Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - 11 Chwefror 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Heledd Cynwal - Eleri Sion

rheoliadd - regularly
wythnosol - weekly
hel atgofion - to share memories
llefydd tân - fireplaces
silff ben tân - mantlepiece
anffawd - misfortune
siglo mhen ôl - shaking my backside
pais - pettycoat

"...efo silff ben tân Eleri Sion. Os dach chi'n gwrando'n rheoliadd ar raglen Heledd Cynwal mi fyddwch chi'n gwybod bod ganddi eitem wythnosol 'Silff ben tân' lle mae gwestai'r rhaglen yn aml iawn yn hel atgofion sy'n ymwneud â llefydd tân eu cartrefi. Yn y clip yma mae Eleri yn sôn am ddamwain gafodd hi pan oedd hi'n blentyn wrth chwarae o gwmpas y tân..."


Dafydd a Derfel - Eastenders

ias i lawr dy gefn - a shiver down your spine
wastad - always
cyfnod o wallgofrwydd - period of madness
enwogrwydd - fame
anhygoel - incredible
newid yn llwyr - to change completely
pennod - episode
dychrynllyd - frightening
rhoi cyngor - to give advice
goroesi - to survive

"Felly y wers yn fan'na ydy : byddwch yn ofalus cyn siglo eich pen ôl o flaen y tân! Druan o Eleri ynde? Ydach chi'n gwylio 'Gwaith Cartref' ar nosweithiau Sul? Mae hi'n un o raglenni mwya poblogaidd S4C ar hyn o bryd. Daeth un o'r actorion i gael sgwrs efo ni ar raglen Dafydd a Derfel ddydd Iau. Richard Elis oedd o, a fo ydy Wyn, un o'r athrawon, yn y ddrama. Ond wyddoch chi bod Richard wedi actio yn Eastenders am dair blynedd? Huw oedd enw'r cymeriad yn yr opera sebon yna, a dyma Richard yn rhannu rhai o'i hanesion ar set y rhaglen..."


Cofio - Â鶹ԼÅÄ

cyn-bennaeth Adran Adloniant - former head of Entertainment
sêr - stars
yn eithriadol - exceptionally
trosglwyddo - to pass on
cyfrwng cyfoes - modern media
methiannau - fairlures
hynod o amryddawn - extremely versatile
cymeriadau cig a gwaed - real life characters
hunanbwysig - self important
cefndir - background

"Pwy fasai'n meddwl bod yna 'gangiau' ymhlith actorion Eastenders ynde? Gang Wendy a gang Barbara! Fel bod yn ôl yn yr ysgol yntydy? Mae Eastenders wrth gwrs yn un o raglenni mwya llwyddiannus y Â鶹ԼÅÄ, ac edrych yn ol ar hanes Â鶹ԼÅÄ Cymru wnaeth 'Cofio' ddydd Sadwrn gan ei bod yn dathlu ei phenblwydd yn hanner cant eleni. Dan i'n mynd i glywed rhan fach o'r rhaglen sef sgwrs o'r wythdegau rhwng Beti George a Meredydd Evans, ar rhaglen Beti a’i Phobol. Cafodd y sgwrs ei chlywed yn wreiddiol yn ôl ym mil naw wyth pump. Mae Meredydd Evans yn gyn-bennaeth Adran Adloniant y Â鶹ԼÅÄ, a dyma fo'n sôn wrth Beti am un o sêr y Â鶹ԼÅÄ yng Nghymru yn y chwedegau a'r saithdegau - Ryan Davies..."


John Hardy - Edwyn Jones

y fyddin - the army
iaith brin - rare language
plwyf - parish
Porthaethwy - Menai Bridge
ffraeo - to agree
cystadlu - to compete
unawd - solo
yn y gwaed - in the blood
caneuon traddodiadol - traditiomnal songs
gor'o mynd - got to go

"Ia, Ryan Davies, un o dalentau mwya byd teledu Cymraeg. Dan ni am symud o Gymru rwan i ynys Guernsey. Mae Edwyn Jones yn byw ar yr ynys ers mil naw pedwar saith. Symudodd o i fyw yno ar ôl bod yn y fyddin. Ond fel y cawn ni glywed dydy o ddim wedi colli ei Gymraeg o gwbl. Ar ben hynny mae o wedi codi ychydig o iaith arbennig yr ynys, ac yn y clip yma mi gawn ni i gyd ddysgu sut i siarad am y tywydd yn yr iaith honno. Ddim yn aml dan ni'n cael y cyfle i glywed dim o'r hen iaith yma naci? Felly gwandewch ar y clip ola 'ma a mwynhewch clywed yr iaith brin hon a chlywed un o hen ganeuon yr ynys..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

David Taylor a'r Esgid Aur

Nesaf

Gatland a’i griw o dan bwysau