Main content

Mis i Fynd - Cadarnhau Dyddiad Amserlen Newydd 麻豆约拍 Radio Cymru

Newyddion

Mae 麻豆约拍 Radio Cymru wedi cadarnhau y bydd amserlen newydd yr orsaf yn dechrau ddydd Llun, Mawrth 10fed - felly dim ond mis sydd i fynd nes y bydd gweledigaeth newydd yr orsaf yn cael ei rhoi ar waith. Mae鈥檙 weledigaeth honno yn anelu i sicrhau y bydd pob math o leisiau ar yr orsaf - gyda phob un yn hoff lais i rywun.

Fe gyhoeddwyd ym mis Tachwedd y bydd Dylan Jones yn aros ar yr awyr i gyflwyno ei raglen newydd o Fangor rhwng 8am a 10am ar 么l Post Cyntaf; bydd rhaglen newydd Sh芒n Cothi, Bore Cothi, yn dod o Gaerdydd rhwng 10am a hanner dydd, a bydd Tommo yn ymuno 芒鈥檙 orsaf i ddod 芒 rhaglen newydd o Gaerfyrddin bob prynhawn o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 2pm a 5pm - gyda Tudur Owen yn y slot honno bob prynhawn dydd Gwener.

Dywedodd Dylan Jones: 鈥淢ae yna gynnwrf sylweddol ymysg y timau sy鈥檔 gyfrifol am y Post Cyntaf a fy rhaglen newydd i, ac rydyn ni i gyd yn gweithio鈥檔 galed yn paratoi ar gyfer y drefn newydd o Fawrth y 10fed. Yn bersonol rydw i鈥檔 edrych ymlaen yn fawr at gael clywed gan gymaint o wrandawyr ag sy鈥檔 bosibl, ac i fod yn rhan o batrwm dyddiol pobl ymhob rhan o Gymru hyd at ddeg o鈥檙 gloch bob bore.鈥

Dywedodd Tommo: 鈥淢ae鈥檙 paratoi wedi dechrau o ddifri nawr a sai鈥檔 gallu aros tan Fawrth y 10fed i ddod a llond y prynhawn o hwyl a cherddoriaeth i wrandawyr Radio Cymru! Rwy wedi cael nifer fawr o negeseuon yn dymuno鈥檔 dda i fi a鈥檙 rhaglen newydd yn barod, ac rwy鈥 jyst yn edrych ymlaen nawr i ddod i nabod llond lle o bobl newydd!鈥

Daeth cadarnhad hefyd y bydd yr arlwy am hanner dydd yn cynnwys rhaglenni newydd gyda Gari Wyn, John Walter a Caryl, yn ogystal 芒鈥檙 rhaglenni Stiwdio gyda Nia Roberts ac O鈥檙 Bae gyda Vaughan Roderick.

Dywedodd Gari Wyn: 鈥淐yfuniad o bynciau llosg yn ymwneud 芒 busnes a mentergarwch, hanes ac arwyddoc芒d digwyddiadau hanesyddol fydd ar y rhaglen. Dwi鈥檔 teimlo, os oedd gen i genhadaeth erioed, mai hybu mentergarwch ymysg Cymry Cymraeg ydy honno.鈥

Dywedodd John Walter: 鈥淒wi鈥檔 edrych ymlaen at sialens newydd - a chael gofyn y cwestiynau caled yn hytrach na gorfod eu hateb nhw, fel y bues i鈥檔 ei wneud am flynyddoedd!鈥

12.30 fydd yr amser newydd ar gyfer nifer o hen ffefrynnau fel Straeon Bob Lliw, Y Talwrn, pigion o sgyrsiau Galwad Cynnar, Byd Iolo, Sesiwn Fach a rhaglenni ysgafn, comed茂au a gemau panel.

Yn cwblhau arlwy amser cinio fydd y rhaglen drafod Taro鈥檙 Post gyda Garry Owen, a fydd yn cael ei darlledu am 1pm bob dydd yn yr amserlen newydd. A bydd Garry鈥檔 mynd allan i gyfarfod pobl yng nghalon eu cymunedau yn ystod yr wythnos gyntaf - gan ddod o ran gwahanol o Gymru bob dydd. Bydd manylion llawn y lleoliadau yn cael eu cadarnhau yn agosach at y dyddiad.

Dywedodd Betsan Powys, Golygydd Rhaglenni鈥檙 orsaf: 鈥淎ll Radio Cymru ddim bod yn bopeth i bawb ond fe wnewn ni鈥檔 gorau glas i gynnig rhywbeth i bawb. Yn wrandawyr hen a newydd, chi fydd wrth galon y gwasanaeth.鈥

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Y Chwe Gwlad: Mwy o sbeis ar y g锚m?

Nesaf

David Taylor a'r Esgid Aur