Main content

Cwpan Cymru - y Rownd gyn-derfynol

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Gyda thimau o’r gogledd a’r canolbarth yn amlygu’i hunain yn yr Uwch gynghrair, Y Seintiau Newydd, Airbus, Rhyl, Bangor a’r Drenewydd, yn ogystal â Chaerfyrddin o'r de, yn y chwech uchaf, mae patrwm tebyg wedi datblygu yng nghwpan Cymru.

Y Sadwrn diwethaf, gwelwyd y Seintiau Newydd, ynghyd a’r Bala, Aberystwyth a Threffynnon yn cyrraedd y rowndiau cynderfynol. Roedd Treffynnon eisoes wedi creu record newydd wrth iddynt fod y tîm cyntaf o drydedd rownd trefn pêl droed Cymru i gyrraedd yr wyth olaf. Heddiw, y nhw ydi’r unig dîm o’r rheng honno sydd wedi cyrraedd y rownd cyn derfynol.

Does dim amheuaeth fod y llwyddiant yma wedi ail gydio yn nychymyg trigolion Treffynnon, gyda thorf o dros bum cant ar Faes Ffordd Helygain yn dilyn y fuddugoliaeth dros Borthmadog y Sadwrn diwethaf. Torf nas gwelwyd ers dyddiau dedwydd yr Uwch gynghrair a thorf a fyddai llawer os nad pob un o dimau presennol yr Uwch gynghrair yn falch ohono! Tipyn o gyflawniad sydd yn dangos yr atgyfodiad canmoladwy sydd yn y byd pel droed yn y rhan yma o Sir y Fflint.

Mae’r tîm presennol eisoes wedi cipio Tlws Cymdeithas Bel Droed Cymru yn ôl yn 1911. Cyn hyn, cyrhaeddodd Treffynnon i gyrraedd rownd gyn derfynol Cwpan Cynghrair yr Uwch gynghrair yn yr wythdegau ond daeth terfyn ar y daith wrth inni golli dros ddau gymal i Lansantffraid. Yn naturiol, mae llygad y dre ar fynd un yn well y tro yma yng nghwpan Cymru.

I gyflawni hyn bydd rhaid trechu Aberystwyth yn y rownd gyn derfynol, tra bydd y gêm arall yn gweld y Seintiau Newydd yn wynebu'r Bala. Tra bod Treffynnon yn torri cwys newydd a chreu record newydd iddyn nhw’u hunain, bydd Aberystwyth yn credu ei fod yn hen amser iddynt hwythau gipio'r gwpan.

Er i Aber gyrraedd y ffeinal yn 2009, colli oedd yr hanes i Fangor. Cafwyd eu hunig fuddugoliaeth draw’ nol yn 1900 wrth guro'r Derwyddon, gyda’r chwedlonol Leigh Richmond Roose yn y gôl iddynt.

Bydd y Bala yn gobeithio am well lwc y tro yma gan iddyn nhw wynebu’r Seintiau yn y rownd gyn derfynol yn 2012, gyda’r Seintiau yn fuddugol o bedwar gôl i ddim. Anodd fydd y dasg eto i'r Bala eleni gyda'r Seintiau Newydd wedi ennill y gwpan yn 2012 ac yn gosod y safon yn Uwch gynghrair Cymru eleni.

Ond atyniad gemau cwpan ydi’r annisgwyl a chyfleoedd a all ddod ac enwogrwydd ac anfarwoldeb i'r timau. Bydd Treffynnon, y Bala, Aberystwyth yn siŵr o fod yn llawn awch a brwdfrydedd am y gemau yma, gan wybod fod cymhwyso ar gyfer cystadlu yn Ewrop mor agos, a’r Seintiau yn chwilio am gymhwyso ar ddwy lefel sef drwy’r Uwch gynghrair a’r gwpan.

Gall hyn olygu y byddai'r tîm sydd yn cyrraedd y ffeinal (petai’r Seintiau yn curo’r Bala) yn cymhwyso ar gyfer cwpan Ewropa! Beth arall sydd ei angen i godi awch a brwdfrydedd am lwyddiant?

Cyfle hefyd i argyhoeddi trigolion y trefi yma fod yna gystadlu cenedlaethol o safon uchel ar drothwy drws eu cymuned. Edrychwn ymlaen ar y ddwy rownd gyn derfynol sydd i'w cynnal dros benwythnos Ebrill y pumed a’r chweched .

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf