn Galw - Lisa Palfrey

Alex Jones

Presenter

Pawb yn iawn ma?

Dwi newydd dderbyn newyddion gwych bore ma. Dwi'n Fodryb unwaith eto, ond i ferch fach tro ma! Ciwwwt!

Mae hi wedi bod yn wythnos lawn ond gwych unwaith 'to wythnos ma!

Dawn French oedd gwestai'r 'One Show' nos Lun a doeddwn i  ddim yn deall fod Dawn wedi cael ei magu ar Ynys Môn gan fod ei thad yn y RAF yn y Fali. Fi bob amser yn rhyfeddu faint o bobl sydd â rhyw gysylltiad â Chymru!

Nos Fawrth y cogydd Rick Stein oedd gyda ni. Nawr, dwi ddim y gore yn y gegin, a gweud y gwir fi’n hollol ‘hopeless’. Ond fi yn joio bwyta pryd da o fwyd ac yn ffodus i mi, fe oedd Charlie fy nghariad yn arfer bod yn Chef.  Dwi'n gwybod shwt i ddewis nhw!

Alex Jones a Lisa Palfrey

Yna bore Mercher recordio rhaglen wythnos ma o gyda’r actores . Wel am werthin! Gallen i fod wedi aros yna drwy'r dydd ond  oedd rhaid i fi siapo hi nol i ganol Lundain i gyfweld a rhyw foi o'r enw Tywysog Harry!

Na chi fychan a llygaid drygionus! Ond ware teg iddo ma fe wedi bod yn weithgar iawn gydag aelodau o'r Lluoedd Arfog sydd wedi eu niweidio wrth wasanaethu. Fe sydd tu nol i'r Gemau Invictus a oedd yn dechrau dydd Mercher.

Neithiwr roedd yr actores Sheridan Smith ar y soffa i son am ei rôl yn y ddrama deledu ‘C¾±±ô±ô²¹' sydd ar fin cael ei dangos ar ITV. Rhaid i mi gyfadde’ mod i’n arfer bod yn dipyn o ffan o ‘Blind Date' ac mi oedd Mamgu yn joio 'Surprise Surprise'.

Ar ôl y rhaglen es i a ffrind i weld sioe un ddynes Denise Van Outen o’r enw 'Some Girl I Used to Know' yn yr Arts Theatre. Sioe yw hi am gymeriad o’r enw Stephanie Camworth sydd yn cael gyrfa lwyddiannus yn y cyfryngau. Ond drwy facebook mae’n cael ei atgoffa o’i gorffennol a nôl a ni ar daith fyrlymus i’r wythdegau a’r nawdegau. Wnaethon ni joio a da oedd clywed hen ganeuon o gyfnod ysgol a Choleg. 

Ond mae wythnos ma yn un rhyfedd i fi fyd. Mae ‘Tumble' yn dod i ben Nos Sadwrn ac mae '' yn dod i ben hefyd. Beth fi’n mynd i wneud a’n hunan? Fi rili wedi joio yr wythnosau diwethaf a diolch yn fawr i bawb sydd wedi fy nghroesawu i’w tai i fusnesa ac i glebran. Diolch i chi hefyd.

Cofiwch wrando ar  helyntion Lisa Palfrey a'r hanes am ei ffilm diweddaraf 'Pride', gaetho ni lot o hwyl.

Chi gyd di bod yn lyfli!

Ta-ra

Alex

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Tra Bo Dau - Aloma a John Pierce Jones

Nesaf