Main content

Ar Y Marc: Bae Colwyn a Tref Merthyr

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Byddai buddugoliaeth yn erbyn Brackley'r Sadwrn diwethaf wedi codi Bae Colwyn o fod o fewn tri phwynt at safle gemau’r ail gyfle.

Ond er waethaf y gêm gyfartal, un gôl yr un, mae’r canlyniad wedi ymestyn rhediad y Bae i wyth gem heb golli oddi cartref y tymor yma. A gyda Guiseley yn colli yn eu gem hwy oddi cartref yn Barrow, gweler y tîm Frank Sinclair fel yr unig un sydd heb golli ar eu teithiau yn Adran y Gogledd o Gynghrair y Gyngres .

Ar y cyfan roedd canlyniadau eraill y timau sydd yn cystadlu tua brig y tabl gyda'r Bae yn ffafriol iawn, gyda phedwar o’r wyth uchaf yn colli). Daw'r canlyniad yma a gobaith newydd i'r Bae, ac er eu bod yn y deuddegfed safle does ond pum pwynt rhyngddynt a Hednesford yn y pumed safle.

Dwedodd y rheolwr, sef cyn amddiffynwr Chelsea , Frank Sinclair, fod y mis nesaf y mynd i fod yn un allweddol. Bydd gem gartref yn erbyn Bradford Park Avenue, sydd bedwaredd o’r gwaelod, y Sadwrn yma, yn cael ei ddilyn gan gemau yn erbyn Gainsborough Trinity ( chweched o'r gwaelod) , Dinas Caerloyw (trydydd o'r gwaelod) a Thref Harrogate ( sydd ar hyn o bryd ond un pwynt yn is na Bae Colwyn yn y gynghrair) .

Cyfle felly i ddilynwyr Bae Colwyn edrych ymlaen am fis llwyddiannus a fyddai yn rhoi hwb go iawn i'w gobeithion dros y gaeaf.

Draw yn y de, llwyddodd Tref Merthyr i guro Cirencester yn nhlws cymdeithas bel droed Lloegr, o ddwy gol i ddim, diolch i gôl agoriadol Gavin Williams ar ôl pum munud, foli wych o ugain llath a hedfanodd i mewn i gornel uchaf y gol.

Parhaodd Merthyr i ymosod gyda Kerry Morgan ac Ian Traylor yn dod a’r gorau allan o'r golwr Glyn Garner yn y gôl i’r ymwelwyr. O fewn naw munud i gychwyn yr ail hanner, llwyddodd Jarrad Wright i ddyblu mantais Merthyr, cyn i Kayne McLaggon weld ei gynnig yn cael; ei arbed unwaith eto gan Garner( cyn golwr Llanelli a Chasnewydd) unwaith eto.

Bydd Merthyr oddi cartref yn y rownd nesaf, yn Slough ar y pymthegfed o Dachwedd.

Dychweled i fyd y gynghrair ar Barc Penydarren yn erbyn Tref Wantage fydd y Merthyron y Sadwrn yma yn Adran un - rhanbarth y de a’r gorllewin o gynghrair de Lloegr. Gyda Merthyr yn yr ail safle fe ddylai tri phwynt arall ddod ger eu bron gyda'r ymwelwyr yn y trydydd safle o’r gwaelod ac ond wedi ennill tair gwaith y tymor yma.

Daeth Merthyr mor agos i ennill dyrchafiad y tymor diwethaf, ac yn ôl eu canlyniadau hyd yn hyn y tro yma, does ddim amheuaeth gen i na fydd y tîm yn cystadlu ar ddyrchafiad i Uwch Gynghrair De Lloegr eto erbyn diwedd y tymor.

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Tim dan 16 Cymru v Lloegr

Nesaf