Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 4ydd o Fawrth 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.


Galwad Cynnar - Twm Elias
Ìý

chwedl - myth
trai - ebb tide
pioden y môr - oyster catcher
nythu - to nest
eglurhad gwyddonol - scietific explanation
glyfinir - curlew
uffern - hell
y wennol - the swallow
sarff - serpent
cynffon - tail

"...Galwad Cynnar, rhaglen gafodd ei recordio yn Neuadd Bro Llanwnda yng Ngwynedd. Mi roedd y naturiaethwr Twm Elias ar y panel a tasech chi eisau ateb i unrhyw gwestiwn o fyd natur, wel ato fo y basech chi'n troi ynde? A dyna ddigwyddodd ddydd Sadwrn. Gwrandewch ar y cwestiwn diddorol sydd ar ddechrau'r clip nesa ma, cwestiwn am natur. Mi fydd Twm yn siwr o allu ateb yn bydd? "


Lisa Gwilym - Geraint JarmanÌý

dylanwad - influence
llwyfan - stage
awyrgylch - atmosphere
y dorf - the crowd
yr un wefr - the same buzz
ail gychwyn - to restart
fel petai - as if
cerddorion - musicians
tyndra - tension
bywiog ac egniol - lively and energetic

Dyna i chi Twm Eliais yn dangos sgil y gwleidydd ynde, ateb y cwestiwn roedd o eisiau ei ateb, yn hytrach na'r un gaeth ei ofyn! Un o'r bandiau gorau fuodd yn canu yn y Gymraeg erioed oedd Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr. Dyma'r band ddaeth a miwsig 'reggae ' i'r Gymraeg, ac mi fuon nhw'n ddylanwad mawr ar nifer o artistiaid eraill. Er iddyn nhw recordio eu halbwm cynta yn y saithdegau, maen nhw'n dal i berfformio. Dyma i chi ran o sgwrs rhwng Geraint Jarman a Lisa Gwilym, lle mae Geraint yn cymharu'r band gwreiddiol oedd ganddo fo ers talwm, efo'r un presennol.


Stiwdio - Shirley Bassey

cantores - female singer
edmygu - to admire
coroni - to crown
brith atgof - a vague memory
ar wefusau - on the lips
delwedd - image
adnabyddus - recognisable
presenoldeb - presence
dynwared - to imitate
cyrraedd y brig - to reach the top

"Er mod i'n tynnu'n het i Geraint Jarman am ddal i berfformio ar draws y degawdau, dydy o ddim yn yr un cae a Shirley Bassey, o ran oedran beth bynnag! Mae hi'n saithdeg saith mlwydd oed ac mae hi newydd ddod â record sengl allan. Mae Heledd Sian Roberts yn amlwg yn ffan mawr o'r seren enwog, ac mi fuodd hi'n esbonio pam wrthon ni ar Stiwdio nos Iau, gan roi chydig o hanes Shirley Bassey i ni yr un pryd..."


Dafydd a Caryl - Barf Huw Chiswell

barf - beard
penodol - specific
yn deilwng o - worthy of
dyn cynteifig - a primitive man
swmpus - substantial
diogi - laziness
cyfnod cosi - the itchy period
darbwyllo - to persuade
gofal - care
graddol - gradual

Dydy'r canwr Huw Chiswell heb fod o gwmpas cweit cyn hired â Geraint Jarman a Shirley Bassey - ond yn wahanol i'r ddau arall mae ganddo fo farf, neu locsyn, gwerth sôn amdano fo! A dweud y gwir mi gafodd Caryl a finnau ddipyn o sioc o'i weld o pan ddaeth o aton ni i'r stiwdio ddydd Mercher diwetha. Dach chi'n gweld, rhywbeth newydd sbon ydy'r barf yma, ac fel gaethon ni glywed ar y rhaglen, roedd yna lawer o bobl heb ei nabod efo'i wyneb newydd! Ond pam tyfu barf? 'I Be?' Oedd yna reswm penodol? Dyma i chi'r dyn ei hun yn esbonio...

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cwpan Cymru - y Rownd gyn-derfynol

Nesaf

Arwydd A Star Gareth Bale