Main content

Pigion i Ddysgwyr - 12 Tachwedd 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Derfel a Caryl - Iestyn Jones

archeologwr - archeologist
cof cenedl - national memory
ymdopi - to cope
dihiryn - villain
deniadol - attractive
carchar - prison
cyhyd â - as long as
yn gyfarwydd â - familiar with
doethuriaeth - doctorate
canol oesoedd cynnar - early middle ages

"...archeolegwr enwog. Wel does na ddim llawer o'r rheini o gwmpas nagoes? Ond nid fel archeolegwr mae Iestyn Jones yn enwog ond fel yr actor oedd yn cymryd rhan Ieuan Griffiths yn Pobol y Cwm. Buodd o'n actio rhan Ieuan am undeg wyth o flynyddoedd. Pam felly ei fod o'n sôn am archeoleg efo Derfel a Caryl ddydd Mawrth? Dyma Iestyn yn esbonio popeth..."


Straeon Bob Lliw - ceir clasurol

shwd gimint (gymaint) - so much
pwyllgor - committee
hala mas - anfon allan
dodi - rhoi
sbri - hwyl
ymuno â - to join
meddwl y byd o - to think the world of
rhwd - rust
rhwto - rhwbio

"Derfel yn cadw sedd Dafydd yn gynnes yn fan'na ac Iestyn yn sôn am donnau mawr Aberystwyth. Cawn ni glywed mwy o hynny yn nes ymlaen. Ond rwan dan ni'n mynd i gael clip bach llawer mwy sydêt. Dim mwd yr archeolwr, na thonnau gwyllt na chynghorwyr drwg. Na, steddwch yn ôl a gwandewch ar Maryl Bradley a'i ffrindiau yn sôn am eu diddordeb mawr nhw mewn ceir clasurol. Geraint Lloyd oedd yn sgwrsio efo nhw ar raglen Straeon Bob Lliw. Mwynhewch y cipolwg yma ar fyd bach arall... "


Cofio - Seren y Gogledd

cylchgrawn - magazine
Gwlad yr Iâ - Iceland
lluoedd arfog - armed forces
cyfraniadau - contributions
cyfnodolion - journals
cylchrediad - circulation
gwerthfawrogi - appreciate
is-lywyddion - vice-presidents
dieithriaid - strangers
cyntefig - primitive

"Dan ni'n mynd i aros efo hen bethau rwan, nid ceir y tro yma ond cylchgrawn. Taswn i'n gofyn i chi enwi cylchrawn Cymraeg dw i'n siwr na fasech chi'n enwi 'Seren y Gogledd' na fasech? Faswn i ddim yn disgwyl i chi wneud mewn gwirionedd gan mai cylchgrawn Cymraeg Gwlad yr Iâ oedd 'Seren y Gogledd'. Ia, dyna ddwedes i, Gwlad yr Iâ! Dydy o ddim i'w gael rwan cofiwch - cylchgrawn oedd hwn i'r lluoedd arfog oedd yng Ngwlad yr Iâ adeg y rhyfel. Ar 'Cofio' ddydd Sadwrn clywon ni hen glip o Harri Gwyn yn siarad efo E H Williams am y cylchgrawn"


Stiwdio - Ty'r Cyffredin

eitha brawychus - quite frightening
cymryd yn ganiataol - taking for granted
Ty'r Arglwyddi - House of Lords
cyfweliadau - interviews
cerfluniau - sculptures
dim modd osgoi - no way of avoiding
efydd - bronze
haniaethol - abstract
dehongli - to interpret
atgyweirio - to repair

"Diddorol ynde? ... Tasech chi eisiau clywed mwy o'r clipiau yma cerwch i wefan www.bbc.co.uk/radiocymru a chlicio ar dudalen Cofio. Dan ni wedi hen arfer, yndo, i weld eitemau newyddion yn dod o'r senedd yn Llundain, efo'r gohebwyr ar y lawnt, neu'r Green, y tu allan i'r Ty Cyffredin yn torri newyddion brys i ni. Faint ohonoch chi sydd wedi sylwi ar y celf sydd i'w weld yn y cefndir? Ar stiwdio ddydd Iau buodd gohebydd gwleidyddol y Â鶹ԼÅÄ, Elliw Gwawr, yn sgwrsio efo Llyr Gwyn Lewis am gelf Ty’r Cyffredin a sôn ychydig am rhai o’i hoff ddarnau hi."Ìý
Ìý

Post Prynhawn - Stormydd

tywod - sand
troedfeddi - feet (mesur)
sgubo - sweeping
anferth - huge
dim niwed - no harm
llathenni - yards(mesur)
yn drwch - thick
wedi cael ei chwalu - destroyed
yn ei hanterth - at its peak
difrod - damage

"Pum miliwn o bunnoedd am gerflun? Meddyliwch y ffys tasai arian fel'na yn cael ei wario yn ein senedd ni yng Nghaerdydd! Mi glywon ni Iestyn Jones gynna' fach yn sôn am donnau Aberystwyth. Weloch chi rai o'r lluniau o'r storm wythnos diwetha? Anhygoel!. Mi gaeth y ffotograffydd Keith Morris ei ddal yng nghanol y storm wrth iddo fo drio tynnu lluniau o'r tonnau enfawr. Mi gafodd y gohebydd Craig Duggen sgwrs efo fo ar Post Prynhawn ddydd Llun. Mi glywn ni hefyd gan David Evans oedd yn aros mewn carafan yn yr ardal yn ystod y storm. Os dach chi eisiau gweld video o’r don yn taro'r prom cerwch i wefan newyddion Â鶹ԼÅÄ Cymru. Dyma Keith Morris i gychwyn..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Merch yn dyfarnu

Nesaf

Y Rhyl v Cei Cona