Llongyfarchiadau i Wrecsam ar eu buddugoliaeth yn Wembley – trechu Grimsby i gipio Tlws FA Lloegr.
Roedd digon o densiwn,Ìýond doedd hi’n oer! Ta waeth - llongyfarchiadau hefyd i’r miloedd wnaeth deithio draw er gwaethaf y problemau a achoswyd gan yr eira yng ngogledd orllewin Cymru.
Wn i ddim pam na chafodd Craig Disley ei anfon o’r cae am y dacl beryglus a byrbwyll ar Dean Keates - a heb berfformiad penigamp y golwr James McKeown i Grimsby fe fyddai'r gêm drosodd ymhell cyn diwedd yr awr a hanner.
Petae Wrecsam wedi bod yn gywirach yng ngheg y gol fe fyddai wedi bod yn grasfa – ond fe boethodd pethau yn yr ail hanner.
Cafwyd noethlymunwr wedi i Grimsby sgorio - yr unig beth lwyddodd hynny I’w wneud oedd profi pa mor oer oedd y tywydd – ond Wrecsam oedd ar i fyny yn yr ail hanner!
Eto, fe wnaeth Adrian Ciezlewicz yÌý gwahaniaeth a chynnig rhediadau mwy treiddgar a ddrysodd Grimsby yn gyfan gwbl, cyn gweld Kevin Thornton yn dod a Wrecsam yn gyfartal efo cic o’r smotyn.
Er gwaethaf hyn, roedd rhaid aros am fwy o giciau o’r smotyn – ar ol gweld arbediadau diri gan McKeown unwaith eto yn ystod yr amser ychwanegol, ond y tîm gorau a enillodd heb os.
Llongyfarchiadau i’r chwaraewyr, a hefyd I’r cefnogwyr – nhw sydd wedi sicrhau fod yna glwb a thîm yn bodoli, a’u bod wedi goroesi y trafferthion a fu.
Ymlaen am fis arall o densiwn, gyda Wrecsam yn gobeithio anelu am yr Ail Adran.