Main content

Pigion i Ddysgwyr: 07 Tachwedd 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Dei Tomos - J Glyn DaviesÌý

Amgueddfa Forwrol - Maritime Museum
pregethwr enwog - famous preacher
marsiandwr te - tea merchant
cefnog - rich
trol a mul - cart and donkey
digwydd ei weld - happened to see him
rhoi ei fryd ar - set his heart on
peiriannydd - engineer
addasu - to adapt
cael a chael - touch and go

"...dach chi wedi clywed y gân Fflat Huw Puw o gwbl? Cân am forwr ydy hi ac mae hi wedi bod yn boblogaidd iawn yng Nghymru ers blynyddoedd. Dyn o'r enw J Glyn Davies sgwennodd y gân ac mi fuodd o farw chwedeg o flynyddoedd yn ôl. Cafodd gwyl arbennig ei chynnal wythnos diwetha i gofio amdano fo, ac ar raglen Dei Tomos nos Sul mi glywon ni Meinir Pierce Jones o Amgueddfa Forwrol Llyn yn rhoi ychydig o'i hanes. Dyma i chi flas ar y sgwrs..."


Cofio - Rhyfel Cartref Sbaen

rhyfel cartref - civil war
pyllau glo - coal mines
pentref gwleidyddol - a political village
cymhelliad - motivation
tafell o fara - slice of bread
undebau llafur - trade unions
Y Weriniaeth - The Republic
unigolyn - individual
carcharor - prisoner
dedfryd o farwolaeth - death sentence

"Dyna hanes diddorol J Glyn Davies, ac nid am Fflat Huw Puw yn unig roedd o'n enwog naci? Mi arhoswn ni efo hanes rwan, hanes gwahanol iawn a dweud y gwir - hanes o ryfel cartref Sbaen. Ar Cofio wythnos diwetha mi glywon ni'r Athro Prys Morgan yn sgwrsio efo Jack Roberts o Abertridwr a Tom Jones o Shotton am eu rhan nhw yn y rhyfel, yn ymladd efo'r ‘International Brigade’. Roedd y sgwrs wreiddiol yn rhan o gyfres ‘Roeddwn i yno’ gafodd ei chlywed gynta ym mis Ebrill Mil Naw Saith Pedwar."


Daf a Caryl - Y Gwyll

yn benderfynol - determined
cyferbyn â - opposite
ysbrydoli - to inspire
braint - privilege
yn gadarn - solid
mas - allan
cymeriad - character
cymdeithasu - socialising
ymateb - response
manylder - detail

"Wel dyna i chi ddau oedd yn benderfynol o gyrraedd Sbaen ryw ffordd neu'i gilydd ynde? A tydy hi'n braf ein bod ni'n medru clywed yr hanesion yma gan rai oedd yn medru dweud ' Roeddwn i yno'? Wel doeddwn i ddim yn y stiwdio ddydd Mawrth a Derfel oedd yn cadw cwmni Caryl ar raglen Daf a Caryl, ac mi gaeth y ddau ohonyn nhw sgwrs efo'r actor Richard Harrington. Rwan, os nad ydych chi wedi clywed am gyfres newydd S4C, Y Gwyll, mae'n rhaid eich bod chi'n byw ar blaned arall! Richard Harrington sy'n chwarae rhan prif gymeriad y ddrama sef y detectif Tom Matthias. Sut brofiad oedd bod yn rhan o'r ddrama tybed...?"


Nia Roberts - CofisÌý

cas le - least favourite
y diawl lle - damn place
nid fy mai i - not my fault
gelyniaeth - emnity
cwffio - ymladd
affliw o ddim - absolutely nothing
twyllo dy hun - kidding yourself
tynnu arna ti - winding you up
yn sgil - as a consequence
tueddiad - tendency

"Cofiwch, mae y Gwyll i'w gweld pob nos Fawrth a nos Iau am hanner awr wedi naw ac yn cael ei ail-ddangos efo is-deitlau nos Sul. Tasai gynnoch chi ddiddordeb mewn pêl-droed mi fasech chi'n gwybod nad oes yna berthynas rhy dda rhwng dinasoedd Caerdydd ac Abertawe. Ond wyddech chi fod sefyllfa debyg yn bodoli rhwng Bangor a Chaernarfon. Wel, yn ôl Emrys Jones beth bynnag, ac mi ddylai fo wybod gan ei fod newydd ysgrifennu llyfr am Gaernarfon o'r enw 'Stagio Dre'. Dyma Emrys yn siarad efo John Hardy sy'n dod o...ia, dach chi'n iawn - o Fangor... "

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Gwireddu Breuddwyd yn y Bernabeu

Nesaf

Merch yn dyfarnu