Main content

Tra Bo Dau - Aloma a John Pierce Jones

Nia Roberts - Cyflwynydd

Dwi’n lecio Pontydd, wedi gwneud erioed. Dydi hynny ddim yn syndod nagydi, fel un gafodd ei magu ar ynys. Mi ddois i i sylweddoli’n reit ifanc pa mor bwysig ydi pont! Mae’n rhaid i chi gael un os ‘da chi eisiau cyrraedd a mae nhw’n angenrheidiol hefyd os ‘ da chi’n chwilio am ddihangfa!

Dwi’n rhyfeddu at waith y Penseiri a’r Peirianwyr a thros y blynyddoedd dwi ‘di gweld a chroesi nifer o bontydd mawr a bach y byd…. Y Golden Gate a Phont Brooklyn, Y Ponte Vecchio a’r Rialto, Pont Harbwr Sydney hefyd a dwi’n hoff o Bont y Pair ym Metws y Coed, ond dim ond un bont sy’n gallu gwneud rhywbeth i ‘nghalon i a Phont y Borth ydi honno. Mae ei gweld hi’n ddigon a dwi’n gwybod ‘mod i’n saff.

Felly mi roeddwn i wrth fy modd yr wythnos yma yn cael eistedd ar lan Y Fenai, yn yr awyr agored, ar bnawn bendigedig o Fedi yng nghwmni dau sydd wedi croesi’r bont honno gannoedd o weithiau dros y blynyddoedd.

Aloma, John Pierce Jones a Nia Roberts

Y tu allan i Ganolfan Treftadaeth newydd Porthaethwy, yr hen iard goed gynt, yr eisteddais i efo dau arall o blant y fam ynys a rhyfeddu at gampwaith Thomas Telford.

Lleoliad godidog – tic. Tywydd braf – tic. Cwmni difyr – Tic Tic.

Aloma a John Pierce Jones oedd y cwmni a buan yr anghofion ni’n tri ein bod ni’n recordio. Dyna beth oedd sgwrs braf.Ìý

Dau gymeriad cynnes a ffraeth, dau â dawn deud i’w ryfeddu, dau sy’n gwneud i chi deimlo’n well dim ond i chi wrando arnyn nhw’n mynd trwy’u petha.

Ydan, da ni’n gwybod am yr actor a’r gantores a’u gyrfaoedd, da ni’n sylweddoli fod Môn yn gyswllt rhwng y ddau, ond mae ‘na fwy, dipyn mwy, yn clymu ‘r ddau yma fel y cewch chi glywed arÌý yr wythnos hon.

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Addasrwydd Caeau 3G

Nesaf

Alex yn Galw - Lisa Palfrey