Main content

Merch yn dyfarnu

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Y Sadwrn diwethaf, gwelwyd cwys newydd yn cael ei dorri wrth i Amy Fearn ddyfarnu gem y rownd gyntaf Cwpan Lloegr rhwng Corby Town a Dover Athletic .

Mae Ms Fearn eisoes wedi creu hanes fel y ferch gyntaf i ddyfarnu gem yng nghynghrair Lloegr . Mewn gem rhwng Coventry City a Nottingham Forest yn 2010, yn dilyn ar anaf i'r dyfarnwr, Tony Bates, bu rhaid i Ms Fearn a oedd yn gweithredu fel cynorthwraig, gymryd yr awennau, a chreu hanes yn y broses.

Gyda merched yn dod chwarae rhan llawer mwy amlwg yn y gem,Sian Massey hefyd yn gweithredu fel cynorthwy-wraig yn Uwchgynghrair Lloegr, tybed pryd y cawn weld merch yn dyfarnu yn Uwch Gynghrair Cymru?

Mae pêl droed merched yn datblygu'n gyflym yng Nghymru gyda chystadleuaeth gwledydd Ewrop i ferched wedi cael ei gynnal yn ne Cymru eisoes eleni.

Mae Uwch Gynghrair y merched hefyd yn ei ail dymor, a tybed pa mor agos yr ydym o weld hanes yn cael ei greu wrth gael merch i ddyfarnu yn Uwch Gynghrair y dynion neu yng Nghwpan Cymru ?

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pigion i Ddysgwyr: 07 Tachwedd 2013

Nesaf

Pigion i Ddysgwyr - 12 Tachwedd 2013