Main content

Tim dan 16 Cymru v Lloegr

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Heno, nos Wener caiff ddilynwyr pêl droed ardal gyfle i weld gêm ryngwladol ar Stadiwm y Book People draw yn Nantporth. Bydd tîm Cymru o dan un ar bymtheg oed, o dan reolaeth Osian Roberts, yn wynebu Lloegr, yng ngem agoriadol cystadleuaeth y Victory Shield.

Cystadleuaeth ydi hon a gafodd ei sefydlu yn wreiddiol fel cystadleuaeth i dimau rhyngwladol, i chwaraewyr o dan bymtheg oed, ysgolion gwledydd Prydain, gyda Gogledd Iwerddon a’r Alban hefyd yn cymryd rhan.

Yr Alban ydi deiliad y darian ar hyn o bryd a bydd angen mynd yn ôl i 1948 i nodi pryd y llwyddodd Cymru i gipio'r bencampwriaeth. Fodd bynnag daethpwyd yn agos yn nhymor 2005-6 pan rannwyd y darian rhwng Cymru a Lloegr.

Daw Cymru i'r gêm yn llawn hyder yn dilyn dwy fuddugoliaeth wych yn olynol yn niwedd Medi , yn erbyn Ffrainc; 2-1 i Gymru yn y gêm gyntaf ac yna buddugoliaeth o un gôl i ddim deuddydd wedyn.

Yn dilyn y gêm yma ym Mangor, bydd dwy gêm nesaf Cymru oddi cartref , yn yr Alban ar Dachwedd 7fed, yna yn yr Alban bythefnos yn ddiweddarach. Cyfle da i gefnogwyr pêl droed gogledd Cymru weld sêr y dyfodol ar drothwy eu cartrefi.

Dros y blynyddoedd, gwelodd y tîm ysgolion chwaraewyr fel Ian Rush, Kevin Ratcliffe, a Craig Bellamy yn denu sylw’r clybiau mawr, ac yn fwy diweddar mae Aaron Ramsey wedi chwarae i'w wlad o dan y drefn newydd .

Yn y dyddiau cynnar roedd lleoliad yr ysgol yr oeddych yn ei fynychu yn cael ei benderfynu fel sail i adnabod pa wlad yr oeddych yn gymwys i’w gynrychioli.

Golyga hyn fod Ryan Wilson, disgybl mewn ysgol ym Manceinion, wedi chwarae i ysgolion Lloegr yn ôl yn 1989. Ond drwy ddewis chwarae i wlad ei rieni a gwlad ei enedigaeth, dewisodd Ryan Giggs gynrychioli Cymru.

Erbyn heddiw, mae chwaraewyr yma, sydd yn cael eu dewis ar gyfer y tîm rhyngwladol o dan un ar bymtheg oed yn mynychu ysgolion o fewn Lloegr a Chymru, ac mae’r meini prawf ar gyfer cymhwyso yn rhyngwladol yr un fath iddynt hwy ac unrhyw chwaraewr arall, sef man geni neu berthynas teuluol.

Ond, bydd popeth yn cychwyn i’r garfan bresennol nos heno ma, yn Nantporth.

Cymru yn erbyn Lloegr, a’r gic gyntaf am saith o'r gloch.

Mynediad yn bum punt i oedolion gyda phobol ifanc o dan un ar bymtheg oed yn cael mynediad am ddim.

Gobeithio am ganlyniad da achos bydd Kieran Proctor a Kieran Evans yn siarad am y gem ar Ar y Marc bore fory rhwng 0830 – 0900.

Cyfle bendigedig i weld sêr y dyfodol.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - Hydref 30, 2014

Nesaf

Ar Y Marc: Bae Colwyn a Tref Merthyr