Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 21/07/2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. 

Rhaglen Dylan Jones - Tae Kwondo

pencampwraig y byd - world champion
llongyfarchiadau - congratulations
ymladd - fighting
y fedal aur - the gold medal
ffyrnig - fierce
rheoli - to control
disgyblaeth - discipline
hwb - a boost
Ariannin - Argentina 
yn freintiedig iawn - very privileged 

...sgwrs efo pencampwraig y byd mewn Tae Kwondo. Gwenno Hopkins ydy ei henw hi, mae hi'n dod o Gaerdydd a dim ond deg oed ydy hi. Dydd Llun mi fuodd hi'n siarad efo Dylan Jones am y gystadleuaeth enillodd hi. Dyma i chi flas ar y sgwrs...

Geraint Lloyd - Blaenau Ffestiniog

diwydiant llechi - slate industry
noddedig - sponsored
llawdriniaeth - surgery 
achubodd ei bywyd hi - saved her life 
casglu - to collect 
atyniad poblogaidd - popular attraction
gelltydd mawr - big hills 
tymor ymwelwyr - tourist season
ychwanegu - to add 
danddaear - underground 

Doedd hi ddim yn swnio'n ferch ffyrnig o gwbl, nac oedd? Gwenno Hopkins oedd y siarad efo Dylan Jones yn fan'na, pencampwraig Tae Kwondo'r byd, a hithau ond yn ddeg oed. Ychydig o hanes Blaenau Ffestiniog gawn ni nesa. Mae Blaenau yn enwog am y glaw wrth gwrs, ond hefyd am y diwydiant llechi. Ond erbyn heddiw dydy'r diwydiant hwnnw ddim digon cryf i fedru cynnal y gymuned. Beth felly sy'n dod â phres, neu arian, i mewn i'r dref? Vivian Parry Williams fuodd yn dweud wrth Geraint Lloyd am rai o'r pethau cyffrous iawn sydd i'w gweld ym Mlaenau y dyddiau hyn... 

Bore Cothi - Llais y dyfodol

llais y dyfodol - the voice of the future
beirniadaeth - adjudication
cynulleidfa - audience
cystadlaethau mawreddog - prestigious competitions
ymarfer - to practice/rehearse 
datblygu - developing 
arddulliau - styles
ysgoloriaeth - scholarship
braint - a privilege
diweddu gyrfa - to bring a career to an end

Roedd y sgwrs yna gyda llaw yn rhan o eitem rheolaidd ar raglen Geraint Lloyd 'Ar y Map' lle mae gwrandawyr yn dyfalu enw lle ar ôl cael tri o gliwiau. Arhoswn ni yn y gogledd rwan i ni gael clywed gan Lais y Dyfodol. Meinir Wyn Roberts ydy'r llais hwnnw, a dyna oedd y teitl enillodd hi yn Eisteddfod Llangollen wythnos diwetha. Ond nid dyma'r unig gystadleuaeth mae Meinir wedi ei hennill, fel y buodd hi'n egluro wrth Shan Cothi ddydd Mercher... 

Caryl - Bromance

cyfarwyddwr - director
dyfeisio - to invent 
gwylltiodd e - he lost his temper
cetyn - pipe 
ffraeo - to argue
cael cam - to suffer a wrong
amddiffyn - to defend 
digio - to be upset (with someone)
esgeuluso - to neglect 
llacio'r tafod - loosen the tongue


...a dw i'n siwr byddwn ni'n clywed llawer mwy am Meinir yn y dyfodol. Dan ni'n aros ym myd adloniant am y clip nesa. Sgwrs am 'bromance' sydd yma, ella mai 'bramant' ydy'r gair Cymraeg am hynny! Mi gafodd Caryl Parry Jones sgwrs ddifyr iawn am hyn efo'r actor Ieuan Rhys a Terry Dyddgen Jones, fuodd yn cyfarwyddo Coronation Street. Mwynhewch y sgwrs... 

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Canmoliaeth i adnoddau'r Cae Ras, Wrecsam

Nesaf

Torfeydd yr Haf