Main content

Canfyddiadau Holiadur Uwch Gynghrair Cymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yn ddiweddar, ymgymerodd Uwch gynghrair Cymru ac ymchwil i gasglu barn a llais y cefnogwyr am y drefn o gynnal y gynghrair a’r dull mae’r clybiau yn cael eu rhedeg. Yr wythnos diwethaf, datgelwyd canlyniadau ymchwil yma yn sgil ymateb 818 o gyfranwyr.

Casglwyd gwybodaeth am broffil ddilynwyr Uwch Gynghrair Cymru, y ffordd y maent yn dilyn pêl-droed, ffactorau sy'n penderfynu sut mae cefnogwyr yn mynychu gemau, yn gwario arian mewn gemau, ymwybyddiaeth o noddwyr, ac mae eu hagweddau a'u safbwyntiau ar faterion penodol.

Ymddengys fod 48% o ymatebwyr wedi cefnogi eu clwb am un mlynedd ar ddeg neu fwy, a bod 71% o gefnogwyr yn dilyn eu clwb am ei fod yn lleol gyda 42% ohonynt yn byw o fewn pedair milltir o’r clwb. Ymddengys fod cefnogwyr yn amlwg gyda diddordeb agos ar sut mae eu clwb yn cael ei reoli oddi ar y cae, ac mae'n galonogol gweld eu bod, ar y cyfan, yn teimlo bod ganddynt lais o fewn y clwb, a bod y clybiau yn cael eu rhedeg yn dda.

Rhoddodd Llyr Roberts, Rheolwr Ymchwil a Gwerthuso Cymdeithas Bel Droed Cymru, flas o’r adborth a dderbyniwyd drwy ddweud fod cefnogwyr, ar y cyfan, yn teimlo bod safon pêl droed yn yr Uwch Gynghrair wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf gyda'r mwyafrif yn datgan bod y Gynghrair yn rhoi adloniant da a phêl droed cystadleuol. Credir fod yr adborth hefyd yn pwysleisio rhai o'r heriau sy'n gysylltiedig â'r Gynghrair, gan gynnwys yr angen i gynyddu lefelau presenoldeb a gwella’r sylw a roddir yn y wasg.

Ychwanegodd ei bod yn bwysig fod cefnogwyr yn cael cyfle i leisio eu barn a bod yr Uwch gynghrair yn parhau i weithio'n galed i ddatblygu'r clybiau a'r Gynghrair ymhellach. Yn ogystal, mae’n credu fod Uwch gynghrair Cymru yn mynd drwy gyfnod cyffrous gyda datblygiad cyfleusterau caeau 3G. Gwelir y cyfnod yma yn un sydd angen datblygu’r gynghrair ymhellach, a bod y cynlluniau presennol yn arwain at lwyddiant yn yr hir dymor.

Nid yw'n syndod medd Llyr Roberts, bod cefnogwyr yn awyddus i weld gwelliannau pellach. “Byddai rhai yn hoffi gweld cynnydd yn y nifer o dimau yn y Gynghrair tra byddai eraill yn hoffi gweld newid yn fformat y Gynghrair a chynrychiolaeth well gan glybiau o Dde Cymru. Yn ddiddorol, mae cefnogwyr yn ymddangos yn fwy petrus ar faterion penodol eraill ac mae’r ansicrwydd ynglŷn â chynnal mwy o gemau yn ystod misoedd yr haf yn enghraifft berffaith o hyn ".

Teimla Gwyn Derfel, Ysgrifennydd Uwch Gynghrair Cymru, y bydd yr adborth yn rhoi ffocws da ar sut i symud ymlaen:

"Mae'n bwysig bod ein cefnogwyr yn cael cyfle i leisio eu barn a’n bod yn parhau i weithio'n galed i ddatblygu'r clybiau a'r Gynghrair ymhellach. ‘Rydym yn mynd drwy gyfnod cyffrous gyda datblygiad y cyfleusterau 3G, ac mae'n bwysig ein bod yn parhau i ddatblygu'r Gynghrair ac yn gwneud y prosiect yma yn un llwyddiannus yn yr hir dymor hir "

Yn sgil hyn diddorol oedd nodi maint presenoldeb cefnogwyr yng ngemau'r Uwch gynghrair dros y penwythnos diwethaf. Roedd y dorf orau yn y Rhyl, gyda chwe chant a saith o gefnogwyr yn gweld y Rhyl yn trechu Bangor o dair gôl i ddwy. Dangosodd Aberystwyth werth cynnal gemau nos Wener gyda thorf o dri chant saith deg dau. Chafwyd tri chan pedwar deg un ar Y Graig yng Nghefn Mawr, hefyd ar nos Wener, yn gweld y Bala yn trechu’r Derwyddon.

Ar y Sadwrn, llai oedd y nifer, gyda thri chant a thri yn Neuadd y Parc yn gweld y Seintiau Newydd yn trechu Port Talbot, dau gan bedwar deg wyth yn gweld Prestatyn yn colli adre i Airbus a dau gan bedwar deg pump yng Nghaerfyrddin ble cafwyd gem gyfartal a’r Drenewydd. Er waethaf cefnogaeth frwdfrydig y rhai a ymatebodd i’r ymchwil, ymddengys fod llawer o waith eto i wneud i ddenu gwylwyr newydd i'r gemau ac i gael hwythau hefyd i ddangos diddordeb yn ymdrechion y clybiau a’u cefnogwyr o fewn eu cymunedau.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cartrefi Cymru: Talgarth

Nesaf

Cartrefi Cymru: Trefeca