Main content

Betsan Powys yn edrych ymlaen at bennod newydd

Newyddion

Wrth i fore Llun, Mawrth 10, dyma'r Golygydd Rhaglenni, Betsan Powys yn edrych ymlaen at bennod newydd.

Pan ddaw bore Llun, fe fydd pethau鈥檔 newid ar Radio Cymru. Fe fydd rhai lleisiau鈥檔 mynd, eraill yn dod ac ambell lais cyfarwydd iawn yn trio rhywbeth newydd sbon.

I ddechrau felly, diolch. Diolch i鈥檙 lleisiau sydd wedi bod yn gwmni i fi ac i chi dros y blynyddoedd diwethaf. Diolch i Dafydd a Caryl, i Iola a Nia am bopeth maen nhw wedi鈥檌 roi i Radio Cymru, am eu holl raglenni a chyfraniadau. Mae鈥檙 gwrandawyr wedi cael cyfle i ddweud diolch o galon, a dyma nghyfle i felly i wneud yr un peth. Diolch - a diolch am bob cyfraniad eto i ddod yn y dyfodol.

Diolch hefyd i Heledd Cynwal a John Hardy sydd wedi camu i鈥檙 orsaf dros dro - gyda steil. Fyddan nhw鈥檔 sicir ddim yn ddieithr.

Y sylw dwi wedi鈥檌 glywed amlaf am Radio Cymru yw un sy鈥檔 swnio鈥檔 llawn cydymdeimlad. 鈥淒oes dim modd i chi fod yn bopeth i bawb鈥 ac eto, dyna beth y鈥檔 ni鈥檙 Cymry鈥檔 ei ddisgwyl gan Radio Cymru. 鈥淎llwch chi ddim ennill,鈥 meddai sawl un. Ond y feirniadaeth oedd ein bod ni鈥檔 dal i drio bod yn bopeth i bawb trwy鈥檙 amser ac felly鈥檔 cynnig gormod o鈥檙 un peth i鈥檙 un gynulleidfa, yr un math o sgyrsiau, yr un math o gerddoriaeth, yn anelu gormod i gyfeiriad un math o wrandawr.

O ddydd Llun ymlaen fydd hynny ddim yn wir. Y nod fydd peidio bod yn bopeth i bawb ond i gynnig rhywbeth i bawb ryw ben bob dydd. Fe fydd rhai鈥檔 ffafrio rhaglen lawn dop Dylan Jones ar 么l y Post Cyntaf yn y bore, eraill yn edrych ymlaen i ymuno鈥檔 y sgwrs a ch芒n ar Bore Cothi gyda Sh芒n Cothi, eraill yn mwynhau dadl ddifyr, bigog weithiau ac ymateb bywiog ar ein rhaglenni newydd sbon ni amser cinio ac ar Taro鈥檙 Post fydd yn fyw am un. Ddaw eraill ddim at Radio Cymru tan bod Tommo o ddydd Llun i ddydd Iau a Tudur Owen ar ddydd Gwener yn rhoi tan 鈥檇ani yn y pnawn falle.

Ond mi fydd pawb sydd ar yr orsaf yn hoff lais i rywun, gobeithio, a鈥檙 gwir yw bod lle iddyn nhw i gyd ar orsaf sy鈥檔 falch o gael bod yn Llais Cymru.

Fe fydd un llais newydd iawn i鈥檞 glywed. Guto Rhun, o Fachynlleth yn wreiddiol, yw鈥檙 cyntaf o鈥檙 criw talentog a brwdfrydig ddaeth i鈥檙 golwg drwy鈥檔 hymgyrch 鈥楥ais am Lais鈥 i gael ei glywed yn gyson ar yr awyr. Os ydych chi鈥檔 un o鈥檙 criw sy鈥檔 dod ar draws Radio Cymru ar y daith ysgolion ac yn barod i roi cynnig ar wrando mwy, yna mi fydd Guto ar yr awyr am awr bob nos Lun a nos Wener am 9.

Gobeithio byddwch chi i鈥檆h clywed ar yr orsaf yn gyson hefyd. Ry鈥檔 ni鈥檔 anelu i siarad am y pethau sy鈥檔 berthnasol i chi, dathlu penblwyddi, genedigaethau a llwyddiannau gyda chi - a bob nos am 6, fe fydd un o鈥檔 gwrandawyr ni鈥檔 dethol Fy Rhaglen I. Nhw fydd yn dewis eu hoff bytiau o sgyrsiau, straeon a chaneuon i鈥檞 rhannu 芒 chi.

Mi fyddwn ni鈥檔 darlledu bob dydd yn ystod yr wythnos o Fangor, Aberystwyth, Caerfyrddin, Abertawe a Chaerdydd - dipyn o gamp. Mi fyddwn ni鈥檔 ymdrechu i ymweld 芒鈥檆h ardal chi鈥檔 amlach. A byddwn, mi fyddwn ni鈥檔 ceisio ehangu ap锚l Radio Cymru, yn ceisio denu pobol sy鈥檔 osgoi gwrando ar y radio鈥檔 Gymraeg, sy鈥檔 clywed nemor ddim cerddoriaeth Gymraeg o gwbwl, i wrando arnon ni. Ond roedd eich neges chi鈥檔 glir: gorsaf ddylai chwarae cerddoriaeth Gymraeg yn bennaf yw Radio Cymru. A dweud y gwir, fe fyddai croeso mawr i fwy o gerddoriaeth Gymraeg, hen a newydd a gwirioneddol amrywiol arni. Falle bod lle i beth cerddoriaeth Saesneg hwnt ac yma, meddech chi, ond dim gormod. Felly bydd hi.


Pan ddaw bore Llun, pob hwyl i鈥檙 criw i gyd fydd yn rhan o Radio Cymru - i bob un llais fydd arni, i bob un fydd y tu 么l i鈥檙 gwydyr yn trefnu a hybu - a diolch i chi, bob un, fydd yn gwrando. Ac unwaith eto, falle bod y Sgwrs ffurfiol ar ben bellach ac amserlen newydd yn ei lle, ond fe fydd Radio Cymru'n parhau i wrando, ac fe fydda i'n parhau i drafod gofidiau - a chanmoliaeth, gobeithio - gyda'r criw i gyd.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Arwydd A Star Gareth Bale

Nesaf