Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Tachwedd 4, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.


Bore Cothi - "Y Llys"

gwaelod y rar (yr ardd) - bottom of the garden
drewi'n iawn - really stinking
ogla - stench
(mi) greda i - I bet (lit: I believe)
yn weddol gyflym - quite quickly
gwisg - costume
llawes - sleeve
modrwyau - rings
gwastraffu - to waste
coelia di fi - believe me

Teulu crand iawn - y teulu Griffiths, dad Michael, mam Heather, a’r plant, Mathew, Helena, Esme ac Anna. Ia, dyma i chi deulu sy'n gwisgo dillad drud, ac yn byw yn dda mewn plasdy mawr. Ond dydy nhw ddim yn deulu crand go iawn. Maen nhw'n byw yn Sarn ger Pwllheli fel arfer, ond buon nhw'n cymryd rhan yng nghyfres newydd S4C "Y Llys". Roedd rhaid iddyn nhw smalio, neu esgus, eu bod nhw'n deulu cyfoethog o oes y Tuduriaid oedd yn byw yn Llys Tretwr ym Mhowys. Felly sut beth oedd byw mewn plasdy mawr? Dyma'n nhw'n sôn am eu profiadau wrth Shan Cothi...

Geraint Lloyd - Morwr

llong - ship
brysneges - telegram
hala - to send
rhegi - swearing
uffern - hell
englyn - a type of poem
ein harddegau - our teenage years
y dirwasgiad - the depression
so ti - dwyt ti ddim
magwraeth - upbringing

Ych a fi, yndoedd y ty bach yna'n swnio'n ofnadwy? Ac mae 'Y Llys i'w weld ar S4C bob nos Sadwrn am chwarter wedi chwech, cofiwch wylio. Er nad ydy John Meirion Jones yn byw mewn plasdy, mae o'n aelod o deulu enwog iawn yng Nghymru - Teulu'r Ciliau. Ond enwog am feridd fel Dic Jones a nofelwyr fel T Llew Jones mae'r teulu hwnnw ac nid am eu harian! Morwr oedd tad John Meirion Jones ac yn y dyddiau pan oedd John Meirion yn blentyn, ychydig iawn oedd morwyr yn eu gweld o'u teulu. Ond mi roedd John yn cofio digon o hanesion ei dad i'w rhannu efo Geraint Lloyd nos Fawrth diwetha....

Geraint Lloyd - Shiligabwd

shiligabwd/yr hen wr - clematis vitalba /old man's beard
mam-gu - nain
arogl - smell
cilion - flies
llaethdy - dairy
sbrigyn - twig
bwdyn - bud
llwyn - bush
trigo - to die ( dialect)
telyneg - lyric

John Meirion Jones o Flaencelyn yn fan'na yn cofio bywyd ei dad fel morwr, a dyna chi wedi cael clywed englyn Saesneg yn ogystal! Arhoswn ni rwan efo'r un sgwrs rhwng Geraint Lloyd a John Meirion, gan eu bod wedi mynd â ni i gyfeiriad cwbl wahanol. Wyddoch chi be ydy 'shiligabwd'. Na? Na finna chwaith. Bydd popeth yn cael ei ddatgelu yn y clip nesa ma...

Ìý

Hawl i Holi - Eisteddfod yr Urdd

denu'r di-Gymraeg - to attract the non Welsh speakers
talcen caled - a difficult patch
gweithgareddau - activities
ymgyrch - campaign
sefydliad - establishment
Gwyl Ieuenctid - Youth Festival
ar y ffin - on the border
alltud - on the outside
ennyn - to kindle
ymfalchio - to be proud of

Wel dyna fo, dan ni'n gwybod rwan yntydan - planhigyn ydy Shiligabwd - enw da ynde? Awn ni o Flaencelyn yng Ngheredigion rwan yr holl ffordd i Sir y Fflint. Mi fydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yno flwyddyn nesa ac ar raglen Hawl i Holi efo Dewi Llwyd roedd gan Annabell Knowsley gwestiwn i'r ddau oedd ar y panel sef Tudor Jones a Dr. Mair Edwards. Cwestiwn Annabell oedd beth fydd effaith yr Eisteddfod ar y Gymraeg yn Sir Fflint. Cwestiwn da, a dyma oedd atebion y panel...

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Ar Y Marc: Bae Colwyn a Tref Merthyr

Nesaf