Main content

Geirfa Pigion Radio Cymru i Ddysgwyr - Mai 11, 2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr


Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Dylan Jones - Y WAG o Fon

pel-droediwr enwog - famous footballer
bwriadu - intending
sylw - attention
pwysau - pressure
prinder arian - lack of money
hogyn - bachgen

...rhaglen newydd ar S4C o'r enw' Y WAG o Fon'. Roedd y rhaglen gynta nos Fercher diwetha a'r WAG yn y teitl ydy Jude Cissé, sy'n dod o Rostrehwfa ar Ynys Môn yn wreiddiol. Hi oedd gwraig y pêl-droediwr Djibril Cissé oedd yn arfer chwarae i glwb pêl-droed Lerpwl. Er i'r briodas ddod i ben yn ystod ffilmio'r rhaglen, mi roedd Jude yn barod i ddod ar raglen Dylan Jones fore Mercher i sôn am ei bywyd fel WAG. Dyma hi'n sôn am sut wnaeth hi gyfarfod Djibril am y tro cynta...

Bore Cothi - Captain Ahab

y brif ran - the main part
ar ddyletswydd - on duty
gwr bonheddig - gentleman
cwch rhwyfo - rowing boat
yr olygfa - the scene
llofnod - autograph
syfrdanol - stunning
craith - scar
golygus - handsome
cyfarwyddwr - director

Jude Cissé yn fan'na yn siarad ar raglen Dylan Jones am ei bywyd fel WAG. Dach chi'n cofio'r ffilm 'Moby Dick'? Oeddech chi'n gwybod am y cysylltiad Cymreig â'r ffilm? Ac ydych chi'n gwybod enw'r actor oedd yn chwarae rhan Captain Ahab? Dyma Shan Cothi, Geraint Jones a Jenny Ogwen yn rhoi'r atebion i'r cwestiynau i gyd...

 

Suddo'r Lusitania - Hedd Ladd Lewis

cwta flwyddyn - no more than a year
ar ei bwrdd - on board
yn eiddo i - owned by
mwyaf moethus - most luxurious
tafliad carreg - a stone's throw
llongau tanfor - submarines
ergyd - a shot
penodau - chapters
mwya erchyll - most awful
penawdau - headlines

"Y gerddoriaeth o 'Moby Dick ' oedd ar diwedd y clip yna wrth gwrs, a diddorol ynde oedd clywed gan bobl oedd wedi cwrdd â'r seren Gregory Peck yn ystod y ffilmio? Dan ni'n mynd i aros efo thema'r môr rwan ond efo stori wir a thrist iawn sef suddo'r Lusitania gan mlynedd union yn ôl. Mewn rhaglen arbennig mi fuodd Hedd Ladd Lewis yn cofio'r digwyddiad. Dyma i chi flas ar y rhaglen... "

 

Dylan Jones - Llangollen

Cyfarwyddwr Cerdd - Musical Director
daeargryn - earthquake
mae'n argoeli'n dda - It augurs well
cyngherddau - concert
cystadleuwyr - competitors
cynrychiolaeth - delegation
rhyfeddol - wondrous
tor-calonnus - heartbreaking
llety - accommodation
gwirfoddolwyr - volunteers

ac os dach chi eisiau gwybod mwy am hanes y Lusitania a chysylltiad teuluol Hedd Ladd Lewis â'r digwyddiad, mae cyfle i wrando ar y rhaglen . Ac i orffen y podlediad yr wythnos hon Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Eilir Owen Gruffydd yn edrych ymlaen at yr Eisteddfod ym mis Gorffennaf. Ond mae'n debyg bydd y daeargryn yn Nepal yn effeithio ar rai oedd yn gobeithio cymryd rhan yn yr Eisteddfod. Dyma Eilir yn sgwrsio efo Dylan Jones am y sefyllfa...

 

Mwy o negeseuon