Main content

Aberystwyth v Y Drenewydd - pwy fydd yn cyrraedd Ewrop ?

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Gyda’r Seintiau Newydd , y Bala ac Airbus UK Brychdyn eisoes wedi cymhwyso ar gyfer Ewrop y tymor nesaf mae un gêm yn weddill o dan drefn yr Uwch gynghrair a fydd yn penderfynu os mai Aberystwyth neu’r Drenewydd fydd yn hawlio’r bedwaredd lle dros Gymru ar y cyfandir.

Gem derfynol y gemau ail gyfle fydd hwn sydd yn cynnig lle yng Nghynghrair Ewropa'r tymor nesaf.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal ar Goedlan y Parc yn Aberystwyth gan fod Aber wedi gorffen yn uwch na’r Drenewydd yn y gynghrair ar ddiwedd y tymor (cyn cychwyn y gemau ail gyfle). Bydd y gêm yn fyw ar Sgorio ar S4C gyda’r gic gyntaf am 1 o'r gloch brynhawn Sul.

Yn y cyfamser, ac yn dilyn trafodaethau gydag Uwch Gynghrair Cymru, bydd gêm fyw Sgorio o gychwyn y tymor nesaf yn cael ei gynnal am 5.15 ar brynhawn Sadwrn.

Bydd y rhaglen bêl-droed, sy'n cynnwys gemau byw o Uwch Gynghrair Cymru, Cwpan Cymru a'r Cwpan Word, yn darlledu ar nosweithiau Sadwrn o 22 Awst yn nhymor 2015/16.

Bydd Sgorio yn dechrau am 4.45 y prynhawn, gyda newyddion chwaraeon y dydd a gwasanaeth canlyniadau a rhagolwg o’r gêm.

Bydd rhaglen uchafbwyntiau Sgorio sy'n cynnwys cynghrair La Liga Sbaen yn ogystal â gemau Uwch Gynghrair Cymru a chwpanau Cymru, yn parhau am 6.30 nosweithiau Llun.

Mewn cyhoeddiad ar wefan Uwch Gynghrair Cymru, dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Jonathan Ford fod Cymdeithas Pêl-droed Cymru yn croesawu'r datblygiad diweddaraf hwn ac yn credu y bydd yn hybu proffil y Cynghrair Cenedlaethol ymhellach.

Rhaid cofio hefyd fod rhaglen Camp lawn ar Radio Cymru yn cynnwys y diweddaraf o gemau yn yr Uwch Gynghrair hefyd a gyda sylw gan nifer o'r cyfryngau ar draws Cymru i'r byd pêl droed, bydd yna ddigon o gyfle i gefnogwyr ddilyn hynt a helynt eu timau drwy gydol y tymor a ddaw.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf