Main content

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 27 Mawrth 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Blas - Cig Moch

cig moch - bacon
y grefft - trade, craft
halltu - curing
cyfrinach - secret
ffefrynau - favourites
sychu - to dry
ar y lleiaf - at the least
cynhyrchu - to produce
braster - fat
cytbwys - well-balanced

be' ydy eich hoff frecwast, tybed? Wel, ar fore oer fel heddiw fy hoff frecwast i ydy brechdan cig moch efo digon o sos coch arni! Ond be' sy'n gwneud cig moch da? Aeth Sian Roberts i holi Illtyd Dunsford o gwmni Charcutier Ltd wythnos yma i ddysgu mwy am y grefft o halltu.

Dei Tomos - Welsh Not

ymddygiad - behaviour
arwydd - sign
curfa - beating
deddf - act, law
canlyniadau - results
cyflog - salary, wage
gorfodi - to force
codi gwrychyn - (idiom) to irritate
pothelli - blisters
dyrnu - to thresh wheat, grain etc.

Dim defnyddio ffonau symudol, dim bwyta yn y dosbarth, dim mynd ar 'Facebook'; oes, mae 'na lawer o reolau i'w cael mewn ysgolion heddiw sydd i fod i wella ymddygiad plant. Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg (19eg) roedd rhai ysgolion yng Nghymru â rheol wahanol iawn - dim siarad Cymraeg. Roedd plentyn oedd yn siarad Cymraeg yn gorfod gwisgo arwydd o gwmpas ei wddw gyda'r llythrennau 'W.N' arno, sef y 'Welsh Not'. Mi fyddai'r plentyn oedd yn gwisgo'r 'Welsh Not' ar ddiwedd y dydd yn cael curfa gan yr athro. John Meirion Jones gafodd sgwrs gyda Dei Tomos wythnos yma am hanes y 'Welsh Not' yn Ysgol Pontgarreg. Mae John wedi 'sgwennu llyfr am Ysgol Pontgarreg a dyma i chi fwy o'r hanes.

Ìý

Nia - Rhodri Evan

Ar hyn o bryd - At the moment
cyfres - series
wedi ei lleoli - located
prifathro - headmaster
hoffus - likeable
teclyn - appliance
morthwyl - hammer
panas - parsnips
bresych - cabbage
sbigoglys - spinach

Yr actor Rhodri Evan wnaeth ateb cwestiynau 'Saeth Sydyn' ar raglen Nia wythnos yma. Ar hyn o bryd mae Rhodri yn actio yn 'Gwaith Cartref ' ar S4C. Drama gyfres ydy 'Gwaith Cartref' sydd wedi'i lleoli mewn ysgol ac mae Rhodri yn actio cymeriad y prifathro. Dydy'r prifathro ddim yn gymeriad hoffus iawn, ond 'sgwn i be' mae Rhodri Evan yn ei hoffi a ddim yn ei hoffi? Dyma Nia gyda’r cwestiynau.

Stiwdio - Mary Vaughan Jones

dylunydd llyfrau - (book) illustrator
dylunio - to illustrate
atgofion - memories
dygymod - to stomach
balchder - pride
hyfryd - pleasant
dynoliaeth - humankind
haint - infection

Y dylunydd llyfrau Jac Jones oedd gwestai 'Stiwdio' wythnos yma ar raglen arbennig i gofio am Mary Vaughan Jones. Mae Mary, a wnaeth farw yn 1983, yn enwog am 'sgwennu llyfrau i blant yn cynnwys 'Sali Mali', 'Jac y Jwc' a 'Ben y Garddwr'. Mi wnaeth Jac Jones ddylunio llawer o storïau gan Mary a dyma fo i ddweud mwy am ei atgofion annwyl ohoni.

Daf a Caryl - Huw Llyr

ymaddangos - to appear
yn ddiweddar - lately
cyfrifol - responsible
enwog - famous
camdrin - to abuse
cyfweliad - interview
gwahaniaethau - differences
ar leoliad - on location
rysáit - Nil
cartrefol - homely

Mi aeth Dafydd a Caryl ar daith i set yr opera sebon 'Rownd a Rownd' wythnos yma i holi rhai o'r cast. Dydd Iau mi gaethon nhw sgwrs gyda Huw Llyr sy'n actio'r rhan Vince yn 'Rownd a Rownd'. Mae Huw wedi ymddangos mewn opera sebon arall yn ddiweddar, sef 'Coronation Street'. Mi wnaeth Huw actio rhan DI Tristan Bowen a oedd yn gyfrifol am arestio'r cymeriad hoffus Tyrone, ond sut brofiad oedd cael ymddangos mewn opera sebon sydd mor eiconig?

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Llongyfarchiadau i Wrecsam