Â鶹ԼÅÄ

Mathau o bolygonau

Gall polygonau fod yn rheolaidd neu’n afreolaidd. Os yw’r onglau i gyd yn hafal, a’r ochrau i gyd yr un hyd, mae’n bolygon rheolaidd.

Polygon rheolaidd gydag onglau hafal a pholygon afreolaidd.

Onglau mewnol polygonau

I ganfod swm onglau mewnol polygon, rhanna’r polygon yn drionglau.

Dau bolygon afreolaidd.

Swm onglau mewnol triongl yw 180°. I ganfod swm onglau mewnol polygon, lluosa nifer y trionglau sydd yn y polygon â 180°.

Enghraifft

Cyfrifa swm onglau mewnol pentagon.

Mae 3 triongl mewn pentagon. Swm yr onglau mewnol yw:

\({180}~\times~{3}~=~540^\circ\)

Bydd nifer y trionglau sydd ym mhob polygon ddau yn llai na nifer yr ochrau.

Y fformiwla ar gyfer cyfrifo swm yr onglau mewnol yw:

\(({n}~-~{2})~\times~180^\circ\) (lle mae \({n}\) yn cynrychioli nifer yr ochrau)

Question

Cyfrifa swm onglau mewnol octagon.

Cyfrifo onglau mewnol polygonau rheolaidd

Mae’r holl onglau mewnol mewn polygon rheolaidd yn hafal. Y fformiwla ar gyfer cyfrifo maint ongl fewnol yw:

\(\text{ongl~fewnol~polygon}\) \(\text~=~\text{swm~yr~onglau~mewnol} \div \text{nifer~yr~ochrau}\)

Question

Cyfrifa faint yr ongl fewnol mewn rheolaidd.

Polygon rheolaidd gyda’r onglau hafal wedi eu lliwio’n wyrdd.

Onglau allanol polygonau

Os yw ochr polygon yn cael ei hymestyn, yr ongl sy’n cael ei chreu y tu allan i’r polygon yw’r ongl allanol.

Swm onglau allanol polygon yw 360°.

Polygon afreolaidd gyda’r onglau allanol amryliw, i ddangos eu bod yn adio i 360°.

Cyfrifo onglau allanol polygonau rheolaidd

Y fformiwla ar gyfer cyfrifo maint ongl allanol polygon rheolaidd yw:

\({ongl~allanol~polygon}~=~{360}~\div~{nifer~yr~ochrau} \)

Cofia fod yr ongl fewnol a’r ongl allanol yn adio i 180°.

Question

Cyfrifa faint yr ongl allanol a’r ongl fewnol mewn rheolaidd.

Pentagon sy’n dangos bod ongl allanol (gwyrdd) ac ongl fewnol (melyn) yn adio i 180°.

Question

Cyfrifa onglau allanol y pentagon afreolaidd isod:

Pentagon afreolaidd gyda’r onglau mewnol wedi eu labelu â (o’r chwith i’r dde) 90°, 156°, 78°, 99°, 117°.

Cofia:

  • Swm onglau mewnol triongl yw 180°. I ganfod swm onglau mewnol polygon, lluosa nifer y trionglau mewn polygon â 180°.
  • Y fformiwla ar gyfer cyfrifo swm yr onglau mewnol yw \(({n}~-~{2})~\times~{180^\circ}\), lle mae \({n}\) yn cynrychioli nifer yr ochrau.
  • Mae pob ongl fewnol mewn polygon rheolaidd yn hafal. Y fformiwla ar gyfer cyfrifo maint ongl fewnol yw: ongl fewnol polygon = swm yr onglau mewnol ÷ nifer yr ochrau.
  • Swm onglau allanol polygon yw 360°.
  • Y fformiwla ar gyfer cyfrifo maint ongl allanol yw: ongl allanol polygon = 360 ÷ nifer yr ochrau.