Main content

Arwydd A Star Gareth Bale

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Tra mae Nicolas Anelka wedi cael ei wahardd am bum gem ar ol iddo wneud arwydd y quenelle ar ôl sgorio i West Bromwich Albion yn erbyn West Ham, mae nifer o chwaraewyr eraill yn dathlu mewn dulliau llawer mwy canmoladwy.

Ìý

Wrth wneud hyn, maent yn llwyddo i dynnu sylw a chyfeirio tuag at achosion da.

Ìý

Enghraifft arbennig o hyn ydi’r arwydd o’r llythyren A sydd yn cael ei arddangos, yn fwyaf diweddar gan Gareth Bale wedi iddo sgorio dros Gymru yn erbyn Gwlad yr Iâ.

Ìý

Un o’r cyntaf i ddangos yr arwydd yma wedi sgorio oedd Andrew Johnson, blaenwr presennol Queens Park Rangers. Cyfeiriad at fudiad A-Star ydi’r arwydd yma, sef mudiad sydd yn codi arian tuag at wella bywydau plant ifanc yn ninasoedd Lloegr.

Ìý

Dechreuwyd y mudiad yn 2012 gan chwaraewr arall a fu gyda Queen’s Park Rangers, sef Fitz Hall, sydd gyda Watford ers tair blynedd bellach, ac sydd erbyn heddiw yn cael ei gefnogi yn ei fenter gan nifer o chwaraewyr megis Leighton Baines o Everton.

Ìý

Sail eu cefnogaeth ydi’r gydnabyddiaeth fod pêl droed yn cynnig y cyfle i chwaraewyr ifanc osgoi peryglon bywyd gormesol y dinasoedd, a thrwy ganolbwyntio ar eu gallu beldroedaidd, geisio gwella ansawdd eu bywyd.

Ìý

Mae’r mudiad hefyd yn ceisio rhoi arweiniad i bobol ifanc o fewn eu cymunedau gan gynnig cyngor ac arweiniad iddynt ynglŷn â dewis llwybrau addas a fyddai yn manteisio ar eu galluoedd i'r dyfodol, boed hyn o fewn y byd pêl droed neu mewn cyd-destun hollol wahanol.

Ìý

Mae llawer o chwaraewyr proffesiynol a hefyd sêr byd cerddoriaeth gyfoes sef ‘rappers’ yn cefnogi mudiad A Star yn defnyddio eu llwyddiant a’u cyfoeth i geisio gwella ansawdd bywyd pobol ifanc mewn ardaloedd difreintiedig.

Ìý

Erbyn hyn mae’r mudiad wedi tyfu i gael ei adnabod fel yr Astar League gyda thimau strydoedd a stadau yn chwarae yn erbyn ei gilydd.

Ìý

Yn ogystal mae’r mudiad wedi cael ei gyplysu gyda nifer o fentrau dyngarol eraill megis cyngerdd Music for Goals yn Munich gyda chwaraewr Bayern Munich Dante, wedi cyhoeddi ei gefnogaeth i ymdrechion AStar.

Ìý

Tybed pa fath o ddathlu a welwch chi yn y gêm nesaf? Tynnu crys, neu a fydd yna ryw neges benodol yn cael ei drosglwyddo?

Ìý

Gwyliwch y goliau a gwyliwch y dathlu.

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Betsan Powys yn edrych ymlaen at bennod newydd