Main content

Pigion i ddysgwyr: Geirfa 09 Ebrill 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Daf a Shan - Alys Williams

Ìý

trwodd - through
golygu - to edit
penderfyniad - decision
denu - to tempt
sefyllfa - situation
beirniadu - judge
acen - accent
croten - hogan, merch
lleisiol - vocal
yn erbyn - against

faint ohonoch chi sy'n mwynhau gwylio rhaglenni talent ar y teledu? Dwi’n si?r bod llawer ohonoch chi wedi clywed am Alys Williams, merch sy'n d?ad o Gaernarfon yn wreiddiol, ac sy wedi bod yn llwyddiannus ar y rhaglen dalent ‘The Voice’ ar y Â鶹ԼÅÄ. Mae Alys wedi mynd trwodd i’r rownd nesaf fel aelod o dîm Tom Jones. Mi gafodd Shan Cothi a finnau sgwrs gydag Alys am y profiad arbennig, ond i ddechrau dyma glip ohoni'n canu ar y rhaglen.

Meic ar y Meic

hen law - veteran
sîn - scene
prin - rare
safon - standard
tanau - strings
technegwyr - technicians
cymhleth - complex
ambyti - about
awyrgylch - atmosphere
offer - equipment

Ìý…ac o seren newydd i hen law ar y gitâr yr awn ni nesa'. Mi wnaeth Meic Stevens, y canwr o Sir Benfro, gyflwyno ei hoff ganeuon Cymraeg ar raglen arbennig ddydd Gwener. Mi wnaeth Meic recordio ei sengl gyntaf nôl yn 1965 ac mae'n cael ei ddisgrifio'n aml fel y Bob Dylan Cymraeg. Nôl yn y chwedegau roedd y sîn gerddorol yma yng Nghymru yn wahanol iawn i heddiw. Dyma Meic gyda'r hanes.ÌýÌý

Blas - Sioned Quirk

dietegydd - dietician
cyllideb - budget
diweithdra - unemployment
gwastraffu - to waste
tymhorol - seasonal
amrywiaeth - variety
maeth - nutrition
byrbwyll - impulsive
cynllunio - to plan
dros ben - surplus, left over

…a dyna i chi 'Y Blew', y gr?p roc cyntaf Cymraeg ac un o hoff fandiau Meic Stevens. Gobeithio i chi fwynhau! Mi fydda i'n mwynhau bwyta pob math o fwyd iach ond sut mae sicrhau ein bod ni'n gyd yn bwyta'n iach o gofio bod cig, llysiau a ffrwythau ffres yn ddrud? Wel, roedd y dietegydd Sioned Quirk ar y rhaglen 'Blas' wythnos yma i roi 'tips' i ni ar sut i fwyta’n iach ar gyllideb fach.

Ìý

Nia - Frank Linclon

hiliaeth - racism
cysylltiad - connection
rhagfarn - prejudice
iawnderau - rights
chwedlonol - legendary
glöwyr - colliers
Cymoedd - Valleys
protestio - to protest
dycnwch - pertinacity

…'tips' da iawn yn fanna gan Sioned ar sut mae bwyta'n iach ar gyllideb fach. Ddydd Mawrth roedd hi'n gant a phymtheg o flynyddoedd ers geni'r actor a seren y ffilm enwog 'Show Boat', Paul Robeson. Daeth Frank Lincoln i'r stiwdio i gael sgwrs gyda Nia i sôn am yr hiliaeth wnaeth Paul ei brofi yn ystod ei fywyd, ond hefyd am y cysylltiad arbennig oedd gynno fo â Chymru. Byd bach, ynte?

Straeon Bob Lliw - Llun

dioddef - to suffer
cyflwr - condition
darganfod - to discover
dewrder - bravery
nam - impairment
genynnol - genetic
profi - to test
arbenigwr - specialist
dagrau - tears
cyfrifol - responsible

…llais anhygoel Paul Robeson yn fanna. Lowri Harris oedd ar y rhaglen 'Straeon Bob Lliw', merch ifanc 28 oed sy’n dioddef o Friedreich's ataxia. Yn y clip mae Lowri'n sôn am y cyfnod pan wnaeth hi ddarganfod bod gynni hi Friedreich's ataxia. Yn y clip hefyd mae mam Lowri yn siarad yn annwyl am ddewrder ei merch.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Mae’r Gaer yn gryf !

Nesaf

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill