Main content

Canmoliaeth i adnoddau'r Cae Ras, Wrecsam

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yn NhÅ·’r Arglwyddi yn Llundain yr wythnos diwethaf rhoddodd y Farwnes Tanni Grey-Thompson ganmoliaeth enfawr am yr hyn a alwodd hi’n waith anhygoel a wnaed gan Glwb Pêl droed Wrecsam i wella cyfleusterau i bobl anabl yn Stadiwm Cae Ras Prifysgol Glyndŵr.

 

Cyfeiriwyd at hyn yn ystod ail ddarlleniad y Bil Meysydd Chwarae Hygyrch a Mesur Diogelwch Ar-lein wrth i’r gyn-bencampwraig Paralympaidd dalu teyrnged i ymdrechion y cefnogwyr a’r clwb, ynghyd a Chymdeithas Cefnogwyr Anabl Wrecsam wrth ymateb i anghenion yr anabl.

 

Roedd y ganmoliaeth a’r esiampl yma o ymateb yn bositif at ymdrechion Wrecsam i sicrhau cydraddoldeb ymysg eu cefnogwyr yn dra gwahanol i’r diffyg ymdrechion a honnai sydd yn bodoli ymysg rhai o glybiau mwy'r Deyrnas Unedig. Roedd yn barod hefyd i’w cyhuddo o "guddio" pan ddaw at y mater o sicrhau addasiadau ar gyfer mynediad a chyfleusterau i'r anabl.

 

Aeth ymlaen i ddweud mai cywilydd oedd hyd yn oed bod angen codi'r ddadl yma i amlygrwydd yn yr oes ohoni.

 

Dywedodd y Farwnes fod Wrecsam wedi cadw mewn cysylltiad â hi ynglÅ·n â’u datblygiadau a bod eu hagwedd at sicrhau cydraddoldeb yn un hollol bositif a chadarn. Cyfeiriodd nad stadiwm fodern gyfoes ydi Cae Ras Prifysgol Glyndŵr, ond mai dyma’r stadiwm hynaf yn y byd sydd yn parhau i gynnal gemau rhyngwladol.

 

Er mai tîm sydd yn chwarae y tu allan i brif gynghreiriau Lloegr yw Wrecsam ar hyn o bryd,  nid yw hyn wedi eu rhwystro rhag gweithredu mewn dull sy'n cydnabod gwerth pob gwyliwr a chefnogwr a ddaw draw i'w gemau, beth bynnag eu cefndir, anghenion a'u sefyllfa.

 

Mae’r clwb hefyd wedi neilltuo arian a dderbyniwyd o enillion Tarian Elusennol yr F.A. a rhediad y clwb y llynedd yng Nghwpan F.A. Lloegr ar gyfer datblygiadau o'r fath.

 

Cyfeiriodd hefyd fod y clwb wedi gostwng prisiau ar gyfer cefnogwyr cadair olwyn a hyn gan nad yw dewis ganddynt ar ba ran o'r stadiwm y gallant fynd i edrych ar y gêm.

 

Fodd bynnag, mae llwyfan gwylio cadair olwyn gyntaf newydd gael ei agor, a hyn drwy weld ugain o gefnogwyr sy’n ddeiliaid tocyn tymor yn symud eu seddau yn wirfoddol i ganiatáu i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ddefnyddio’r man yna i allu gwylio'r gêm yn ddiogel a chyffyrddus.

 

Yn ogystal, mae cynlluniau ar droed i godi arian ar gyfer dau lwyfan gwylio ychwanegol gydag un ohonynt yn benodol ar gyfer cefnogwyr y gwrthwynebwyr. Dyma, meddai’r Farwnes Grey-Thompson, glwb, sy'n wirioneddol yn gofalu am ei gwylwyr tra bo nifer o glybiau mwyaf Lloegr yn gwneud dim mwy na chuddio .

 

Er hynny, pa bynnag rai o glybiau pêl droed mwyaf Lloegr sydd yn euog o guddio yn y cyd-destun yma, ni ellir cyhuddo Abertawe o hyn.

 

O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (ac yn flaenorol o dan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995), mae gan gyrff chwaraeon ddyletswydd gyfreithiol i wneud addasiadau rhesymol i ddileu rhwystrau sy’n gosod pobl anabl mewn anfantais sylweddol o’i gymharu â phobl nad ydynt yn anabl, fel y gallant gael mynediad i feysydd chwaraeon. Dyletswydd ddisgwylgar yw hon trwy ofyn i’r clybiau ystyried, ymlaen llaw, yr addasiadau sydd eu hangen i hwyluso mynediad i bobl anabl ac ni ddylent aros nes i berson anabl ofyn iddynt wneud addasiad rhesymol.

 

Yn sgil y disgwyliadau yma, mae clwb Abertawe clwb wedi dod ar frig tabl ymchwil diweddar ar sut mae timau Uwch gynghrair Lloegr wedi ymateb i anghenion cefnogwyr ac anabledd er mwyn sicrhau mynediad llawn iddynt i’r gemau yn Stadiwm Liberty. Ymddengys fod Abertawe wedi sicrhau fod ganddynt y  gymhareb uchaf o fannau penodol ar gyfer cadeiriau olwyn o’i gymharu â maint y seddau yn gyfan gwbl yn y stadiwm. Ond nid clwb i aros yn segur ydi Abertawe mwy na Wrecsam, gyda dau gant a hanner o fannau ychwanegol ar gyfer cadeiriau olwyn wedi eu darparu ar gyfer y tymor yma, o’i gymharu â’r cant a hanner a oedd yn  ddisgwyliedig ohonynt.

 

Fel ar y Cae Ras, mae Abertawe wedi ymateb yn fuan i’r Bil Meysydd Chwarae Hygyrch gan ddangos ei fod yn berffaith bosibl i ddarparu lleoliadau hygyrch, golygfeydd a darpariaeth dda ble gall bobol nad ydynt yn anabl, a phobl anabl eistedd ochr yn ochr â’i gilydd.

 

Pob clod felly i glybiau  pêl droed Wrecsam ac Abertawe am ddangos blaengaredd ac arweiniad. Mae’r clybiau Cymreig yma wedi gosod esiampl wych i’r byd pêl droed ac i’r byd ehangach o’r hyn y dylid ei wneud i sicrhau fod cefnogwr, pwy bynnag yr ydynt, yn cael eu cynnwys a’u hystyried ym mywyd eu timau.

 

D’oes ond obeithio y gall clybiau eraill sydd mor barod i wario ffortiwn ar chwaraewyr costus, ddysgu gwers, a dangos yr un  parodrwydd a’r brwdfrydedd i sicrhau cydraddoldeb wrth orchfygu’r rhwystrau hynny sy’n parhau i anwybyddu anghenion pobol anabl o fewn ein cymdeithas y dyddiau yma.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Llyfr "The Soul Of Football" gan Mark Chester

Nesaf

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 21/07/2015