Main content

David Taylor a'r Esgid Aur

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yr wythnos nesaf ( dydd Iau 27 Chwefror) bydd Abertawe yn dychwelyd i gystadleuaeth Cwpan Ewropa gyda chymal gyntaf eu g锚m yn erbyn Napoli o鈥檙 Eidal.

Nid dyma鈥檙 tro cyntaf i Napoli gyfarfod t卯m o Gymru , gan iddynt flynyddoedd yn 么l, yn 1962, wynebu Bangor (deiliaid Cwpan Cymru) mewn tair o gemau bythgofiadwy yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop. Enillodd Bangor o ddwy gol i ddim yn y cymal cyntaf ar Ffordd Ffarrar cyn colli o dair gol i un oddi cartef yn yr Eidal. Golyga hyn gem ychwanegol, a gafodd ei chynnal yn Llundain yn stadiwm Arsenal, sef Highbury. Yr Eidalwyr a enillodd ond roedd un o chwedlau p锚l droed gogledd Cymru wedi ei ysgrifennu yn y llyfrau hanes. Gyda llaw, dyma oedd y g锚m gystadleuol Ewropeaidd gyntaf a gynhaliwyd ar Highbury.

Ond yn ol at y presenol a thra mae gwobr y Ballon d鈥橭r-eisoes wedi ei dyfarnu i Cristiano Ronaldo o Real Madrid eleni, fel chwaraewr gorau Ewrop, bydd tlws yr Esgid Aur (Golden Shoe) yn cael ei benderfynu ar ddiwedd y tymor.

Cydnabyddiaeth ydi鈥檙 wobr yma i'r un sy鈥檔 sgorio'r mwyaf o fewn cynghrair cenedlaethol Ewrop dros y tymor.

Bydd Ronaldo yn si诺r o fod yn llygadu鈥檙 wobr yma hefyd. Ar hyn o bryd ,mae鈥檔 ras rhyngddo fo a Luis Suarez o Lerpwl am y wobr; y ddau wedi sgorio dros ugain o goliau hyd yn hyn. Draw yn Lithuania, mae鈥檙 blaenwr Nerijus Valskis wedi sgorio mwy, i d卯m dim FK Suduva, gyda鈥檌 gyfanswm eisoes yn 27 o goliau, ond mae ei dymor wedi dod i ben. Fodd bynnag, mae cymhlethdod yn codi.

Bydd goliau Ronaldo a Suarez yn cyfrif dwywaith mewn system bwyntiau sy鈥檔 ystyried ei fod yn fwy anodd sgorio mewn cynghrair 鈥渆litaidd鈥 megis Uwch Gynghrair Lloegr neu La Liga yn Sbaen nac ydi mewn cynghrair is eu delwedd megis yr un yn Lithuania.

Mae'r drefn yma o roi pwyntiau ar gyfer goliau mewn gwahanol uwch gynghreiriau wedi bodoli ers 1997 a dim ond un waith ers hynny mae chwaraewr sydd wedi sgorio y nifer fwyaf o goliau wedi ennill yr Esgid Aur.

Mae鈥檙 rheswm dros y newid yma a ddaeth ynghanol y naw degau yn ddiddorol.

Cyn hyn, gwobr y Golden Boot a roddwyd i'r prif sgoriwr - sef yr un a sgoriodd fwy o goliau nac unrhyw un arall ar draws Ewrop - heb unrhyw fath o system bwyntiau i gymhlethu pethau. Yn 1991 rhoddodd Cymdeithas Bel Droed Cyprus g诺yn, gan honni fod chwaraewr o'r wlad honno yn haeddu cydnabyddiaeth y Golden Boot, gan iddo, yn 么l yr honiad, fod wedi sgorio deugain o goliau, er bod amheuaeth wedi codi gan mai pedwar ar bymtheg o goliau oedd y rhif swyddogol a chafodd ei restru! Ond mae mwy i hyn nac anfodlonrwydd Cymdeithas Bel Droed o ynys yng nghanol Mor y Canoldir.

Yn dilyn campweithiau Hristo Stoichkov o Fwlgaria, Darko Pancev o Red Star Belgrad, ac Ally Mc Coist o Glasgow Rangers, daeth rhywun i frig rhestr prif sgorwyr Ewrop yn 1994 nad oedd unrhyw un yn ymwybodol ohono. Neb, hynny yw, y tu allan i Gymru.

Prif sgoriwr Ewrop yn nhymor 1993/4 oedd blaenwr Porthmadog yn Uwch gynghrair Cymru, sef David Taylor gyda 43 o goliau.

Yn fwyaf sydyn nid lluniau mawrion Ewrop oedd am gael eu dangos yn y papurau newydd a'r cyfryngau yng nghwmni noddwyr, nac unrhyw un arall, ond chwaraewr proffesiynol rhan amser a oedd yn gweithio mewn swyddfa treth incwm! Yn dilyn hyn, penderfynwyd fod angen newid pethau.

Ni welwyd mwyach y Golden Boot am sgorio mwy o goliau na neb arall. Rhoddwyd genedigaeth i'r Golden Shoe, yn sgil campwaith David Taylor, gan esgor ar gyfundrefn bwyntiau cymhleth. Gwelwyd hefyd rhyw feddylfryd fod yna gynghreiriau elitaidd yn bodoli ble roedd cydnabyddiaeth o sgorio yn un llawer mwy haeddiannol na chydnabod medrau tebyg mewn cynghreiriau gwledydd bychain megis Cymru!

Tydi鈥檙 cysylltiadau Cymreig ddim yn gorffen yma chwaith gan i Marc Lloyd Williams sgorio 43 o goliau i Fangor yn nhymor 2001/2, ond erbyn hynny roedd y pwyntiau elitaidd yn cyfrif a doedd dim esgid aur i Jiws. Rhaid oedd bodoli ar fod yn ail i Mario Jardel o glwb Sporting Lisbon ym Mhortiwgal.

Nid dyma鈥檙 unig chwaraewr o Gymru i fod yn gysylltiedig 芒 gwobr prif sgoriwr Ewrop. Enillodd Ian Rush y wobr yn 么l yn 1983/4 wrth sgorio 32 o goliau i Lerpwl, a daeth dau o chwaraewyr timau Uwch gynghrair Cymru, sef Tony Bird o鈥檙 Barri yn 1996/7 a Rhys Griffiths o Lanelli yn agos yn 2007/8.

Tra llwyddodd David Taylor i sgorio 43 o goliau, dim ond un chwaraewr sydd wedi ennill yr Esgid Aur wrth sgorio mwy o goliau na鈥檙 wnaeth y Cymro o Borthmadog.

Sgoriodd Lionel Messi o Barcelona 46 o weithiau'r tymor diwethaf a llwyddodd Messi eto'r tymor blaenorol gyda hanner cant o goliau.

Ie, dim ond yn Barcelona y cewch chi i un sydd wedi gwella ar yr hyn oedd blaenwr Porthmadog wedi ei gyflawni!

Os oes unrhyw un yn haeddu cael ei gynnwys mewn oriel anfarwolion p锚l droed Cymru ac Ewrop hefyd yna David Taylor ydi鈥檙 hwnnw.

Llwyddodd y dyn trethi o ardal Wrecsam ddod yn rhan o chwedloniaeth p锚l droed Porthmadog wrth wyrdroi cyfundrefn UEFA o gydnabod trysor aur eu prif sgoriwr.

Ond ydi'r drefn o roi pwyntiau ar gyfer goliau yn deg, yntau a ddylid ystyried y cyfanswm o goliau a dim arall? Trafodwch!

Mwy o negeseuon

Nesaf

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - 11 Chwefror 2014