Main content

Mae’r Gaer yn gryf !

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Wythnos dda os ydych tîm peldroed chi’n dechrau efo’r enw Caer - wel i Gaerdydd a Chaernarfon yn bendant.

Llongyfarchiadau i dîm y brif ddinas ar eu dyrchafiad i Uwchgynghrair Lloegr. Mae’r dyddiau da wedi dychwelyd, a hwyrach fe ddylwn ddweud mai Caerdydd oedd un o’r timau peldroed proffesiynol cyntaf i mi weld erioed yn yr hen Adran Gyntaf.

1957 oedd hi, gem oddi cartref yn Everton, ar y trydydd ar ddeg o fis Ebrill, ond gem ddi-sgor, gyda Chaerdydd yn disgyn allan o’r Adran Gyntaf ar ddiwedd y tymor.

Ond eleni, daeth haul ar fryn a gwawr newydd yma yng Nghymru wrth i ni weld tîm y brif ddinas yn ymuno ac Abertawe ar y lefel uchaf.

Ond, nid dyma’r unig Gaer i lwyddo.

Cipiodd Tref Caernarfon Dlws Cymdeithas Beldroed Cymru  yn dilyn buddugoliaeth  drawiadol o chwe gôl i ddim dros dim Fords Cilfái o gylch Abertawe ar Barc y Sadwrn diwethaf. Yn wir dyma'r fuddugoliaeth orau a gafodd unrhyw dim yn ffeinal y Gwpan yma, a hyn yn mynd yn ôl at gychwyn y gystadleuaeth fel Cwpan Amatur Cymru ers 1891 pan gurodd Wrecsam Victoria dîm tref y  Fflint o bedair gôl i un.

Llongyfarchiadau hefyd i un o aelodau panel Ar y Marc - Ywain Gwynedd, sef capten y Cofis a gafodd y fraint i godi’r gwpan yma,  gan ddwyn atgofion i mi o ddyddiau cynnar peldroed wrth weld Porthmadog yn feistri corn yn y pumdegau

Byddai unrhyw un a gafodd ei fagu ym Mhort yr adeg hynny, ac a diddordeb yn y gêm yn cofio’r dyddiau aur. Enillodd Port y Gwpan Amatur yn 1956 a 57 wrth guro Peritus( tîm a ffurfiwyd o’r ddau goleg ym Mangor) ac yna'r Derwyddon y flwyddyn ddilynol, o bum gol i ddau yn y ddwy gêm, yna colli i dîm y fyddin, 55RA Tonfannau yn y ffeinal yn 1958.Roedd dilyn Port yr adeg hyn fel dilyn Barcelona heddiw - dyma oedd pinacl ein peldroed.

Ond yn ôl at y presennol, ac mae’r arwyddion fod y dyddiau da ar fin dod yn ôl i Gaernarfon a safonau uchel am ail godi yn y Dref.

Clod i'r cannoedd o’r cefnogwyr a deithiodd draw i'r Drenewydd y Sadwrn diwethaf , gyda thim Lee Dixon yn llawn addewid, ac yn cynnig gobaith newydd am ddyfodol disglair.

Ond tydi’r tymor ddim drosodd gyda dyrchafiad i gynghrair Huws Gray Gogledd Cymru yn flaenoriaeth.  Yn y cyfamser llongyfarchiadau iddynt ar gipio'r tlws cenedlaethol. Pwy a ŵyr na fydd y Canaries yn canu unwaith eto ac yn parhau ymlaen yn llwyddiannus ar eu siwrnai yn ôl i Uwchgynghrair Cymru o fewn y blynyddoedd nesaf ? Ac mae’r Adar Gleision yn sicr o fod yn canu’n uchel wrth iddyn nhw edrych ymlaen i chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr – pob lwc iddyn nhw’n wir.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Pigion i ddysgwyr: Geirfa 09 Ebrill 2013