Main content

Geirfa Podlediad Pigion Radio Cymru i Ddysgwyr - 05 Mai 2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.



Rhaglen Dylan Jones - Bugail

bugail - shepherd
o'r gwawr tan yr hwyrnos - from dawn to dusk
cynlluniau amaeth amgylcheddol - environmental agriculture plans
cadwriaethol - conservationist
pori - to graze
wrach (hwyrach) - efallai
cynefin - habitat
mwy o rug - more heather
niweidiol - harmful
lles - benefit

...sgwrs gafodd Dylan Jones ddydd Iau diwetha efo Arwyn Owen, rheolwr Ffarm Hafod y Llan. Mae rhan o ffarm Arwyn ar yr Wyddfa, mynydd ucha Cymru, ac mae o wedi hysbysebu swydd bugail i'w helpu ar y ffarm. Mae yna un bugail yn gweithio yno'n barod. 'Pam bod angen un arall' gofynnodd Dylan iddo fo - dyma ateb Arwyn...

Lisa Gwilym - Mei Gwilym

cambihafio - misbehaving
penderfynol - determned
ail-wneud - to re-do
traddodiadol - traditional
hyfforddi - training
gweledol - visual
lleoliadau - locations
naws - mood

Ro'n i wrth fy modd efo'r syniad bod yna ddefaid yn cambihafio dros y penwythnos, pan nad oes yna fugail yn edrych ar eu holau nhw. Mae Mei Gwilym wrth ei fodd efo'r gân 'O Gymru' ond cafodd o sioc o ffeindio mai cân o'r chwedegau ydy hi. Mae o'n benderfynol o'i moderneiddio hi ac mae o wedi dod â rapwyr, côr meibion a dawnswyr at ei gilydd i ail-wneud y gân. Ond fydd hi gystal â'r un wreiddiol? Ar ddiwedd y clip cewch chi gyfle i glywed un o fersiynau gwreiddiol o'r chwedegau. Oes posib ei gwella tybed?

Rhaglen Dylan Jones - Pleidleisio

etholiad - election
ymgyrch etholiadol - election campaign
pleidleisio - voting
Cyfford Llandudno - Llandudno Junction
gwleidyddiaeth - politics
etholiad ffug - mock e;ection
tanio diddordeb - to fire the imagination
cyd-ddisgyblion - fellow pupils
dychymyg - imagination

Wel, be dach chi'n feddwl? Mi fydd hi'n anodd curo hynna yn bydd? Ond pob lwc i Mei Gwynedd, rhaid dweud mod i'n edrych ymlaen at glywed y fersiwn newydd. Dw i'n siwr eich bod chi wedi sylwi bod yna etholiad yn digwydd yn y dyddiau nesaf! Mae yna ddipyn o sôn wedi bod yn yr ymgyrch etholiadol am roi yr hawl i bleidleisio i bobl ifanc undeg chwech oed. Dyma Aled Hughes yn siarad efo plant llawer llai nag un ar bymtheg oed, sef rhai o blant Ysgol Maelgwn, Cyffordd Llandudno. Oes ganddyn nhw ddiddordeb yn yr etholiad tybed?

Cyfrwng Cerdd - Cerddoriaeth ar y we

yn gynt nag erioed - sooner than before
(r)wan - nawr
cyfrwng - media
danfon - to send
cyflwynydd - presenter
amau - to suspect
dosbarthu - to distribute
ystrydeb - cliché
gorsaf radio - radio station
anghredadwy - unbelievable

Gwleidyddion y dyfodol yn fan'na yn siarad ar Raglen Dylan Jones. Dan ni'n gorffen y podlediad yr wythnos yma efo sgwrs rhwng Dyl Mei a Richard Rees am sut y mae y we wedi newid y broses o recordio cerddoriaeth. Dyma i chi flas ar y sgwrs...

Mwy o negeseuon