Main content

Wrecsam yn Wembley

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Dwi wedi bod yn Wembley nifer o weithiau yn y blynyddoedd diweddar.

Rownd gyn-derfynol Cwpan Lloegr rhwng Everton a Lerpwl y llynedd, ac yr un achlysur dwy flynedd ynghynt - Everton a Manchester United y tro hwnnw.

Dwi hefyd wedi gweld Abertawe yn sicrhau eu lle yn Uwchgynghrair Lloegr yno, yn ogystal 芒 nifer o gemau yn Nharian Elusennol y Gymdeithas Beldroed.

Y tro cyntaf imi fod yno oedd I weld Gemau Cwpan y Byd yn 1966. Saith punt a deg swllt am ddeg ticed - a鈥檙 ticed i'r ffeinal yn costio un bunt a pymtheg swllt.

Roedd fy Mam yn methu credu fod rhywun wedi talu cymaint i weld un g锚m beldroed!

Ond ddydd Sul fe fyddaf yn 么l yn Wembley i fod yn rhan o achlysur unigryw arall - mae Wrecsam ar eu ffordd I鈥檙 pencadlys, a鈥檙 cefnogwyr yn gobeithio fod y b锚l ar ei ffordd i mewn i'r g么l, g么l, i mewn i'r g么l!

Tydi gweld t卯m o Gymru yn Wembley yn ddim byd newydd erbyn hyn - tipyn o arferiad hwyrach 鈥 neu rhywbeth i'w ddisgwyl hyd yn oed!

Mae Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe wedi dod yn hen gyfarwydd 芒鈥檙 lle erbyn hyn - a bydd y Dreigiau yn gobeithio codi Tlws Cymdeithas Beldroed Lloegr a dod yn 么l i ogledd Cymru gyda o leiaf 拢200,000 yn sgil yr ymddangosiad hanesyddol yma.

Credir y bydd yna o leiaf 20,000 o gefnogwyr yn gwneud y daith, ac yno fydda innau hefyd. Mae鈥檙 ticed gennyf a bydd yr awyrgylch yn si诺r o fod yn drydanol, er na fydd Wembley yn llawn dop. Ond tr茂wch chi ddweud nad yw hon yn gwpan bwysig i鈥檙 Cymry.

Dwi eisoes wedi clywed pobol sydd heb fod ar gyfyl Cae Ras Prifysgol Glynd诺r yn son am eu paratoadau ar gyfer y penwythnos - ac mae鈥檙 dref a鈥檙 fwrdeistref, gogledd a chanolbarth Cymru yn gwneud yn fawr o鈥檙 achlysur.

Does ond gobeithio fodd bynnag na fydd yr achlysur unigryw yma yn amharu ar ymdrech y clwb i sicrhau dyrchafiad i Adran Dau. Gyda鈥檙 g锚m yn erbyn Mansfield wedi ei gohirio ganol wythnos, hwyrach y daw Wrecsam i brofi'r un broblem a Chasnewydd yn y Gyngres, sef gormod o gemau i'w chwarae mewn amser byr.

Tasg anodd i dimau sydd yn chwilio am ddyrchafiad.

Yn y cyfamser, mae鈥檙 sylw Wrecsam ar Wembley.

Bydd prynhawn Sul yn achlysur unigryw- anghofio am y dasg o ennill dyrchafiad am un diwrnod, gan obeithio y cawn weld llwyddiant i d卯m arall o Gymruar faes cenedlaethol y Saeson.

鈥淐ome On Cymru鈥 fydd hi eto brynhawn Sul ynghyd a鈥檙 gefnogaeth i d卯m "Y Rec-sam .. y Rec-sam"

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pigion i Ddysgwyr - Geirfa 22 Mai 2013

Nesaf

Llongyfarchiadau i Wrecsam