Cyfle arall i'r cerddiÌýna chyrhaeddoddÌýy brig yn rownd gyntafÌýrhaglen Y Talwrn ar Radio CymruÌýweld golau dydd wrth i'rÌýMeuryn, , ddewis 'y gorau o'r gweddill'.
Rownd 1, rhaglen 1, 21 Ebrill 2013: Llan Ffestiniog
Camp tîm yw camp y talwrn yn y pendraw. Ac, fel ym myd rygbi, er enghraifft, mae safon y rhai sydd wrth gefn ar y fainc yn amal yn tystio i gryfder y tîm sydd ar y cae ar ddechrau’r gêm.
Oherwydd hyn, ac oherwydd disgleirdeb cyffredinol y beirdd sy’n cystadlu o wythnos i wythnos, mae dewis un cynnig ar gyfer pob tasg (o blith nifer o gynigion ar bob un dasg gan wahanol aelodau o un tîm) i gynrychioli’r tîm hwnnw yn yr ornest a ddarlledir yn gyfrifoldeb mawr. A gan amlaf, fy ngwaith i fel Meuryn yw hwnnw.
Hyn oll cyn bwrw ati wedyn i feuryna’r talwrn go iawn rhwng y timau!
Ac felly y bu’r wythnos hon wrth i’r gyfres ailgydio wedi pedwar mis o ohiriad.
Tafarn gymunedol y Pengwern yn Llan Ffestiniog oedd y lleoliad, a’r stafell gefn yn llawn. Oherwydd i’r gyfres golli pedwar mis, bu’n rhaid ailwampio’r rownd gyntaf eleni, a dyna pam y bydd tri thîm, yn hytrach na dau, yn herio’i gilydd bob wythnos, hynny yw hyd nes i ni gyrraedd rownd yr wyth olaf.
Cawsom dri da i fwrw’r cwch i’r dŵr yn y Pengwern, sef timau Ysgol y Berwyn, Glannau Menai a’r Tir Mawr, a dyma dairÌýo’r cerddi na welodd olau dydd ar y noson.
Testun y pennill ysgafn (ar unrhyw ffurf) oedd ‘Gair o Gyngor i Rywun Enwog’, ac fel y disgwyliech, doedd dim prinder cyngor gan feirdd Y Talwrn i rai o wleidyddion amlyca’r oes, gan gynnwys Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Cymru:
Ìý
Gair o Gyngor i Alun Davies
Ìý
Dyro glust i gŵyn amaethwyr
Ac effeithiau llym y lluwch,
Paid troi’n fyddar i fref mamog
A’r diffyg grawn i fwydo’r fuwch.
Gwanwyn cynnar y cynulliad
Hyd yn hyn a gefaist ti,
Ond yn rhewynt etholiadol
Ddydd a ddaw, fe’th gofiwn di
Ìý
Ysgol y Berwyn
Ìý
Pennill diffuant ond angerddol yw hwn sydd hefyd yn gwneud defnydd da o ieithwedd y tywydd a’r tymhorau, e.e. ‘rhewynt etholiadol’.
Pennill mwy cyffredinol, ond oesol wir, oedd un Meirion Jones, er ei fod e wedi gweld yn dda i newid y teitl:
Rhybudd i Rywun Enwog
Os wyt ti’n teimlo’n bwysig
Â’th bwer yn ddibaid,
Un gair sydd angen arnat
A hwnnw ydi ‘Paid’.
Glannau Menai
Tîm anodd i’w guro ar y gorau yw’r Tir Mawr. Ac mae’r cywydd isod gan Gareth ‘Neigwl’ Williams – a oedd, yn ôl un beirniad, yn ail am y Gadair Genedlaethol ym Mro Morgannwg y llynedd – yn brawf o gryfder mainc beirdd Pen Llŷn. Roedd yn chwith gen i beidio â dewis hwn fel yr un i’w ddarlledu ar y noson, ond ewch i wefan Y Talwrn i , ac fe welwch fy nghyfyng-gyngor.
Mae pysgotwyr LlÅ·n yn ysbrydoli awen Gareth yn amal, ac nid dyma’r cyntaf o’i gywyddau ar Y Talwrn i ddod â seiniau ac oglau unigryw’r cychod a’r dŵr a’r iardiau yn fyw i glustiau a ffroenau’r darllenydd a hynny mewn cynghanedd ffres a diwastraff e.e. ‘Wedi’r pwl dan darpowlin’, a ‘lleuad wen fel swllt o’i ôl’.Ìý Hyfryd hefyd yw’r modd y mae ieithwedd gêr y pysgotwr yn cynnig delweddau iddo, e.e. ’Hel rhwyd i hau chwedlau’r dŵr’.
AilgydioÌý
(Wil, Gwynfa, un o bysgotwyr chwedlonol Abersoch)
Haul ar war, a gwelir o
Hyd wayw am fordwyo
ar y cei, mor fawr â’r coel –
un o’n hogia’ anhygoel.
Wedi’r pwl dan darpowlin,
Hyd yr iard mae gêr i’w drin,
Hel rhwyd i hau chwedlau’r dŵr,
Capten hirben yr harbwr.
Ac yn iau, yn egnïol
Lleuad wen fel swllt o’i ôl,
Hefo’i llwyth fe’i llywia hi
Oesau’n ôl drwy’r sianeli. ÌýÌý
Y Tir Mawr
I glywed rhaglen ddiweddaraf y Talwrn a darllen a chlywed clipiau o'rÌýcerddi ddaeth i'r brigÌýewch iÌýwefanÌý.
- Mwy o f