Main content

Torfeydd yr Haf

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Degfed yn y byd, ar drothwy cyrraedd ffeinals Ewro 2016 a’r enwau allan o’r het ar gyfer grwpiau Cwpan y Byd 2018 yn rhoi gobaith arall i ni gyd.

Gyda Chymru wedi ei gosod yn yr un grŵp ac Awstria, Gweriniaeth Iwerddon, Georgia, Serbia a Moldova, mae diddordeb yn y tîm cenedlaethol cymaint os nad mwy nag erioed.

Ond nid ar lefel rhyngwladol, mae’r diddordeb yma yn amlygu’i hun y dyddiau yma.

Gyda dros ddeng mil o bobl wedi mynychu gemau timau Uwch gynghrair Dafabet Cymru ystod yr haf yma, mae'n argoeli’n dda fod yna ddiddordeb newydd o fewn llawr gwlad hefyd, yn enwedig mewn gemau Ewropeaidd. 

O fewn y gemau a welodd Airbus Brychdyn, y Bala, ynghyd a’r Drenewydd a’r Seintiau Newydd yn cystadlu yn erbyn timau o’r cyfandir, fe lwyddodd y timau Cymreig i ennill pum gem, a dod yn gyfartal mewn dwy, gan golli pump arall dros y ddau fis diwethaf. Roedd torf o dros fil o gefnogwyr ym mhob un o’r gemau yma, ar wahân i Airbus a gafodd thorf o dros bum cant.

Yn ogystal, llwyddodd y Rhyl i ddenu torf o dros fil i'w gem gyfeillgar yn erbyn Everton. Daeth torf debyg ei faint i weld ffeinal Cwpan Cymru yn y Drenewydd rhwng y tîm cartref a’r Seintiau Newydd cyn i dorf o dros fil a hanner fynychu Coedlan y Parc yn Aberystwyth bythefnos yn ddiweddarach i weld ffeinal y gemau ail gyfle er mwyn cymhwyso ar gyfer cystadlu yng Nghwpan Ewropa rhwng Aber a’r Drenewydd.

Gyda’r Seintiau Newydd a’r Drenewydd yn llwyddo ar y cynnig cyntaf yn Ewrop, daeth hyn a dwy gêm ychwanegol i dimau Cymru, a bu'r Seintiau mor agos i wneud hyn yn drydedd gêm oni bai am gol yn yr amser ychwanegol i'w gwrthwynebwyr, Videoton o Hwngari. Yn ogystal â gemau Ewropeaidd, rwyf eisoes wedi cyfeirio at ymdrech y Rhyl sydd wedi dangos beth sydd yn bosibl mewn gemau cyfeillgar wrth ddenu torf o dros fil i'w gem yn erbyn tîm o dan un ar hugain oed Everton .

Bydd y clybiau yn gobeithio mai arwydd o ddyfodol mwy llewyrchus o ran nifer y torfeydd yw'r cynnydd yma mewn rhifau, ond gair o rybudd gan fy mod eisoes wedi awgrymu ychydig o wythnosau yn ôl mai cefnogwyr sydd yn mynd i achlysuron yn hytrach na dilyn timau lleol yn rheolaidd ydi nifer o ddilynwyr gemau a chwaraeon y dyddiau yma. A tybed os mai dyma'r rheswm dros y cynnydd yma?

Tipyn o ddŵr oer ar bethau mae’n debyg, ond fe gawn weld! Dywedodd Andrew Howard, Pennaeth Cystadlaethau Cymdeithas Bel Droed Cymru, fod y penderfyniad i gynnal ffeinal Cwpan Cymru dros y penwythnos Gŵyl y Banc ym mis Mai wedi rhoi sbardun i ddenu tyrfaoedd uwch, hwyrach fod  arwyddocâd y gemau wedi bod yn gatalydd, ond mae'r tywydd hefyd wedi bod yn ffactor wrth i bobl hoffi bod yn yr awyr agored yn y tywydd braf.

Tybed felly a yw hyn am weld yr Uwch gynghrair yn ail afael yn y ddadl am gynnal y gemau dros yr Haf, a defnyddio esiampl torfeydd y gemau Ewropeaidd (a gemau cyfeillgar deniadol) fel esiampl i'w dilyn?

Mae hynny'n ddadl dros ail ystyried cynnal yr Uwch gynghrair drwy fisoedd yr haf  ac mae'n anodd dadlau yn erbyn hyn, er nad ydw’i  wedi bod yn rhy gefnogol o hyn yn y gorffennol. Ond os yw torfeydd pitw'r gaeaf am gael eu disodli gan yr awch a'r brwdfrydedd newydd sydd wedi ei danio gan ddiddordeb a chefnogaeth i’r timau drwy Ewrop, yna fe fyddai gweld maint y torfeydd dros y tymor nesaf yn dangos ystadegau diddorol.

Bydd yr Uwch gynghrair yn cychwyn ar nos Wener Awst yr ail ar hugain, gyda gem rhwng y Rhyl a Bangor. Yna ar y Sadwrn bydd pum gem arall, sef Airbus UK Brychdyn yn wynebu  Caerfyrddin a Gap Cei Conna yn croesawu'r Drenewydd. Bydd y newydd ddyfodiaid i’r Uwch gynghrair, Hwlffordd yn cael bedydd tan wrth wynebu'r Seintiau Newydd a bydd y Bala yn teithio i Bort Talbot. Bydd y pum gem yma yn dechrau am hanner awr wedi dau tra bydd MBi Llandudno yn wynebu Aberystwyth am chwarter wedi pump gyda'r gêm yn fyw ar raglen Sgorio ar S4C.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 21/07/2015

Nesaf

Chwilio Am Hoff Gân Gymraeg Y Genedl