Main content

Pigion i Ddysgwyr - Geirfa 22 Mai 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Taro'r Post - Cancr y fron
Ìý
codi'r fron - to remove a breast
darganfod - to discover
arolwg - inspection
canlyniadau - results
cael gwared ar - to get rid of
gwaredu - to get rid of
gwe yn hel - a web spinning
triniaeth - treatment
celloedd - cells
bob enw dan haul - every name under the sun
Ìý
...efo eitem o Taro'r Post ddydd Mercher oedd yn trafod y newyddion bod Angelina Jolie wedi dewis codi ei dwy fron oherwydd y risg o gancr. Cafodd Gari Owen sgwrs efo Olwen Jones o Ddinas Mawddwy, oedd wedi diodde o gancr y fron. Be oedd ei phrofiadau hi, a be oedd hi'n feddwl o benderfyniad Angelina Jolie?
Ìý
Post Cyntaf - Tom Edwards
Ìý
prawf gyrru - driving test
gwendidau - weaknesses
trafferthion - problems
mentro - to venture
anghenrheidiol - necessary
dawn - ability
profi - to prove
ffurflen - form
rheilffordd - railways
llawn o lo - full of coal
Ìý
Olwen Jones yn fan'na yn rhannu ei phrofiadau efo gwrandawyr Taro'r Post. At y Post Cynta rwan, ac mi gafodd David Grundy sgwrs efo dyn ifanc am sefyll prawf gyrru. Wel, ddim mor ifanc â hynny, wythdeg saith, nid undeg saith ydy Tom Edwards o Riwbina, Caerdydd. Mae'n bosib y bydd yn rhaid iddo fo ail-sefyll ei brawf gyrru oherwydd ei oedran. Be oedd o'n feddwl o hynny tybed?
Ìý
Cofio - John Cwmbach
Ìý
cymuned - community
canrif - century
dan y ddaear - underground
trigian a phump - chwedeg pump
crwt - bachgen
mas - allan
yn cynyddu - to increase
wech - chwech
yr hen oruchwyliaeth - the old hierarchy
saethu'r glo - exploding (firing) the coal
Ìý
Llais, a meddwl, ifanc Tom Edwards yn fan'na. Ac ar Cofio ddydd Sadwrn mi gaethon ni glywed llais dyn arall o Dde Cymru oedd wedi cael bywyd hir, ac wedi gweld newidiadau mawr yn ystod ei fywyd. Llais John Evans, Cwmgors, neu John Cwmbach,y byddwn yn ei glywed mewn munud. Dyma fo'n sôn wrth Eic Davies am ei waith fel glöwr yn Mil Naw Dim Naw, ac am y newidiau welodd o ym myd ei waith, ac yn ei gymuned, yn ystod dauddegau a thridegau'r ganrif ddiwetha.
Ìý
Straeon Bob Lliw - Streic y Penrhyn
Ìý
chwarelwyr - quarrymen
llond bol - a gutsful
cynffonwyr - sycophants/crawlers
tlodi - poverty
gorfodi - to enforce
drwgdeimlad - ill feeling
gwahoddiad - invitation
ymwybodol iawn - very aware
bradwr - traitor
arwisgo - investiture
Ìý
"Wel dyna i chi ddarlun clir ynde, o fywyd ym mhyllau glo'r de ers stalwm, ac ar Straeon Bob Lliw mi glywon ychydig o hanes ardaloedd chwareli'r gogledd ddechrau'r ganrif ddiwetha. Streic Fawr Chwarel y Penrhyn, Bethesda, Dyffryn Ogwen oedd dan sylw ac mi gaeth Neil ‘Maffia’ Williams sgwrs efo Dafydd Morris, Dafydd Rowlands, Dafydd Roberts a Brenda Wyn Jones am y streic ac am yr effaith gafodd honno ar gymunedau Dyffryn Ogwen"
Ìý
Georgia Ruth - Short & Curlies
Ìý
sbel yn ôl - a while ago
sbarduno - to inspire
cerddorion - musicians
offer - equipment
yn y bôn - essentially
amrwd - raw
profiad - experience
yn gyffredin - in common
rhyddhau - to release
cydweithio - to collaborate
Ìý
"Wel dyna straeon diddorol o'r gorffennol da ni wedi eu clywed heddiw 'ma ynde? Ond dan ni'n gorffen yn yr oes fodern efo'r Short & Curlies. Ia, dyna be ddwedais i - y 'Short & Curlies'. Grwp o gerddorion ydyn nhw sydd newydd ryddhau albwm newydd. Mi gafodd Georgia Ruth air efo un o aelodau'r band Euros Childs am yr albwm. A'r cwestiwn cynta oedd pwy arall sy yn y band? ..."

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Wrecsam yn Wembley